1GWedy y pethæ hyny ydd aeth yr Iesu tros vor Galilaia, neu Tiberias.
2A’ thorf vawr y cynlynawð ef, o bleit yddwynt welet y arwyddion ef, a’r a wnaethoeð ar y cleifion.
3Ac ef aeth yr Iesu ir monyth, ac yno yr eisteddawdd cyd aei ddscipulon.
4Ac ydd oedd hi yn agos ir Pasc, gwyl yr Iuðeon.
5A’r Iesu a gyuodes i vynydd ei lygait, a’ phan weles dyrfa vawr yn dyuot attaw, ef a dyvot wrth Philip, O b’le y prynwn vara, val y caffo yr ei hynn beth yw vwyta?
6(a hynn a ddywedawdd, yw brobi ef: can ys efe a wyddiat peth a wnelei)
7Philip a atepawdd iddaw, Nid oedd ddigon gwerth daucant ceiniawc o vara yddwynt, y gahel o pop vn o hanwynt ychydic.
8Yna y dyvot wrthaw vn oei ddiscipulon, ys ef Andras, brawt Simon Petr,
9Mae yma vachcenyn, a’ phemp torth haidd ganthaw, a’ dau pyscodyn: eithyr beth yw hynny ymplith cynniver?
10A’r Iesu a ddyvot, Gwnewch ir dynion hyn eistedd, (Ac ydd oedd yno wellt‐glas lawer) yno yr eisteddawdd y gwyr yn‐cylch pemp mil o rifedi.
11A’r Iesu a gymerth y bara, ac a ddiolches, ac ei rhanoð ir discipulon, a’r discipulō, ir ei oeddynt yn eisteð: a’r vn moð or pyscot cymmeint ac a vynnesont.
12A’ gwedy yðwynt gahel digon, ef a ddyuot wrth ei ðiscipulō, Cesclwch y brivwyt a weðilloð, rac colli dim.
13Yno y casclasont, ac a lanwesant dauddec bascedait or briwvwyt, or pemptorth haidd’oedd yngweddill can yr ei a vesynt yn bwyta.
14Yno pan welawð y dynion wneythyd or Iesu yr arwyð hyn, y dywedesant, Diau mae hwn y’w Prophwyt a ddauei ir byt.
15Velly pan wybu Iesu vot yn y bryd hwy ddyuot, a’i gymryd ef yw wneuthur yn Vrenhin, ef a dynnawdd heibio drachefyn ir mynyth vvrtho y hunan.
16Gwedy daruot yddei hwyrhay, y ddiscipulon ef a ddescenesont i’r mor,
17ac a aethant i’r lhong, a’ myned tros y mor tu a Chapernaum: ac weithiō ydd oedd hi yn dywyllvvch, ac ny ddaethoeddoedd yr Iesu atwynt.
18A’ chodi o’r mor y gan wynt mawr yn chwythu.
19A gwedy yddynt rwyfo yn‐cylch pemp stad ar vcain, neu ddec stad ar ycain, wy welent yr Iesu yn gorymddaith ar y mor, ac yn dynesau at y llong: ac ofny a wnaethant.
20Ac ef a ddyuot wrthynt, Mivi yw: nac ofnwch.
21Yno yn ewyllysgar yd erbyniesont ef ir llong, a’r llong oedd yn y van wrth y tir ir lle ydd elent.
22Tranoyth y popul yr ei a safai y tu arall ir mor, a welawdd nad oedd llong arall yno, anyd yr vn, yr aethei ey ðiscipulon yddhi, ac nad aethesei yr Iesu y gyd ei ddiscipulon i’r llong, eithyr myned ymaith o ei ddiscipulon ef vvrthyn yhunain,
23a’ dyuot llongae eraill o Tiberias yn gyfagos ir van lle y bwytesent y bara, gwedy ir Arglwydd ddiolwch.
24And pan welawdd y popul nad oedd yr Iesu yno, na ei ddiscipulon, a’ nwythe a gymeresont longae, ac a daethont i Capernaum, gan geisiaw yr Iesu.
25A’ gwedy yddwynt y gahel ef y tu arall ir mor, wy ddywedesont wrthaw, Rabbi, pa bryd yd aethost yman?
26Yr Iesu a atepawdd ydd‐wynt, ac a dyuot, Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, Nyd ych i’m caisiaw, o bleit ywch welet y gwyrthiae, anyd o bleit ywch vwyta o’r torthae, ach’ llenwi.
27Na thraveiliwch am y bwyt a gollir, eithyr am y bwyt a barha i vywyt tragywythawl, yr hwn a rydd Map y dyn y chwi: can ys hwn a inseliawð Duw ’r Tad.
28Yno y dywedesont wrthaw, Pa beth a wnawn val y gallom weithiaw gwaithredoeð Duw?
29Yr Iesu a atepawð ac a ddyuot wrthynt, Hyn yw gwaithret Duw, credu o hanoch yn yr hwn a ddanvonawdd ef.
30Dywedesont gan hyny wrthaw, Pa ’r arwydd gan hyny a wnei di, val ey gwelom, ac y’th’ credom? pa beth wyt’ yn ei weithredu?
31Ein ni a vwytesont y Manna yn y diffeithvvch, megis y mae yn scrivenedic, Bara o’r nef a roes ef yddwynt yw vwyta.
32Yno y dyvawt yr Iesu wrthwynt, Yn wir, yn wir y dywedaf ychwy, Nyd Moysen a roes y‐chwi ybara hwnw o’r nef, eithyr y Tat meuvi ysy yn rhoddi y‐chwy y gwir vara o’r nef.
33Can ys bara Duw y dyw’r hwn ’sy yn descend o’r nef, ac yn rhoddy bywyt i’r byt.
34Yno y dywedesont wrthaw, Arglwydd, byth dyro i ni y bara hwn.
35Dywedawð yr Iesu wrthynt, Mivi yw ’r bara ’r bywyt: yr vn a ddel ata vi, ny ’s newyna ddim, a’r vn a gred yno vi, ny sycheda byth.
36Eithyr mi ddywedais ychwy, can ac ychwy vy‐gweled, ac ny chredesoch.
37Oll a’r y mae ’r Tat yn y roi y my, a ðaw ataf: a’ hwn ’sy yn dyuot ataf, ny’s bwriaf allan.
38Can ys descenais o’r nef, nyd i wneythu ’r vy ’wyllys i, eithyr ewyllys yr vn am danvonoð i.
39A’ hyn yw ’wyllys y Tat yr hwn a’m danvonawð i, na bo o’r oll a roddes ef i mi, golli o hanof ðim, eithyr ei gyvodi drachefyn yn y dydd dywethaf.
40A’ hyn yw ’wyllys yr hwn a’m danvonawdd i, bod y bawp dyn a’ra wyl y Map, ac a gred yndaw, gahel bywyt tragyvythawl: a’ mi y cyfodaf ef y vynydd yn y dydd dywethaf.
41Yno y murmuresont yr Iudaeon wrthaw, o bleit dywedyt o hanaw, Mivi yw’r bara, a ddescendas o’r nef.
42A’ dywedyt a wnaethant, Anyd hwn yw Iesu map Ioseph, yr hwn a adwaenom ni y dat a y vam? pa vodd gan hyny a dywait ef, mai O’r nef y descendais?
43Yno atep o’r Ieshu a’ dywedyt wrthynt, Na vurmurwch yn eich plith.
44Ny aill nep ddyvot ata vi, o ddyeithr ir Tat, yr hwn am danvonawdd i, y dynnu ef: ac mi y cyfodaf ef y vyny yn y dydd dywethaf.
45Y mae yn escrivenedic yn y Prophwyti, Ac wy a vyddant oll dyscedic y gan Dduw. Pawp dyn gan hyny a’r a glybu, y gan Tat, ac a ddyscawdd, a ddaw at y‐vi.
46Nyd erwydd gweled o nep y Tat, anyd yr vn y ’sydd o Dduw, ys ef a welawdd y Tat.
47Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, Yr vn a gred yno vi, mae yddaw vuchedd dragyvythawl.
48Mivi yw ’r bara ’r vuchedd.
49Eich tadae chvvi a vwytesont y Manna yn y diffeithvvch, a’ marw a wnaethont.
50Hwn yw ’r bara sy yn descēd o’r nef, yd pan yw i’r neb a vwytao o hanaw, na bo marw.
51Ys mi yw ’r bara bywiol, yr hwn a ðescendais o’r nef: a’s bwyty nebun o’r bara hwn e vydd byw byth: a’r bara a roddwy vi, vy‐cnawd yw, yr hwn a roddwy vi tros vywyt y byt.
52Yno yr ymrysonent yr Iuddeon a ei gylydd, gan ddywedyt, Pa vodd y gaill hwn roddi i ni y gnawd yvv vwyta?
53Yno y dyvawt yr Iesu wrth‐wynt, Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, A ny vwytewch’ gnawt y Map y dyn, ac yfet ei waet, nyd oes y chwy vywyt ynoch.
54Pwy pynac a vwytao vy‐cnawd i, ac a yfo vy‐gwaet, y mae iddaw vywyt tragyvythawl, a’ mi y cyfoda ef y vyny yn y dydd dyweddaf.
55Can ys vy‐cnawd i y sydd wir vwyt, a’m gwaed i ’sy wir ddiawt.
56Hwn a vwyty vy‐cnawd, ac a yf vy‐gwaed, a dric yno vi, a mi yndo ef.
57Mal yd anvonawð vi y byw Dat, velly y byw vi trwy y Tat, a’ hwn a’m bwyty i, byw vyð yntef trywo vi.
58Hwn yw ’r bara a ðescennodd o’r nef: nyd val y bwytaodd ych tadae chwi y manna, a’ marw o hanynt. Yr vn a vwyty o’r bara hwn, a vydd byw byth.
59Y pethe hyn a ddyvot ef yn y Synagog, gan y dyscu hvvy yn‐Capernaum.
60Llawer gan hyny o ey ddiscipulon (wrth glybot hyn) a ddywedent, Calet yw’r ymadrodd hyn: pwy a aill ei glybot?
61Eithyr yr Iesu yn gwybot yndo ef bot ei ddiscipulon yn murmuro wrth hyn, a ðyvot wrthynt, A ydyw hyn ych rhwystro chwi?
62Beth pe’s gwelech Vap y dyn yn escend i’r lle’r oedd ef gynt.
63Yr Yspryt yw’r peth a vywha: ny lesa ’r cnawt ddim: y geiriae ydd wy vi yn ei ymadrodd wrthych yspryt a’ bywyt ynt.
64Eithyr y mae ’rei o hanoch ny chredāt: can ys‐gwyðiat yr Iesu o’r dechreuat, pa ’rei oeddent a’r ny chredent, a’ pha‐vn y bradychei ef.
65Ac ef a ddyvawt, Am hyny y dywedais wrthych, na aill nep ddyvot ata vi, any’s rhoðir ydd‐aw y gan vy‐Tat.
66O’r pryd hyny allan yr ymadawodd llawer o ei ddiscipulon, ac ny rodiesont mwy y gyd ac ef.
67Yno y dyuot yr Iesu wrth y dauddec, A wyllysw‐chwithev hefyt vyned ymaith?
68Yno ydd atepawdd Simon Petr yddaw, Arglwydd, at pwy ’r awn? Y mae genyt ’airiae buchedd tragyvythawl:
69ac ydd ym ni yn credu ac yn gwybot may ti yw’r Christ y Map Duw byw.
70Yr Iesu ei hatepoð, Anyd mi ach detholais chwi ddauddec, ac o hanoch y mae vn yn ddiavol?
71Ac ef ddywedei hyny am Iudas Iscariot ’ap Simon: can ys hwn oedd ai vryd ar y vradychu ef, ac efe yn vn o’r deuddec.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.