1DY vawrygy awnaf, Arglwydd, can ys derchefeist vi, ac ny lawenecheist vy=gelynion am danaf.
2Arglwyd vy=dew, dolefeis arnat’ a’thithae am iachéist.
3Arglwydd, dugeist vy eneit y vyny o’r bedd: bywéaist vi ywrth yr ei ’sy yn, descen i’r pwll.
4Can=molwch yr Arglwydd y sainct ef, a’ chlodvorwch goffaduriaeth ei sancteiddrwydd.
5Can na phery ef enhyd bach yn ei lit: ac yn ei garennyd y mae bywyt: wylofain aros echwyð, anid gorvoledd y borae.
6A’ mi ddywedwn yn vy llwyddiant, Ni’m yscogir yn tragyvyth.
7[Can ys,] Arglwydd oth ddaoni y gwneytheist i’m mynyth sefyll yn gadarn: cuddiaist dy wynep. ac im cynnyrfwyt.
8[Yna] y llefeis arnati, Arglwydd, ac y gweddiais ar yr Arglwydd.
9Pa vudd yn vy=gwaet, pan ddescenwyf i’r pwll? a vydd i’r llwch dy glodvory? a venaic ef dy wirionedd?
10Clyw Arglwydd, a’ thrugará wrthyf: Arglwydd, byð ganhorthwywr ymy.
11[Ys] ymchweleist vy=galar yn llewenydd: d’atodeist vy sach[wisc], a’ gwregeseist vi a llawenydd.
12Erwydd hynny ith can mawl vy tavot ac ny thau: Arglwydd vy=Dew, mi ath glodvoraf yn tragyvyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.