1A Galatieit ynfidion, pwy a’ch llygatdynawdd chwi, val na ’lynech wrth y gwirionedd, i ba ’r ei y racyscythrwyt, Iesu Christ o vlaen eich llygait, ac yn eich plith y crogwyt?
2Hyn yn vnic a chwenychwn ei ddyscu genwch, Ai wrth weithredd y Ddeddyf yd erbyniesoch yr Yspryt, ai wrth glywet precethu’r ffydd?
3A ytych mor ynfydion, a’ gwedy ywch ddechreu yn yr Yspryt, y mynech yr awrhon eich perffeithio gan y cnawt?
4A ddyoddefesochvvi gymeint o betheu yn over? ac a’s yn over yvv.
5Yr hwn gan hyny ’sydd yn trefnu ywch yr Yspryt, ac ’sy’n gwneuthur gwyrthieu yn eich plith, a wna ef hyny wrth weithrededd y Ddeddyf, ai wrth glywet y ffydd gvvedy hei phrecethu?
6Nid amgen megis y credawdd Abraham y Dduw, ac ei cyfrifwyt y‐ddaw yn gyfiawnder.
7Gwybyddwch gan hyny, mae yr ei y ’sydd or ffydd, yr ei hyn yw plant Abraham.
8Can ys yr Scrythur yn rac welet, y cyfiawnei Duw y Cenetloedd trwy ffydd, a rac euangelawdd i Abraham, gan ddywedyt, Yno‐ti y bendithir yr oll Genetloedd.
9Ac velly yr ei ’sydd o’r ffydd, a vendithir y gyd a’r ffyddlawn Abraham.
10Can ys cynniuer ac ynt o weithredd y Ddeddyf, y dan velltith y maent: can yscrivenedic yw, Ys malldigedic pop vn nyd erys yn yr oll petheu, a yscrivennir yn llyfer y Ddeddyf, y’w gwneuthur vvynt.
11Ac na chyfiawnir nebun wrth y Ddeðyf yn‐golwc Duw, amlwc yw: can ys y cyfiawn vydd‐byw wrth ffydd.
12A’r Ddeddyf nyd yw o ffydd: eithyr y dyn a wnel y petheu hyny, a vydd byw yntynt vvy.
13Christ a’n prynawdd ni ywrth velldith y Ddeddyf, pan wnaethpwyt ef yn velldith trosam, (can ys y mae ’n scrivenedic, Ys malldicedic pop vn ’sy ynghroc a’r bren)
14val y delei vendith Abraham ar y Cenetloedd trwy Christ Iesu, val yd erbyniem addewit yr Yspryt trwy ’r ffydd.
15Broder, dywedyt ydd wyf val y gvvna dyniō, Cyd na bo and ambot dyn gwedy y cadarnheir, eto ny ddirymia neb ef, ac ny ðyd dim wrtho.
Yr Epistol y xiij. Sul gwedy Trintot.
16Weithion i Abraham ac y’w had y gwnaethpwyt y gaddeweidion. Ny ddywet ef, Ac i’r hadae, megis yn dyvvedyt am lawer: eithyr, Ac ith had ti, megis am vn, yr hwn yw Christ.
17A’ hyn a ddywedaf, am y Ddeddyf yr hon oedd petwarcent a dec blynedd ar vcain gwedy, na ddichon hi ðiðymio yr Ambot yr hon a racgadarnheit gan Dduw erwydd Christ, val y dirymia hi yr aðewit.
18O bleit a’s o’r Ddeðyf y mae ’r etiveddieth, nyd yvv ynteu mwy wrth y gaddewit, eithr Duw a roðes yr etiueddieth i Abraham wrth ’addewit.
19I ba beth gan hyny y gvvasanaetha ’r Ddeddyf? O bleit trosoddeu y doded y hi, y’n y ðelei yr had hvvnvv y gwnaed yr addewit yddaw: ac y hi a ordeiniwyt gan Angelion yn llaw Cyfryngwr.
20A’ Chyfrynggwr nyd yw i vn: eithyr Duw ’sydd vn.
21 A yvv ’r Ddeddyf gan hyny yn erbyn yr a ddeweidion Duw? Ymbell oeð: Can ys pe rhoesit Deðyf a allesei beri bywhau, yn wir e vesei cyfiawnder o’r Ddeðyf.
22Eithyr yr Scrythur ’lan a argaeawdd yr oll petheu y dan pechot, y’ny roðdit y gaddewit wrth ffydd Iesu Christ ir sawl a credant.
23Eithr cyn na dyvot y ffydd, in cedwit y dan y Ddeddyf, ac in goarchëit ir ffydd, a ddatguddit rhac llaw.
24Ac velly y Ddeddyf oedd ein hathro in dvvyn at Christ, val in cyfiawnheit ni wrth ffydd.
25Eithr wedy dyuot y ffydd, nyd ym ni mwyach y dan athro.
26Cā ys chwi oll’sy yn plant i Dduw gan y ffydd yn‐Christ Iesu.
27Can ys chvvychvvi oll a’r a vatyddiwyt i Christ, a wiscesoch Christ.
28Nyd oes nac Iuddew na Groecwr: nid oes na chaeth na rryð: nyd oes na gwrryw na benyw: can ys yr vn ydyw‐chwi oll yn‐Christ Iesu.
29Ac a’s i Christ yddyvvch, yno yð ywch yn had Abraham, ac yn etiueðion wrth aðewit.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.