1YDd oedd hefyt yn yr Eccles ytoedd yn Antiocheia, Prophwyti ’rei a’ dyscyawdron, megis Barnabas, ac Simeon y elwit Niger, a ’Lucius o Cyrene, ac Manahen (yr hwn y ddaroedd ei gyd vaethrin gyd ac Herod y Tetrarch) ac Saul
2Ac mal ydd oeddent wy yn gweini ir Arglwydd, ac yn vmprydiaw, y dyvot yr Yspryt glan, Didolwch i mi Barnabas ac Saul, ir gwaith y gelwais am danwynt.
3Yno ydd vmprydiesont, ac y gweðiesont, ac y dodesont ei dwylaw arnaddvvyynt, at y gellyngesont yvv hynt.
4Ac wynte wedy ei d’anvon ymaith y gan yr Yspryt glā, aethan y wared y Selcucia, ac o ddyno mordwyaw a’ orugant y Cyprus.
5Ac pan oeddent yn Salamis, y precethesant ’air Dew yn Synagae yr Iuðeon: ac ydd oedd Ioan hefyt yn wenidawc yddvvynt.
6Ac wedy yddwynt gerddet dros yr ynys yd yn Paphus, wy a gawsant ryw swynwr, gau prophwyt, o Iddew, a’ei enw Bariesus,
7yr hwn ytoeð y gyd a’ Raglaw Sergius Paulus, vn oedd wr prudd. Ef e a ’alwodd‐ato am Barnabas ac Saul, ac a ddesyfawdd cael clywet gair Dew.
8Ac Elymas, y swynwr (can ys velly ytyw ei enw oei ddeongyl) a wrthladdawdd yddwynt, gan geisiaw d’atroi y Raglaw o’r ffydd.
9Yno Saul (yr hvn hefyt a elvvir Paul) yn gyflawn or Yspryt glan, a hylldremiawdd arnaw,
10ac a ddyvot, A gyflawn o bop dichell a’ phop twyll, map diavol, a’ gelyn pop cyfiawnder, a ny pheidy a dychwelyd vnion ffyrdd yr Arglwydd?
11Ac yn awr, nachaf, llaw yr Arglwydd ys yd arnat, a’ dall vyddy, ac eb welet yr haul dros amser. Ac yn ddiatrec y syrthiawdd arno niwlen a’ thywyllwch ac ef aeth o y amhylch, y geisiaw llaw‐arweinwyr.
12Yno y Raglaw pan welas yr hyn a wnaethit, a credoð, gan ryveddy wrth ddysceidaeth yr Arglwydd.
13Pellach, wedy daroedd i Paul a’r ei oedd gyd ac ef ddiangori y wrth Paphus y daethant i Perga dinas ym‐Pamphilia: yno yr ymadaodd Ioan ac wynt, ac a ymchwelawdd i Caerusalem.
14Ac wedy yddwynt vyned ymaith o Perga, wy ddaethāt i Antiocheia dinas ym‐Pisidia, ac mynet y mewn ir Synagog y dyð Saboth, ac eisteð a ’orugant.
15Ac yn ol y llith y Ddeddyf a’r Prophwyti, yr archsynagogwyr a dd’anvonesont attwynt, gan ddywedyt, Ha wyr vroder, a’s oes genwch neb gair eiriol ir popul, dywedwch rhagoch.
16Yno y cyvodes Paul ac wedy yddo amneidio a llaw am ’oystec, y dyvot, A wyr yr Israel, a’r sawl ’sy yn ofny Dew, gwrandewch.
17Dew y popul hynn yr Israel a ddetholes ein tadae, ac a dderchafawdd y popul pan oedd yn preswiliaw yn tir‐yr Aipht, ac a braich goruchel y duc ef wynt allan oddynaw,
18ac amgylch amser danugain blynedd y goddefawdd ef y moesae hwy yn y dyffaithvvch.
19Ac wedy yddaw ddiley saith cenetl yn‐tir Chanaan, y parthawdd ef y tir hwy yddwynt a choelbren.
20Ac wedy hyn y rhoes ef yddynt vrawdwyr yn‐cylch petwar‐cant a’ dec a dauugain o vlynyðedd, yd ar amser Samuel y Prophet.
21Ac yn ol hynny yr archasant gael Brenhin, ac y rhoes Dew yðwynt Saul, vap Cis gwr o lwyth Beniamin dros yspait dauugain blynedd.
22Ac yn ol y ysmuto ef, y cyvodes ef Ddauyð yn Vrenhin yddwynt, am ba vn y testiawdd ef, gan ddywedyt, Ys cefeis Ddauydd vap Iesse, gwr herwydd vy‐calon, yr hwn a wna pop peth a’r ewyllysiwyf.
23O had hwnn yma y cyvo‐des Dew wrth ei addewit ir Israel, yr Iachawdr Iesu:
24pan precethodd Ioan yn gyntaf o vlaen y ddyvodiat ef, vatyð ediveirwch ir oll popul Israel.
25Ac pan gyflawnoð Ioan ei gerðet, y dywedoð, y neb a veddylwch vy‐bot i, nid hvvnvv yw vi: eithyr wele, y mae vn yn dyvot ar vy ol i, yr hwn nid wyf deilwng y ddatdod escit ei draet.
Yr Epistol ddie Marth Pasc.
26 A wyr vroder, plāt cenedlaeth Abraham, a’ pha’r ei bynac yn eich plith ys ydd yn ofny Dew, y chvvychwi yd anvonwyt gair yr iecheit hwnn.
27Can ys preswylwyr Caerusalem a’ ei llywodraethwyr cā nad adnabuont ef, nac eto llefae yr Prophwyti, yr ei a ddarllenir pop dydd Sabbath, y gyflawnesant wy, can y varny ef,
28a chyd na chawsant ddim achos angae arnavv, val cynt yr archasant vvy ar Pilat y ladd ef.
29Ac gwedy yddwynt gwplay pop peth a escrivenesit o hano, eu descenesont i ar y pren, ac ei dodesont ym‐monwent.
30Ac Dew y cyvodes ef i vynydd o veirw.
31Ac y gwelwyt ef lawer dydd y ganthwynt, yr ei ddaeth i vynydd gyd ac ef o Galilaia i Caerusalem, y sawl ys yn testion iddo wrth y popul.
32A’ nineu dd’ym yn manegy y chwy, am yr addewit a wnaethpwyt ir tadae,
33ddarvot i Ddew ei gyflawny y nyni y plant wy, can iddo gyvody Iesu, megis ac yð escrivenir yn yr ail Psalm, Y map meu yw ti: myvi heðyw ath genetlais.
34Ac am iddaw y gyvody ef o veirw ny mwyach ar adymchoelyd ir bedd, y dyvot val hyn, Roðaf ychwy sanctawl bethae Dauid, yr ei ynt ffyðlon.
35Erwydd paam y dywait ef hefyt yn lle arall, Ny adewy ith Sanct welet llwgredigeth.
36Can ys Dauid eisioes gwedy iddaw wasanaethy ei oes, drwy gyccor Dew, ef a hunawdd, ac a osodwyt gyd aei dadae, ac a welawdd lygredigeth.
37Eithr ef e ’rhwn a gyvodoð Dew i vynydd, ny welas ddim llwgredigaeth.
38Can hyny bid wybodedic y chwy, hawyr vroder, may trwy hwn yma y precethir ychwy vaddeuant pechatae.
39Ac ywrth pop peth, y gan ba r’ei ny ellit eich cyfiawny trwy Ddeðyf Moysen, ys trwy ddaw ef pop vn a creta, a gyfiawnir.
40Gwilwch am hyny, rac dyvot arnoch, y peth a ddywedir yn y Prophwyti,
41Edrychwch ddirmygwyr, a’ rhyveddwch, a’ diflanwch ymaith: can ys, gweithiaf weithred yn eich dyddiae, gweithredd ny’s credwch, a byddei y neb ei vanegy ychwy.
42Ac wedi ei ei dyvot wy allan o Synagog yr Iuddaeon, ydd atolygawdd y Cenetloedd preceo hanynt y geiriae hyn y ddwynt y dydd Sabbath nesaf,
43A’ gwedy ymadael or Gynnulleidfa, llawer or Iuddaeon, ac o proseliteit o’r oeð yn ofny Dew, a ddylynesant Paul ac Barnabas, yr ei a lavarodd wrthwynt, ac a annogawdd arnaddwynt ar aros yn rrat Dew,
44A’r dydd Sabbath nesaf, y daeth yr holl ddinas haiach ir vn lle y vrandaw gair Dew.
45A’ phan welas yr Iuddaeon y popul, y cyflawnwyt wy o genvigen, ac a ðywedesant yn erbyn y pethae, a ddywedwyt gan Paul, gan ei gwrth‐ddywedyt a’ ei caply.
46Yno y llevarawdd Paul a’ Barnabas yn hederus, gan ddywedyt, Rait oedd ymadrodd gair Dew yn cyntaf y chvvy chwi: anid can y chwi ei wrthladd e a’ch barny eichunain yn anteilwng o vywyt tragyvythawl, nachaf, nyni yn ymchwelyt at y Cenetloeod.
47Can ys velly y gorchymynawdd yr Arglwydd y ni, gan ddyvvedyt. Gosodeis dydi yn leuver ir Cenetloedd, y n y bych iachyt yd ar ddyweð y byt.
48A’ phan glybu yr Cenetloedd, llawenhay a wnaethant, a gogoneddy gair yr Arglwydd, a’ chyniver ac a ordinesit ir bywyt tragyvythawl, a gredesant.
49Ac val hynn y cyhoeddit gair yr Arglwydd trwy gwbyl o’r wlat.
50A’r Iuddaeon oedd yn cynnyrfy rei or gwragedd devosionol ac anrydeddus, a’ phennaethieit y dinas, ac y godesont ymlit yn erbyn Paul ac Barnabas, ac ei gyrresont allan oei tervynae hvvy.
51A’ hwynteu a yscytwesant y llwch i wrth ei traed, yn y herbyn hwy, ac a ddaethant i Iconium.
52A’r discipulon a gyflawnit o lawenydd ac o’r Yspryt glan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.