1 CYmret dyn nyni mal hyn, megis gweinidogion Christ, a’ llywodraethwyr dirgelion Duw.
2Acam ben hyn, y gofynynnir gan y llywodraethwyr, gael pop vn yn ffyddlon.
3Am dana vi, lleiaf dim cenyf, bot im barnu genwch, neu gan varn dyn: ac nyd wyf chwaith im barnu vy hunan.
4Can na wn i arna vy hun ddim evoc, anyd ny’m cyfiawnheir er hyny: eithyr yr hwn am barn i, yw yr Arglwydd.
5Er mwyn hyny na vernwch ddim cyn yr amser, y’n y ddel yr Arglwydd, rhwn a ’oleuha guddiedigion betheu ’r tywyllwch, ac a eglurha veddylyae’r galon, ac yno y bydd moliant y bawp gan Dduw.
6Sef y petheu hyn, vrodur, ar gyffelypiaeth a gyssoneis ata vyhun ac Apollos, er eich mwyn chwi, val y dyscech wrthym ni, na bo y neb ryvygu yn uwch nac hyn a yscrifenwyt val nad ymchwyðo vn yn erbyn y l’all er mwyn nebū.
7Canys pwy ath ’ohana di? a’ pha beth ’sygenyt a’r ny dderbynieist? ac a’s derbyniest, paam ydd ymhoffy di, megis na’s derbyniesyt?
8Yn awr yð yw‐chwi yn llawn: yn awr ich cyvoethogwyt: yð ych yn tëyrnasu ebom ni, a’ Duw na baech yn teyrnasu val y teyrnasem nineu y gyd a chwi.
9Can ys ydd wyf yn tybiet vod y Dduw ein danvon ni yr Apostolion dywethaf, val ’r ei wedy ei darparu y angeu: can ys in gwnaethpwyt ni yn ys‐ddrych ir byt, ac i’r Angelion, ac i ddynion.
10Ydd ym ni yn ffolieit er mwyn Christ, a’ chwithe yn ddaethion in‐Christ: nyni yn weinion, a’ chwithe yn gryfion: chvvychwi yn anrydeddus, a’ nineu yn ddianrydedd.
11Yd yr awr hon ydd ym ni yn newynu, ac yn sychedu, ac yn noethion, ac in bonclustir, ac eb wastadva,
12ac yn lavurio gan weithio an dwylo ein hunain: nyni a gawn senneu a ’bēdithio ydd ym: ydd ys in hymlid, ac ydd ym yn dyoddef.
13Ydd ys in cablu, ac ydd ym yn gweddio: in gwnaethpwyt ni val carthion y byt, yn greifion pop peth, yd hyn.
14Nyd wyf yn yscrivennu y pethe hyn er eich cywilyddio, anyd val vy‐plant caredigion ydd wyf ich rybuðio.
15Can ys cyd bei y chwi ðec mil o athrawon in‐Christ, er hyny nyd oes ychvvi nemor o dadeu: can ys in‐Christ Iesu myvi a’ch enillais trwy’r Euangel.
16Am hyn yr atolygaf ywch’, vot yn ddilynwyr i mi.
17O bleit hynn yd anvonais Timothëus atoch yr hwn yw vy‐caredic vap, a’ ffyddlon yn yr Arglwydd, yr vn a goffa i chwi vy ffyrdd i yn‐Christ megis yddwyf ympop lle yn ei dyscu ym‐pop‐Eccles.
18Y mae ’r ei wedy ymchwyddo vegis pe na ddelwn atoch.
19Eithyr mi ddawaf atoch ar vyrder, a’s ewyllysa yr Arglwydd, ac a wybyddaf, nyd ymadrodd yr ei ’sy vvedy ’r ymchwyddo, anyd y meddiant Ysprydol.
20Can ys teyrnas Duw nyd yvv yn‐gair, anyd ym‐meddiant.
21Beth a ewyllysiwch? a ddawaf vi atoch’ a gwialen, ai a chariat, ac yn Yspryt boneddigeiddrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.