2. Corinthieit 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Datcan y mae ef vaint y budd a ddaw ir ffyddlonieit ywrth ei cystuddedic dravaelon. A’ rhac yddyn vwrw yn yscavnder meddwl arnaw, ddarvod iddo oedi ei ddyvodiad yn erbyn ei addewid, y mae ef yn provi ei ddwysfryd ai ddianwadalwch, yn gystal gan ei burdep yn precethu, a’ hefyt gan ddiysmudedic wirionedd yr Euangel. Yr hon wirionedd a ddysylir ac a’rwndwelir a’r Christ, ac a inselir yn ein calonae gan yr Yspryt glan.

1PAul Apostol Iesu Christ trwy ewyllys Duw, a’n brawd Timotheus, at Eccles Duw, ys ydd yn Corinthus y gyd a’r oll Sainctæ, yr ei ’sydd yn Achaia:

2Rat vo gyd a chwi, a’ thāgneðyf y gan Duw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ.

3Bēdigedic yvv Duw ’sef Tat Arglwydd Iesu Christ, Tat y trugareddae, a’ Duw yr oll ddiddanwch,

4yr hwn a’n diðana ni yn ein ol’ ’orthrymder, val y gallom ðiðanu yr ei ’sy mewn dim gorthrymder, trwy ’r diddanwch in diddenir ninheu gan Dduw.

5Can ys megis yr amlheir dyoddefiadae Christ ynom, velly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Christ.

6A’ phwy vn bynac ai in gorthrymer, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn ryw ddyoddefiadae, yr ei ddym ni hefyd yn y dyoddef: ai diddaner ni, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv.

7Ac y mae ein gobeith yn ffyrf am danoch, can y ni wybot megis ac ydd ych’ yn gyfranocion o’r dyoddefiadae, velly y byddvvch hefyt gyfranoc o’r diddanwch.

8Can ys vroder, ny vynē ywch’ anwybot am ein gorthrymdr, y vu i ni yn yr Asia, sef val y pwyswyt arnam yn anveidrawl dros ben ein gallu, megis ydd oeddem‐mewn‐trachyfing-gyngor, ac am yr einioes.

9Do, ni a dderbyniesam varn angeu ynam, val na ’obeithem ynam ein hunain, anyd yn‐Duw, yr hwn a gyvyd y meirw.

10Yr hwn a’n gwaredawdd ni ywrth gyfryw ddirvawr angeu, ac ’sy yn ein gwaredu: yn yr hwn y gobeithiwn, in gwareda rhac llaw,

11a’s chvvychwi a gydweithiwch yn‐gweddi trosam, pan yw tros y dawn a roddet y ni er mvvyn llawer, bod roi diolvvch gan lawer dyn y trosam.

12Can ys ein gorvoledd ni yw hyn, sef testiolaeth ein cydwybot, can ys yn symlder a’ duwiol burdep, ac nyd yn‐doethinep cnawdawl, anyd gan rat Duw y bu i ni ymgydtro yn y byt, ac yn ben ddivaddef tu ac ato‐chwi.

13Can nad ym yn scrivennu amgenach betheu atoch’, nac y ddarllenwch, neu ar ydd ych yn ei cydnabot, ac a ’obeithaf y cydnabyddwch yd y dywedd.

14Sef megis y cydnabuoch ni o ran, ein bot yn orvoledd ychwi, megis ac ydd yw chwithe i ninheu, yn‐dydd yr Arglwydd Iesu.

15Ac yn y gobaith hyn ydd oedd im bryd i ddyvot atoch y tro cyntaf, val y caffech ddau rat,

16a’ myned hebo‐chwi i Macedonia, a’ dyvot drachefn o Macedonia atoch, a’ chael vy hebrwng genwch tua Iudaia.

17Can hyny pan oeddwn yn amcanu val hyn, a arverwn i o yscavnder? neu wyfi yn amcanu y petheu ’r wy ’n amcanu, erwdd y cnawd, val y byddei gyd a myvi, Do, do, ac Na ddo, na ddo.

18Sef ys ffyddlon yw Duw, na bu ein gair tu ac atoch, Do, ac Na ddo.

19Can ys Map Duw Iesu Christ yr hwn a precethwyt yn eich plith chvvi genym ni, ’sef myvi, a’ Siluanus a’ Thimotheus, nyd ytoedd, Do, ac Na ðo: eithyr yndo ef, Do y doedd.

20Can ys oll addewidion Duw yndo ef ynt Do, ac ynt yndaw ef Amen, er gogoniant Duw trwyddom ni.

21A’ Duw yw ’r hwn a’n cadarna ni y gyd a chwi yn‐Christ, ac a’n enneinioð ni.

22Yr hwn hefyt a’r inseliawð, ac a roes ernes yr Yspryt yn ein calonau.

23Ac ydd wy vi yn galw Duw yn test i’m enait, may i’ch arbed chwi, na ddaethym i yd hynn i Corinthus.

24Nyd can eyn bot yn arglwyðiaw ar eich ffyð chvvi, anyd ein bot yn ganhorthwywyr ich llawenyð: can ys gan ffydd y sefwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help