1YNo yr Iesu chwech diernot cyn y Pasc a ddaeth i Bethania, lle yr oeð Lazarus, y vesei varw, ’rhwn a godesei ef o vairw.
2Wy wnaethēt y‐ddaw yno swper, a’ Martha oedd yn gwasanaethu: a’ Lazarus oedd vn or ei a eisteddent i vwyta y gyd ac ef.
3Yno y cymerth Mair bunt o irait o spicnard tra gwerthvawr, ac a irawdd draet yr Iesu, ac a sychawdd ei draet ai gwallt, a’r tuy a lanwyt o arogl yr irait.
4Yno y dyvawt vn oi ddiscipulon, ’sef Iudas Iscariot ’ap Simon, yr hwn oedd ar vedr y vradychu ef,
5Paam na werthit yr irait hwn er trichant ceinioc, a’u roddi i’r tlodion?
6Ef a ddywedei hyny, nyd o herwydd y govalei ef am y tlodion, anyd am y vot ef yn lleidr, a’ bot yr amner ganthaw, ac yn dwyn hyn a roddit yndo.
7Yno y dyvot yr Iesu, Gedwch yddhi: erbyn dydd vy‐claddedigeth eu cadwodd hi hyn.
8Can ys y tlodion a gewch bop amser gyd a chwi: a’ minef ny chewch bop amser.
9Velly tyrfa liosawc o’r Iuddaeon a wybu y vot ef yno: ac vvy ddaethant nyd er mvvyn yr Iesu yn vnic, eithr er mvvyn gwelet Lazarus hefyt, yr vn a godesei ef o vairw.
10Yno yr ymgygcorawdd yr Archoffeiriat, ar yddyn ddivetha Lazarus hefyt,
11o bleit bot llawer o’r Iuddaeon er y vwyn ef yn myned ymaith, ac yn credu yn yr Iesu.
12Tranoeth tyrfa liosawc rhon a ddaethei erbyn ir ’wyl, pan glywsāt y dauei ’r Iesu i Gaerusalem,
13a gymeresont geinciae o’r palmwydd, ac aethant ymaith y gyfwrdd ac ef, ac a lefesont, Hosanna, Bendigedic yvv ’r Brenhin yr Israel yr hwn ’sy yn dyvot yn Enw yr Arglwydd.
14A’r Iesu a gafas asennic, ac a eisteddawdd arnaw, megis y mae yn escrivenedic,
15Nac ofna, haverch Tsion: nacha dy Vrenhin ’s yn dyvot gan eistedd ar ebol asen.
16Ac ny ðyallei ey ddiscipulon y pethe hyn y waith gyntaf: eithyr wedy gogoneddu yr Iesu, yno y cofiesont vvy, pan yvv bot y pethe hyn yn escrivenedic o honaw, a’ daruot yddynt wneuthur y petheu hyn yddaw ef.
17Y dyrva gan hyny rhon oedd y gyd ac ef, a destolaethawdd ’alw o hanaw ef Lazarus allan o’r bedd, ac yddo y gody ef o vairw.
18Am hyn y cyfarvu y dorf hefyt ac ef, can ys clywsent wneuthur o hanaw y micacl hwn.
19A’r Pharisaieit a ddywedesont wrthyn y hunain, A welwch na’d yw yn tycio ðim? Nacha ’r byd sy yn myned ar y ol ef.
20Ac ydd oedd ryvv Croecwyr yn y plith wy, r’ ei ddaethent y vynydd y addoli ar yr ’wyl.
21Ac wy ddaethant at Philip, yr hwn oeð o Bethsaida yn‐Galilaia, ac a ddeisyf esont arnaw, gan ddywedyt, Arglwydd, ni a wyllysem ’weled yr Iesu.
22Philip a ddaeth ac a ðyvot i Andreas: a’ thrachefyn Andreas a’ Philip a ddywedesont i’r Iesu.
23A’r Iesu a atepawdd ydd‐wynt, can ddywedyt, E ddaeth yr awr, pan y gogonedir Map y dyn.
24Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwy. A ny syrth y gronyn gwenith ir ddaiar a’ marw, ef a aros yn vnic, eithyr a’s bydd marw, e ðwc ffrwyth lawer.
25Hwn a garo eu einioes, ei cyll, a’ hwn a gasao ei einioes yn y byt hwn, ei caidw i vywyt tragyvythawl.
26A’s gwasanaetha nep vi, dylynet vi: can ys lle y bwy vi, yno hefyt y bydd vy‐gwas: ac a’s gwasauaetha neb vi, vy‐Tat y anrydeða ef.
27Yr owrhon y cynhyrfir vy enait: a’ pha beth ddywedaf? Y Tat, cadw vi rhac yr awr hon: eithyr o bleit hyn y daethym’ i’r awr hon.
28Y Tat, gogonedda dy Enw. Yno y daeth llef or nef, gan ddyvvedyt, A’u gogoneddais, ac au gogoneddaf drachefyn.
29Yno y popul oedd yn gorsefyll, ac yn yn clywet, a ddyvot mai taran ytoedd hi: yr‐eill a ddywedent, Angel a lavarawdd wrthaw.
30Yr Iesu atepoð ac a ðyvot, Ny ðaeth y llef hon o’m pleit i, eithr er ych mwyn chwi.
31Yr owrhon y mae barn y byt hwn: yr owrhō y tevlir allan tywysoc y byt hwn.
32A’ mi o’m derchefit or ðaiar, a dynnaf bavvp oll atafinef.
33A’ hyn a ðyvot ef, can arwyddocau o ba angae y byðei ef varw.
34Y popul eu atepoð, Nini a glywsam o’r Ddeðyf, yr aros y Christ yn tragyvythol: a’ pha voð y dywedy di, vot yn ðir derchavel y Map y dyn y vynyð? pwy ’n yw’r Map y dyn hwnw?
35Yno y dyuot yr Iesu wrthynt, Eto ychydic enhyt y mae’r goleuni y gyd a chwi: rodiwch tra vo y chwy ’oleuni, rac dyvot y tywyllwch ar eich gwartha; can ys hvvn a rodia yn y tywyllwch, ny wyr i b’le ydd a.
36Tra vo’r goleuni y chwy, credwch yn y goleuni, val y boch yn blant i’r goleuni. Y pethe hyn a adroddodd yr Iesu. ac aeth ymaith, ac a ymguddiodd y wrthwynt.
37A’ chyd gwneuthur o hanaw gymeint o wrthiae geyr y bron hwy, eto ny chredent vvy yndo.
38Mal y cyflawnit ymadrodd Esaias y Prophwyt, yr hwn a ddyvot ef, Arglwydd pwy a gredawdd y ’n ymadrodd ni? ac y bwy ’n datguddiwyt braich yr Arglwydd?
39Am hyny ny allent vvy gredu, can i Esaias ddywedyt drachefyn,
40Ef a ddallawdd y llygait wy, ac a galedawdd ei calonae, val na welent a ei llygait, ac na ðyallent a ei calonae, ac ymymchwelyt vvy, ac y mi y iachau hwy.
41Y pethae hyn a ddyvot Esaias pan welawdd y ’ogoniant ef, ac yr ymadroddawdd am danaw.
42Er hyny ac o’r pennadurieit llawer a gredesont yndaw: eithyr o bleit y Pharisaieit, ny’s cyffessesont vvy ef, rac eu rhoi allan o’r Synagog.
43Can ys‐carent voliant dynion yn vwy na moliant Duw.
44A’r Iesu a lefawdd, ac a ddyvot, a gred yno vi, ny chred yno vi, eithyr yn hwn am danvonawdd i.
45A’m gwel i, a wel hwn am danvonawdd i,
46Mi a ðeuthym yn ’oleuni i’r byt, val y bo y bwy bynac a gred yn o vi, nad aroso yn y tywyl’wch.
47Ac a’s clyw neb vy‐geiriae, ac ny chred, mi ny’s barna ef: can na ddaethym’ i varnu ’r byt, eithyr y iachau ’r byt.
48A’m gwrthoto i, ac nyd erbynio vy‐geiriae, y mae iddo vn a ei barn: y gair y adroddeis i, hwnw y barn ef yn y dydd dyweðaf.
49Can ys mi nyd ymadroddeis o hanaf vyhun: eithyr y Tat yr hwn am danvonawdd i, efe a roes i mi ’orchymyn pa beth ddywedwn, a’ pha beth a ymadroddwn.
50A’ mi wn vot y ’orchymyn ef yn vywyt tragyvythol: y pethe gan hyny ’r wy vi yn ei ymadrodd, a ymadroddaf megis ac y dyweddawdd y Tat y‐my.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.