Matthew 27 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxvij.Delifro Christ at Pilat. Iudas yn ymgrogy. Bot cyhoeddi Christ yn wirion gan y beirniat, ac er hyny ei groci ynghyfrwng llatron. Ef yn gweddiaw ar ucha y groc. Bot rhwygo ’r llen. Y cyrph meirw yn cyuodi. Ioseph yn claddu Christ. Gwylwyr yn cadw’r bedd.

1A’ Phan ddeuth y borae, yð ymgyggorawð yr oll Archoffeiriait a’ Henurieit y popul yn erbyn yr Iesu, er ei roddy i angae,

2ac aethant ymaith ac ef yn rhwym, ac ei rhoeāt Pontius Pilatus y l’ywiawdr.

3Yno pan weles Iudas aei bradychawdd, ei ady ef yn auawc, e vu edivar ganthaw, ac a dduc drachefn y dec arucain ariant ir Archoffeiriait, a’r Henurieit,

4gan ddywedyt, Pechais can vradychy gwaet gwirian. Wythae a ðywydesont, Peth yw hyny i ni? edrych ti.

5Ac wedy yddaw davly yr ariant yn y Templ, ef a ymadawodd, ac aeth, ac a ymgrogawdd.

6A’r Archoffeiriait a gymeresont yr ariant, ac a ddywedesont, Nyd cyfreithlawn i ni ei bwrw wy yn y Corbā, can ys gwerth gwaet ytyw.

7A’ gwedy yddynt ymgydgyggori, wy brynesont ac wynt vaes y crochenydd i gladdy pererinion.

8Ac am hyny y gelwir y maes hwnw Maes y gwaet yd y dydd heddyw.

9(Yno y cwplawyt yr hynn a ddywedpwyt trwy Ieremias y Prophwyt, y ddywait, Ac wynt a gymersont ddec ar ucain ariant, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynesōt gan plāt ’r Israel.

10Ac wynt eu roesont am vaes y crochenyð, megis y gossoddes yr Arglwydd ymy)

11A’r Iesu a safawð geyr bron y llywyawdr, a’r llywyawdr a ovynawdd yddo, can ddywedyt, Ai ti’r Brehin yr Iuddaeon? A’r Iesn a ddyvot wrthaw, tu ei dywedeist.

12A’ phan gyhuddwyt ef can yr Archoffeiwait ar Henurieit, nyd atepawdd ef ddim.

13Yno y dyvot Pilatus wrthaw, A ny chlywy veint o pethae y maent wy yn ei roi yn dy erbyn?

14Ac y nyd atepawdd ef yddo i vn gair, val y rryweddawdd y llywawdr yn vawr.

15Ac ar yr wyl hono ydd arverei y llywiawdr ellwng ir popul vn carcharor yr hwn a vynnent.

16Yno ydd oedd ganthwynt garcharor honneit a elwit Barabbas.

17A’ gwedy yðynt ymgasclu yn‐cyt, Pilatus a ðyyvot wrthynt, Pa vn avynwch i mi ellwng y chwi, Barabas ai Iesu yr hwn a elwir Christ?

18(canys ef a wyðiat yn dda mae o genvigen y roðesent ef.

19Ac ef yn eisteð ar yr ’orseddvainc, ei wraic a ddanvonawdd attaw gā ðywedyt, Na vit i ti awnelych ar gvvr cyfiawn hwnnw, can ys goddefais lawer heðyw mewn breuddwyddion o ei a chos.)

20A’r archoffeiriait a’r Henureit ymlewyð awnaethēt a’r bobl er mwyn govyn Barabbas, a’ cholli ’r Iesu.

21A’r llywyawdur a atepawdd, ac a ddyvot wrthynt, Pa vn o’r ddau a vynwch i mi ei ellwng ychwy? Wyntae a ddywetsant Barabbas.

22Pilatus a ðyvot wrthynt Peth awnaf ynte i Iesu yr hwn a elwir Christ? Wy oll a ddywedesont wrthaw, Croger ef.

23Yno y dyvot y llywyawdur, An’d pa ddrwc y wnaeth ef? Yno y llefesont yn vwy, can ddywedyt, Croger ef.

24Pan welawdd Pilatus na thycyei dim yddaw anid bot mwy o gynnwrf yn cody, ef a gymerth ddwfr, ac a’ olches ei ddwylaw geyr bronn y popul, can ddywedyt, Gwirian wyf y wrth waet y cyfiawn hwnn, edrychwch-chwi arnoch.

25A’r oll popul a atepawð ac a ðyvot, Bid y waet ef arnam ni ar ein plant.

26Ac val hynn y gellyngawdd ef Barabas yddynt, ac ef a yscyrsiodd yr Iesu, ac y rhodes ef yw groci.

27Yno milwyr y llywiawdr a gymeresont yr Iesu ir dadlaeduy, ac a gynullesont attaw yr oll gywdawt,

28ac ei dioscesont, ac roesant am danaw huc coch,

29ac a blethesont coron ddrain ac ei dodesont ar ei benn, a’ chorsen yn ei law ddeheu, ac a blycesont ei glinie geir ei vron, ac ei gwatworesont, gan ddywedyt, Henpych‐well Brenhin yr Iuddeon,

30ac wynt a boeresont arnaw, ac gymersont gorsen ac ei trawsont ar ei ben.

31A’ gwedy yddwynt ei watwary, wy ei dioscesont ef o’r huc, ac ei gwiscesont ef aei ddillat ehun, ac aethant ac ef yw groci.

32Ac a’n hwy yn mynet allan, eu cawsant ddyn o Cyren, a elwit Simon: a hwn a gompellasant i ddwyn y groc ef.

33A’ phan ddaethan i le a elwit Golgotha, (ys ef yw hynny y Benglogva.)

34Wy roesont yddaw yw yfet vinegr yn gymyscedic a bystyl: a’ gwedy yðo ei brovi, ny vynnawdd ef yvet.

35Ac wedy yðynt y grogy ef, wy ranesont ei ddillat, ac a vwriesont goelbrenni, er cyflawny y peth, y ddywetpwyt trwy ’r Prophwyt, Wy a rannasant vy‐dillat yn eu plith, ac ar vy‐gwisc y bwriesont goelbren.

36Ac wy a eisteddesant ac ei gwiliesont ef yno.

37Ac ’osodesont hefyt vch ei benn ei achos yn escrivenedic Hvvn yvv Iesu y Brenhin yr Iudæon.

38Yno y crogwyt ddaw leitr y gyd ac ef, vn ar ddehau, ac arall ar aswy.

39A’r ei oedd yn mynet heibio, y caplesant ef, gan ysgytwyt ei pēnae,

40a’ dywedyt, Ti yr hwn a ddestrywi ’r Templ, ac ei adaily mewn tri‐die, cadw dy hun: a’s tu yw Map Duw, descen o groc.

41A’r vn modd yr Archoffeiriait y gwatworesont ef y gyd a’r Scrivenyddion, a’r Henurieit, a’r Pharisaieit gan ddywedyt.

42Ef a waredawdd eraill, ac nyd all ef y ymwared ehun: a’s Brenhin yr Israel yw ef, descennet yr awrhon o groc, ac ni a gredwn ydd‐aw.

43Mae e yn ymðiriet yn‐Duw, rhyðhaet ef yr awrhon, a’s myn ef ei gahel: can ys ef a ddyvot, Map Dew ytwyf.

44Yr vn peth hefyt a eidliwiesont ydd‐aw, y llatron, yr ei a grocesit gyd ac ef.

45Ac o’r chwechet awr, y bu tywyllwch ar yr oll ðaiar, yd y nawvet awr.

46Ac yn cylch y nawved awr y llefawdd yr Iesu a llef vchel, gan ddywedyt, Eli, Eli, lamasabachthani? ys ef yw, Vy‐Duw, vy‐Duw, paam im gwrthodeist?

47A’r ei o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsont, a ðywedesont, Mae hwn yn galw ar Elias.

48Ac yn y van vn o hanynt o redawð, ac a gymerth yspong ac ei llanwodd o vinegr, ac a ei dodes ar gorsen, ac a roes iddaw yw yfet.

49Ereill a ddywesont, Gad iddo: edrychwn, a ddel Elias y waredy ef.

50Yno y llefawdd yr Iesu drachefyn a llef vchel, ac ef a vaðeuawdd yr yspryt.

51A’ nycha, l’en y Templ a rwygwyd yn ðau, or cwr vcha yd yr isaf, a’r ddaear a grynawdd, a’r main a holltwyt,

52a’r beddae a ymogeresont, a’ llawer o gyrph y Sainct yr ei a gyscesent, a godesent,

53ac a ddaethant allan o’r beddae ar ol y gyfodiat ef, ac aethāt y mewn ir dinas sanctaidd, ac a ymddangosesont i lawer.

54Pan weles y cann‐wriad, ar ei oedd gyd ac ef yn gwylied yr Iesu, y ddaiar yn cryny, a’r pethe awneythesit, wy ofnesont yn vawr, can ddywedyt, Yn wir Map Duw ytoedd hwn.

55Ac ydd oedd yno lawer o wragedd, yn edrych arnavv o bell, yr ei a gynlynesent yr Iesu o’r Galilea, gan weini yddaw.

56Ym‐plith yr ei ydd oedd Mair Magdalen, a’ Mair mam Iaco ac Ioses, a’ mam plant Zebedeus.

57A’ gwedi y myned hi yn hwyr, y daeth gwr goludawc o Arimathaia, a’ ei enw Ioseph, yr hwn vesei yntef yn ddiscipul ir Iesu.

58Hwn aeth at Pilatus, ac archoð gorph yr Iesu. Yno y gorchymynawdd Pilatus bot roddy y corph.

59Ac velly y cymerth Ioseph y corph, ac ei amdoes mewn llen lliein glan,

60ac ei dodes yn ei vonwent newydd, yr hwn a drychesei ef mewn craic, ac a dreiglodd lech vawr ar ddrws y vonwent, ac aeth ymaith.

61Ac ydd oedd Mair Vagdalen a’r Mair arall yn eystedd gyferbyn a’r bedd.

62A’r dydd dranoeth yn ol parotoat y Sabbath, yr ymgynullawdd yr Archoffeiriat a’r Pharisaieit at Pilatus,

63ac a ddywedesont, Arglwydd, e ddaw in cof ni ddywedyt o’r twyllwr hwnw, ac ef etwa yn vyw, O vewn tri‐die y cyfodaf,

64gorchymyn gan hyny gadw y bedd yn ddilys yd y trydydd dydd, rac dyvot ei ddyscipulon o hyd nos a’ ei ladrata ef ffvvrd, a’ dywedyt wrth y popul, Ef a gyfododd o veirw: ac velly y byð y cyfeilorn dyweddaf yn waeth na’r cyntaf.

65Yno y dyvot Pilatus wrthyn, ymae genwch wyliadwriaeth: ewch, a’ diogelwch val y gwyddoch.

66Ac wy aethan, ac a ddiogelesant y bedd y gan y wiliadwriaeth, ac a inselieson y llech.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help