Matthew 19 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xix.Christ yn dangos am ba achos y gellir yscar gwraic. Bot

diweirdep yn ddawn gan Ddyw. Ef yn derbyn rhei bychain. I gahel bywyt tragyvythawl. Mai braidd y bydd yr hei goludoc vot yn gadwedic. Ef yn gaddaw ir ei a ymwrthodesont ar cwbyl yw ddilyn ef, vychedd dragywythol.

1AC e ddarvu, gwedy ir Iesu ’orphen yr ymadroddion hyny, ef a ymadawodd a Galilaea, ac a ddaeth i ffinion Iudaea y tuhwnt y Iorddonē.

2A’ thorfoedd lawer y dylinodd ef, ac ef y iachaodd wy yno.

3Yno y daeth y Pharisaieit attaw, gan y demptio ef, a’ dywedyt wrthaw, Ai cyfreithlon i wr wrthddot ei wraic am bop achos?

4Ac ef a atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, A’ ny ddarllenasach, pan yw i’r vn y gwnaeth vvy yn y dechreu, yn wryw a’ benyw ei gwneythyd hwy,

5ac a ddyvot, O bleit hyn y gad y dyn dad a’ mam ac y gly yn wrth ei wraic, ac ylldau y byddant yn vn cnawt?

6Ac velly nid ynt mwyach yn ddau, anyd vn cnawd. Na bo i ddyn gan hyny ’ohany yr hyn a gyssylltodd Duw.

7Wy a ddywetesont wrthaw, Paam gan hyny y gorchymynodd Moysen roi llythr yscar, a’i gellwng hi ymaith?

8Ef a ddyvot wrthwynt, Moysen erwydd caledrwydd eich calonae, a ’oddefoð yw’ch wrthðot eich gwrageð: eithr o’r dechreu nyd oeð hi velly.

9A’ mi dywedaf ychwi, mai pwy pynac a wrthddoto ei wraic, dyethr am ’odinep, a’ phriody vn arall, y vot yn tori priodas, a’ phwy pynac a briota hon, a yscarwyt, a dyr briodas.

10Yno y dyvot ei ddiscipulon wrtho, A’s felly y mae ’r devnydd rhwyng gwr a’ gwraic, ny da priodi gvvraic.

11Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ny all pawp dderbyn y peth hyn, anyd yr ei y rhoed yddwynt.

12Can ys y mae’r ei yn ddiweir ar a anet velly o groth ei mam: ac y mae’r ei yn ddiweir, a wnaed yn ddiweir gan ddynion: ac y mae’r ei yn ðiweir, a ei gwnaeth yhunain yn ddiweir er mvvyn teyrnas nefoedd. Y nep a all dderbyn hyn, derbyniet.

13Yno y ducpwyt ataw ’rei bychain, er iddo ddody ei ddwylo arnaddynt, a’ gweddio: a’r discipulon y ceryddawdd wy.

14A’r Iesu a ddyvot, Gedewch ir ei bychein, ac na ’oharddwch yddynt ddyvot atafi: can ys ir cyfryw ’rei y mae teyrnas nefoedd.

15A’ gwedy iddo ddody ei ddwylo arnaddynt, ydd aeth ef ymaith o ddyno.

16A’ nycha, y daeth vn, ac y dyvot wrthaw, Athro da, pa dda a wnaf, yn y chaffwyf vuchedd dragyvythawl?

17Ac ef a ddyvot wrthaw, Paam y gelwy vi yn dda? nyd da neb, anyd vn, ys ef Dyw: and a’s wyllysy vyned y myvvn i’r bywyt, cadw ’r gorchymynion.

18Ef a ddyvot wrthaw ynte, Pa ’r ei? A’r Iesu a ddyvot, Yr ei hynn, Na ladd: Na thor briodas: Na ledrata: Na ddwc gamtestiolaeth.

19Anrydedda dy dad ath vam: a’ cheri dy gymydawc mal ty vn.

20Y gwr‐ieuanc a ddyvot wrthaw, Mi gedwais hyn oll o’m ieuntit: beth ’sy yn eisiae i mi eto?

21Yr Iesu a ddyvot wrthaw, A’s wyllysy vot yn perfeith, does, gwerth ’sy genyt, a’ dyro i’r tlodiō a’ thi gai dresawr yn y nefoedd: a’ dyred a’ dilyn vi.

22A’ phan glybu y gwr‐ieuanc yr ymadroð hwn, yr aeth ffwrdd yn drist: canys ydd oedd ef yn berchen da lawer.

23Yno y dyvot yr Iesu wrth ei ddiscipulon, Yn wir y dywedaf wrthych, mae yn anhawdd ydd a’ r goludawc i deyrnas nefoedd.

24A’ thrachefyn y dywedaf y chwi, Haws i gamel vyned trwy gray ’r nodwydd‐ddur, nac i’r goludawc vyned y mewn y deyrnas Duw.

25A’ phan glybu y ddiscipulon ef hyn, sanny awnaethant yn aruthyr, gan ddywedyt, Pwy gan hyny all vot yn gadwedic?

26A’r Iesu a edrychawdd arnyn, ac a ðyvot wrthynt, Gyd a dynion ampossibil yw hynn, anyd gyd a Duw pop peth sy yn possibil.

Yr Euangel ar ddydd ymchweliat. S, Paul

27¶ Yno Petr atepodd ac a ddyvot wrtho, Nycha nyni a adawsam pop peth, ac ath ddilynesam di: a’ pha beth a vydd y‐ni

28Ar Iesu a ddyvot yddynt, Yn wir y dywedaf wrthych, mae pan eisteðo Map y dyn yn eisteddva ei ’ogoniant, chwychwi yr ei a’m canlynawdd yn yradgenetleth, a eisteðwch hefyt ar ddeuddec eisteddva, ac a vernwch dauðec llwyth yr Israel.

29A’ phwy bynac a edy tai, ney vroder, neu chwioreð, neu dat, neu vam, ne wraic, nei blant, nei diredd, er mwyn vy Enw i, ef a dderbyn ar y canvet, a’bywyt tragyvythavl a etivedda.

30An’d llawer or ei blaenaf, a vyddant yn olaf, ar ei olaf yn vlaenaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help