1YNo y llavarawdd yr Iesu wrth y dyrva, a’ ei ddiscipulon,
2gan dywedyt, Y mae ’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit yn eistedd yn‐cadair Moysen.
3Yr oll bethae gan hyny ar a ddywedant ywch am ei cadw, cedwch a’ gwnewch: an’d ar ol ei gweithredoedd na wnewch: can ys dywedyt a wnant, eb wneythy’r.
4O bleit wy rwymant veichiae trymion, ac anhawdd ei dwyn, ac gesodant ar yscwyddae dynion, ac wy y vnain nid ysmutant ac vn oei bysedd.
5Ei oll weithredoedd a wnant er ei gweled o ddynion: can ys llydany ei cadwadogion, a wnant, ac estyn emplynae ei gwiscoedd,
6a’ chary y lle vchaf yn‐gwleddoedd, a’ chael y prif eisteddleoedd mewn cymanfae,
7a’ chyfarch-gwell yddyn yny marchnatoedd, a’ei galw gan ðynion Rabbi, Rabbi,
8Eithr na’ch galwer gan ddynion Rabbi: can ys vn dyscyawdr ys ydd y chwi ’sef yvv, Christ, a’ chwychwi oll broder yd ych.
9Ac na ’alwch neb yn dad yw’ch ar y ddaiar: can nad oes anyd vn yn Tad y chwi yr hwn ys ydd yn y nefoeð.
10Ac nach galwer yn ðyscodron: can ys vn yw eich dyscyawdr chwi, ys ef Christ.
11A’r mwyaf yn eich plith, byddet ef yn was ywch’.
12Can ys pwy pynac a ymddyrcha y vn, a iselir: a’ phwy pynac a ymisela ehun, a dderchefir.
13 A’ gwae chwychvvi’r Gwyr‐llē a’r Pharisaieit, hypocriteit, can ychwi gau teyrnas nefoedd geyrbron dynion: canys ychunain nyd ewch ymewn, ac ny’s gedwch ir ei a ddauent y mewn, ddyvot y mywn.
14Gwae chwychvvi yr Gwyr‐llen a’r Pharisaieit hypocriteit: can ys eich bot yn llwyr vwyta tai y gwragedd gweddwon, ac wrth liw gweðiae hirion: erwydd pa bleit yd erbyniwch varn drymach.
15Gwae chwychvvi ’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit hypocriteit: can ys‐amgylchiwch vor a’ thir i wneythy ’r vn o’ch proffes eich vnain: a’ gwedy y gwneler, ys gwnewch ef yn ddaublygach yn vap i yffern na chwi ych vnain.
16Gwae chwychvvi dywysogion daillion, yr ei a ddywedwch, Pwy pynac a dwng i’r Templ, nid yw ddim: an’d pwy pynac a dwng i aur y Templ, y mae ef yn gwneythyd ar gam.
17Chvvychvvi ynfydion a’ deillion, pa vn vwyaf ai’r aur, ai’r Templ rhon ’sy yn sancteiddion ’r aur?
18A’ phwy pynac a dwng i’r allor, nid yw ddim: an’d pynac a dyngo i’r offrwm ys ydd arnei y mae ef yngham.
19Chvvychvvi ynfydion a’ deillion, pwy vn vwyaf, ai ’r offrwm, ai’r allor a sancteiddia ’r offrwm?
20Pwy pynac gan hyny a dwng i’r allor, a dwng iddi, ac i’r oll y sy arnei.
21A’ phwy pynac a dwng i’r Templ, a dwng iddi, ac i hwn a dric ynthei.
22A’ hwn a dwng ir nefoedd, a dwng i eisteddfa Dew, ac i hwn a eistedd arnei.
23Gwae chwychvvi ’r Gwyr‐llen, a’r Pharisaieit, hypocriteit, canys decymwch y myntys, ac anis, a’ chwmin, ac ych yn maddae pethae trymach o’r Ddeddyf, ’sef barn, a’ thrugaredd a’ ffyddlondep. Y pethae hyn oedd ddir ychvvi ei gwneythyd, ac na vaddeuit y llaill.
24Chvvychvvi dywysogion deillion, yr ei a hidlwch wybedyn ac a draflyngwch gamel.
25Gwae chwychvvi ’wyr‐llen a’r Pharisaieit hypocritieit: can ys‐glanewch y tu allan i’r cwpan, a’r ddescl: ac o’r tu mewn y maent yn llawn trais a’ gormoddedd.
26Tydi Pharisai dall, carth yn gyntaf y tu mewn ir cwpan a’r ddescil, val y bo’r tu allan yn lan hefyt.
27Gwae chwychvvi ’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit, hypocriteit: can ys ich cyffelypir i veddae gwedy ei gwynhay, yr ei a welir yn brydferth o ddyallan, ac o ymywn y maent yr llawn escyrn y meirw, a’ phop aflendit.
28Ac velly ydd ychwithe: can ys o ddiallan yr ymddangoswch i ðynion yn gyfion, ac o ymewn ydd ych yn llawn hypocrisi ac enwiredd.
29Gwae chwi’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit hypocriteit: can ys ych bot yn adailiat beddae’r Prophwyti, ac yn addurnaw monwenti y cyfiownion,
30ac yn dywedyt, Pe bysem yn‐dyddiae eyn tadae, ny vesem ni gyfranogion ac wynt yn‐gwaed y Prophwyti.
31Ac velly ydd ych yn testiolaethy y chwy ych hunain ych bot yn blant ir ei a laddawð y Prophwyti.
32Cyflawnwch chwithae hefyt vesur eich tadae.
33A seirph genedlaethae gwiperot, pa vodd y gallwch ddianc rac barn yffern?
Yr Euāgel ar ddydd S. Stephan.
34¶ Erwydd paam nycha, ydd wyf yn danvon atoch Prophwyti, a’ doethion, ac Scrivenyddion, ar ei a hanynt a yscyrsiwch yn eich synagogae, ac a erlidiwch o dref i dref,
35mal y del arnoch chwi yr oll waed gwirian a’r a ellyngwyt ar y ddaear, o waet Abel gyfiawn yd yn‐gwaet Zacharias vap Barachias, yr hwn a laðesoch rhwng y Templ a’r allor.
36Yn wir y dywedaf wrthych, y daw hyn oll ar y genedlaeth hon,
37Caerusalem, Caerusalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwyti, ac yn llapyddiaw yr ei a ddanvonir atat’, pa sawl gwaith y myneswn gasclu dy blant ynghyt, megys y cascla yr iar hei chywion y dan hei adanedd, ac ny’s mynech?
38Nycha, e adewir ychwy eich cartref yn ancyvanedd.
39Can ys dywedaf wrthych, n’ym gwelwch yn ol hyn, yd yny ðywedoch, Bendigedic yw’r hwn a ddaw yn Enw yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.