Colossieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Dangos y mae ple y mae i ni geisio Christ. Ei cyggory i ymvarwhau. Diosc yr hen ddyn, a’ gwisco Christ. At yr hyn y mae ef yn rhoi angwanet gygcoreu, i bawp val y gylydd, y gariat ac huvylltot.Yr Epistol ar ddie‐Pasc.

1A’S chvvithe a gydgyfodesoch gyd a Christ, caisiwch y petheu oðuchod, lle mae Christ yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

2Rowch eich bryd ar y petheu ’sydd vchod, ac nyd ar betheu sy ar y ddaiar.

3Can ys meirw ytych, a’ch bywyt a guddiwyt y gyd a Christ yn‐Duw.

4Pā ymðangoso Christ, ’rhwn yw’n bywyt, yno hefyt yr ymddangoswch chwitheu y gyd ac ef yn‐gogoniant.

5Marwhewch gan hyny eich aylodae ’sy ar y ddaiar, goddinep, aflendit, anvad‐wyyn, dryc‐chwant, a’ chupydddot yr hwn delw‐addoliat.

6Achos yr hyn petheu y daw digofeint Duw ar y plant yr amuvydddot.

7Ym pa veiæ y rhodies‐y‐chwi gynt, pan oeddech yn byw ynthwynt.

8Anyd yr awrhon rho‐chwi y ffordd ys yr oll petheu hyn, digofeint, broch, drigioni, dryc davodlen croesan‐air, allan o’ch geneu.

9Na ddywedwch gelwydd wrth eu gylydd, can ddarvot y chwi ymddiosc o yr hen ddyn ef a’i weithrededd,

10a’ gwisco y’r newydd, yr hwn a adnewyddir yn‐gwybodaeth erwydd delw yr hwn y creawð ef,

11lle nyd oes na Groecwr nac Iuddew enwaediat, Barbariat, Scythiat, caeth, rhydd: eithr Christ ’sydd pop dim ym‐pop dim.

Yr Epistol y v. Sul gwedyr Ystwyll.

12Can hyny megis etholedigiō Dew sancteiddolion a’ charedigion, ymwiscwch o dirion drugaredd caredigrwyð, vvylltot‐meddvvl, gwarder, dioðefgarwch:

13gan ymgynnal eu gylydd, a’ maddae y’w gylydd, as bydd gan vn gwerel yn erbyn neb: megis ac y maddeuawdd Christ i chwi, ys velly gvvnevvch chwitheu.

14Ac vch pen hyn oll gvviscvvch gariat, yr hwn yw rhwym yn y perfeithrwydd.

15A’ thangneddyf Duw a lywodraetho yn eich calonae, yr hwn ich galwyt yn vn corph, a’ byddwch ddiolchgar.

16Preswiliet gair Christ ynoch yn ehelaeth ym‐pop doethinep, gan eich dyscu a’ chygcori eich hunain, yn psalmae, ac hymynae ac odulae ysprytawl, a’ chanu gan rat yn eich calonae ir Arglwydd.

17A’ pha beth bynac a wneloch ar ’air neu weithred, gvvnevvch bop dim yn Enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolvvch y Dduw’sef y Tat trwvddaw ef.

18Y gwragedd, byddwch ’oystyngedic ich gwyr priawt, megis y cyngwedda yn yr Arglwydd.

19Y gwyr, cerwch eich gwragedd, ac na vyddwch chwerwon wrthynt.

20Y plant, uvyddhewch eich rhieni ym‐pop dim: can ys hyny ’sy dda iawn gan yr Arglwydd.

21Y tadae na chyffrowch eich plant y ðigio, rrac yðyn ancysirio.

22Y gweision, ymuvyddhewch ir ei ’sy yn arglwyddi ywch erwydd y cnawt ym‐pop dim, nyd a llygad-wasanaeth val ryngwyr bodd dynion, eithr yn semplrwydd calon, gan ofny Duw.

23A’ pha beth pynac a wneloch, gwnewch yn galonoc, megis ir Arglwydd, ac nyd y ddynion,

24gan yvvch ’wybot mae y gan yr Arglwydd yd erbyniwch y tal‐iad‐igeth yr etiueddieth: can ys yr Arglwydd Christ ydd ych yn ei wasanaethu.

25Eithyr hwn a wna gamvvedd, a dderbyn am y camvvedd a wnaeth ef, ac nyd oes dim braint gymeriad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help