Luc 18 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xviij.Wrth esempl y ’weddw, a’r Publican y dysc Christ pa wedd y mae gweddiaw. Wrth esempl y plantos yr eiriol ef vaylldot. Am y ffordd y byddir cadwedic, a’ pha bethae a ’rwystrant. Y gwebyr addawedie ir ei yddo ef, Ac am y groes.

1AC ef a ðyuot hefyt barabol wrthynt, ys ef i hyn, y dylynt weddiaw yn ’oystat, ac eb ddefficiaw,

2gan ddywedyt, Ydd oedd brawdwr yn‐ryw ddinas, yr hwn nid ofnei Dduw, ac ny pharchei ddyn.

3Ac ydd oedd gvvraic‐gweddw yn y dinas hono, yr hon a ddoy attaw, gan ddywedyt, Gwna i mi gyffiawnder yn erbyn vy‐gwrthnebwr.

4Ac ny’s gwnai ef dros hir amser: ac wedy hyn y dyuot yntho ehun, Cyd nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn,

5eto can vot y ’weddw hon yn vy molestu, gwnaf iddi gyfiawnder, rac o’r dywedd y ddi vy sevrddanu.

6A’r Arglwydd a ddyuot, Clywch pa beth ddywait y brawdwr ancyfiawn.

7Ac a ny ddial Duw ei ddetholedigion, ysy yn llefain arnaw ddydd a’ nos, cyd bo ef yn ohirddig drosdynt?

8Dywedaf ychwy, taw y dial ef hwy yn glau. Eithyr pan ddel Map y dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaiar?

Yr Euangel y xi. Sul gwedy Trintot.

9¶ Ef a ddyuot y parabol hwn wrth y’r ei oeð ei ymðiriet arnyn ehunain ey bot yn gyfiawn, ac yn diystyry yreill,

10Deu‐wr a escenesōt ir Templ i weddiaw: vn Pharisai, a’r llall Publican.

11Y Pharisai oei sefyll a weddiawdd val hyn wrthaw ehun, Duw, diolchaf y‐ty nad wyf mal y dynion ereill, yn gribdeilwyr yn ancyfiawnion, yn ’odinebwyr, ai mal y Publican hwn.

12Ydd wyf yn vmprydiaw ddwywaith yn yr wythnos: ðwyf yn decemy cymeint oll a veddaf.

13Anid y Publican yn sefyll o hirbell, ny dderchavei na ei ’olygon tu ar nef, an’d curo ey ðwyvron can ðywedyt, Duw, trugarha wrthyf bechatur.

14Ys dywedaf wrthych, e ddescennawdd y dyn hwn y’w duy wedy ei gyfiawnhay, yn vwy na’r llall: Can ys pwy bynac a ymdderchaif, a ’oystynger, a’ hwn a ymestwng, a dderchefir,

15Ac wy ðucesont ataw ’r ’ei bychein, val y bei yddo ei cyvwrdd. A’ phan ei gwelawdd, ei ddiscipulon, ei ceryddu aorugant.

16A’r Iesu ai galwawdd wy ataw, ac a ddyuot, Gedwch i’r bechcenot ddyuot atafi, ac na ’oherddwch wy: can ys ir cyfryw y mae teyrnas Duw.

17Yn wir y dywedaf wrthych, pwy bynac ny dderbynio deyrnas Duw val bachcenyn, ny bydd iddo vyned oei mywn hi.

18Yno y gofynnawdd ryw lywiawdr iddaw, gan ddywedyt, Athro da, pa beth ’sy imi y’w wneuthur, i veddu bywyt tragyvythawl?

19A’r Iesu a ddyuot wrthaw, Paam ym gelwy vi yn dda? nyd da nebun dyeithr vn, ’sef Duw.

20Y gorchmynnion awyðost, Na wna obineb: Na lað gelain: Na latrata: Na ðwc ffalstestiolaeth: Anrydeða dy dat a’th vam.

21Ac ef a ðyuot, Hyn oll a gedweis o’m ieūctit.

22Gwedy clybot o’r Iesu hyn, y dyuot wrthaw. Etwo mae yti vn peth yn eisiae. Gwerth cymmeint oll ac ys‐y ar dy helw, a’ chyfrana i’r tlodion, a’ thi gai dresawr yn y nef, a’ dyred, dilin vi.

23An’d pan glybu ef y pethe hyny, bod yn drathrista or ug ef: can ys-goludawc aruthr y doedd.

24A’ phan y gwelas yr Iesu y vot ef yn drathrist, y dywedawð, Pa’nd anhawdd ir ei ’sy a golud yðynt vyned i deyrnas Duw?

25Can ys‐hawsach i gamel vyned trwy grau nodwydd ddur, nag i ’oludawc vyned i deyrnas Duw.

26Yno y dywedynt yr ei ai clybu, A phwy ynte a aill vot yn gatwedic?

27Ac ef a ddyuot, Y pethae ys‐y ampossibil y gyd a dynion, ’sy possibil y gyd a Duw.

28Yno y dyuot Petr, Nacha, ys gadawsam ni y cvvbl oll, ac ath ddylynesam di.

29Ac ef a ddyuot wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes vn a’r a adawoð duy, neu rieni, neu vroder, neu wreic, neu blant, o bleit teyrnas Duw,

30a’r ny’s derbyn vwy o lawer yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw buchedd dragyvythawl.

Yr Euangel ar Sul Quinquagesima.

31Yno y cymerth yr Iesu ataw y deuddec, ac a ddyuot wrthynt, Nycha, ni yn mynet i vyny i Caerusalem, ae a gyfiawnir i vap y dyn bop peth, ys y yscrivenenedic can y Prophwyti.

32Can ys ef a roddir ir Cenetloedd, ac a ef watworir, ac a geblir, ac a boerir arnaw.

33A’ gwedy yddynt y yscyrsiaw ef, wy ei lladdant: anid ef a gyvyt y trydydd dydd drachefyn.

34Ac wy ny ni ddyallesont ðim or pethae hyn, ac ydd oedd y gair hwn yn guðiedic rhacddynt vvy, ac ny wybuont y pethae a ddywedesit.

35Ac e ddarvu, ac ef yn dynesay at Iericho, bot ryw ddyn dall yn eistedd ar emyl y ffordd, yn cardota.

36A’ phan glywodd ef y popul yn myned heibio, e ymovynodd beth oedd hynny.

37Ac wy a ddywedesont yddaw, mae’r Iesu o Nazaret oedd yn mynet heibio.

38Ac ef a lefawdd ac a dyuot, Iesu vap Dauid, trugarha wrthyf.

39A’r ei oedd yn mynet o’r blaen, y ceryddent ef, y dewi a son. Ac ef a levawdd vwyvwy, Map Dauid, trugarha wrthyf.

40A’r Iesu a savodd, ac a ’orchymynawdd ei ddwyn ef attaw. A gwedy y ddawot ef yn nes, e ovynnawdd ydd‐aw,

41can ddywedyt, Beth a vynny imi wneythyd y ty? Ac ef a ddyvot, Arglwydd, cahel‐vy‐golwc.

42A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Cymer dy olwc: dy ffydd ath iachaawdd.

43Ac yn ebrwydd y cavas ei olwc, ac y canlynawdd ef, gan roddy gogoniant y Dduw: a’r oll popul, pan welsont hyn a roesont voliant i Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help