Matthew 28 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxviij.Cynodiat Christ. Broder Christ. Yr Archoffeiriait yn gobrio ’r

milmyr. Christ yn ymddangos yw ddiscipulon, ac yn ei danfon ymaith i precethy, ac i vatyddio, Gan addaw yddyn borth ’oystadol.

1YNo yn‐diweð y sabbath, a’r dydd centaf o’r wythnos yn dechrae gwawrio, y daeth Mair Magdalē a’r Vair arall i edrych y beð.

2A’ nycha, y bu dayar‐gryn mawr: can ys descendodd Angel yr Aaglwydd o’r nef, a’ dyvot a’ threiglo y llech y wrth y drws, ac eistedd arnei.

3A’ ei ðrych oedd val mellten, a’ ei wisc yn wen val eiry.

4A’ rac y ofn ef yd echrynawdd y ceidweid, ac aethon val yn veirw.

5A’r Angel y atepawdd ac a ddyvot wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys gwn mai caisio ydd ych yr Iesu yr hwn a grogwyt:

6nyd ef yman, can ys cyfodawddd, megis y dyvot: dewch, gwelwch y van lle y doded yr Arglwydd,

7ac ewch a’r ffrwst, a’ dywedwch y’w ddiscipulon gyfody o hanaw o veirw: a’ nycha ef yn ych racvlaeny i Galilea: yno y gwelwch ef: nycha ys dywedais y’wch.

8Yno yð aethant yn ebrwyð o’r vonwent gan ofn a’ llawenydd mawr, ac a redasan i venegy y’w ðiscipulon.

9Ac a ’n hwy yn myned y venegy y’w ðiscipulon ef, a’ nycha ’r Iesu yn cyhwrdd ac wynt, gan ddywedyt, Dyw ich cadw.

10Ac wy a ddaethant, ac a ymavlesont yn ei draet, ac ei addolesont. Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt, Nac ofnwch. Ewch, a’ dywedwch im broder yn yd elont i Galilaea, yno y gwelant vi.

11A’ gwedy y myned hwy, nycha y daeth yr ei o’r wiliadwriaeth i’r dinas, ac venegesont i’r Archoffeiriait, yr oll a’r wnethesit.

12Ac wy a yngynullesont y gyd a’r Henyddion, ac a ymgyggoresōt, ac a roeson arian lawer ir milwyr,

13gan ddywedyt, Dywedwch, E ddaeth ei ddlscipulon o hyd nos, ac y lladratesont ef a ni yn cyscu.

14Ac a chlyw y llywiawdr hyn, ni a ei dygwn ef i gredy, ac ach cadwn chwi yn ddigollet.

15Ac wy a gymeresont yr ariantae, ac a wnaethant val yr addyscwyt wy: ac y gyhoeddwyt y gair hwn ym‐plith yr Inðaeon yd y dydd heddyvv.

16Yno yr aeth yr vn discipul ar ddec i Galilaea, i’r mynyth lle y gosodesei’r Iesu yddwynt.

17A’ phan welsant ef, yr addolasont ef: a’r ei a betrusesant.

18A’r Iesu a ddaeth, ac a ymadroddawdd wrthwyn, gan ddywedyt, E roed i mi oll awturtot yn y nef ac yn ddaiar.

19Ewch gan hyny, a’ dyscwch yr oll genetloedd, gan ei batyddio hwy yn Enw y Tad, a’r Map, a’r Yspryt glan,

20gan ddyscy yddwynt gadw bop peth a’r a ’orchymynais y chwy: a’ nycha, ydd wyf vi gyd a chwychvvi yn ’oystat yd diweð y byt. Amen.

G.j.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help