1. Corinthieit 15 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xv.Mae ef yn provi bot cyvodedigaeth y meirw. Ac yn gyntaf bot Christ gwedy cyvodi. Yno y bydd y ninbeu gyfody. A’r modd pa wedd.Yr Epistol yr xi. Sul gwedy Trintot.

1AC vvele, vroder, llyma vi yn menegi ywch yr Euāgel, rhon a euangelais y chwy, yr hon hefyt a dderbyniesoch, ac yn yr hon ydd ych yn sefyll,

2a’ thrwy ’r hon ich iachëir, a’s cedwch yn eich cof, pa vodd yr euangelais y hi ychwy, a ddieithr darvot ywch gredu yn over.

3Can ys yn gyntaf dim, y rhoðeis ychwi yr hyn a dderbyniais, paweð y bu varw Christ tros ein pechateu, erwydd yr Scrythurae,

4a’y gladdu ef, ac iddo gyvody y trydydd dydd, erwydd yr Scrythurae,

5a’ ei weled ef gan Cephas, yno gan y dauddec.

6Gwedy hyny, y gwelwyt ef gan vwy na phempcāt broder ar vnwaith: o’r sawl y mae ’r ei yn aros hyd hyn, a’r ei hefyt gwedy hunaw.

7Gwedy hyny, e welspwyt gan Iaco: yno y gan yr oll Apostolion.

8Ac yn ddywethaf oll e welspwyt geny vine hefyt vegis gan vn antempic.

9Can ys mi yw ’r lleiaf o’r Apostolion, rhwn nid wyf deilwng, val im galwer yn Apostol, can erlid o hanof Eccles Duw.

10Eithr gan ’rat Duw ydd wyf, hyn ydwyf: a’ ei rat rhwn ’sy ynof, ny bu over: eithyr mi a lavuriais yn helaethach nac wyntwy oll: nyd mi hagen, amyn y rhat Duw a’r y’sy gyd a mi.

11Can hynny pa vn bynac ai myvi, a’i wyntwy, velly y precethwn, ac velly y credesoch.

12Ac a’s precethir ddarvot cyvodi Christ o veirw, pa vodd y dywait ’r ei yn eich plith chwi, nad oes cyvodiadigeth y meirw?

13O bleit anyd oes cyfodiadigeth y meirw, velly ny chyfodwyt Christ.

14Ac any chyvodwyt Christ, mae yntef ein precaeth ni yn over, ac ys over hefyt yw ych ffydd chwi.

15Ac in ceffir ni hefyt yn testion gauawc i Dduo: can ys testiasam o Dduw ddarvot yðaw ef gyvody Christ y vynydd: ’rhwn ny’s cyfodawdd ef y vyny, any chyfodir y meirw.

16Cā ys any chyfodir y meirw, ny chyfodwyt Christ chwaith.

17Ac any chyfodwyt Christ, ys over yw ych ffyð chvvi: yð ych eto yn eich pechotae.

18Ac velly yr ei ’sy wedy hunaw yn‐Christ, a gyfergollwyt.

19A’s yn y vuchedd hon yn vnic ydd ym yn gobeithio yn‐Christ, yr ei truanaf o’r oll ðynion ydym.

20Ac yr awrhon e gyvodwyt Christ o veirw, ac a wnaethpwyt yn vlaenffrwyth yr ei a hunesont.

21Can ys gwedy trwy ddyn ddyvot angeu, trwy ðyn hefyt y daeth cyvodiadigeth y meirw.

22Canys megis, yn Adda y mae pawp yn meirw, velly hefyt yn‐Christ y bywheir pawp,

23eithr pop vn yn y drefn y hunan: y blaenffrwyth yw Christ, gwedy hyny, yr ei ’syð i Christ, yn y ðyvodiat ef y cyvodant.

24Yno y bydd y dywedd, gwedy rroddo ef y deyrnas y Dduw, ’sef y Tat, gwedy yddo ef ddilëu pop pendevigaeth, a’ phob awturtot a’ meddiant.

25Can ys rait iddo deyrnasu y n y ddoto ei oll ’elynion y dan y draet.

26Y gelyn dywethaf a ddinistrir vydd angeu.

27Can ys ef a ddarestyngawdd pop dim y dan ei draet. (A’ phan ddywait ef ddarvot darestwng pop peth yddavv, y mae yn amlwc y vot ef wedy ei ddyeithro, a ddarestyngawð bop peth y danaw.)

28A’ phan ddarestynger pop dim yddaw, yno’r Map hefyt yntef a ddarestyngir y hwn, a ðarestyngoð bop dim y danaw, val y bo Duw bop peth oll yn oll.

29A’s amgen beth a wnant wy a va‐tyddiwyt dros veirw? a’s y meirw ny chyfodir yn ollawl, paam y batyddijr hwy dros veirw?

30Paam y periclir ni bop awr?

31Gan ein gorfoleð ys y genyf yn‐Christ Iesu ein Arglwydd ydd wyf yn marw beunydd.

32A’s ymleddais ac aniueiliaid yn Ephesus yn ol dull dynion, pa leshad ymy, any chyfodir y meirw? bwytawn ac yfwn: can ys y voru y byddwn veirw.

33Na thwyller chwi: ymadroddion drwc a lygran voyseu da.

34Dithunwch y vyvv yn gyfiawn, ac na phechwch: can nad oes gan ’rei wybodaeth o Dduw. Er cywilydd ywch y dywedaf hyn.

35Eithr e ddywait ryw vn, Pa voð y cyvodir y meirw? ac a pha ryvv gorph y dauant allan?

36A ynfyd, y peth ydd yw‐ti yn ei heheu, ny vyweiddir, addieithr yðo varw.

37A’r peth yr wyt yn ei heu, nyt wyt yn heu y corph a vydd, anyd y gronyn noeth, megis y dygwydd, o wenith, neu o ryw ’ravvn eraill.

38Eithyr Duw a ryð yddo gorph val y bo da ganto ef, ’sef y bob hedyn y gorph y hun.

39Nyd yvv oll cnawd yr vn ryvv gwnad, eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd aniueilieit, ac arall i byscod, ac arall i adar.

40Y mae hefyt gyrph nefol, a’ chyrph daiarawl: anyd arall yvv gogoniāt yr ei nefol, ac arall yvv gogoniant, yr ei daiarol.

41Arall yvv gogoniāt yr haul, ac aral’ gogoniāt y lloer, ac arall gogoniant y ser: canys amrafaelia serē rac serē yn‐gogoniāt,

42Vel’y hefyt y mae cyuodiadigeth y meirw. Y corph a heuir yn l’wgredigeth, ac a gyvodir yn anllwgredigeth.

43Ef a heuir yn amparch, ac a gyvodir yn‐gogoniant: e heuir yn‐gwendit, ac e gyuodir yn‐nerthoc.

44E heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn corph ysprytol: y mae corph anianol, ac y mae corph ysprytol:

45Ac velly y mae yn escrivenedic. Y dyn cyntaf Adda a wnaethpwyt yn eneid byw: a’r Aða dywethaf a wnaetpvvyt yn yspryt bywodr.

46Er hyny ny wnethpvvyt yn gyntaf yr hwn ’syð yn ysprytol: anyd yr vn anianol, ac yno yr vn ysprytawl.

47Y dyn cyntaf ys ydd o’r ðaiar, yn ddaiarol: yr ail dyn yw yr Arglwydd o’r nef.

48Vn ryw vn a’r daiarol, cyfryw yvv ’r ei sy yn ddaiarolion: a’ megis yr vn sy yn nefol, cyfryw hefyt yw ’r ei nefol.

49A’ megys y arweðesam ðelw yr vn daiarol, velly yr arweðwn ðelw yr vn nefol.

50Hyn a ðywedaf, vroder, na ðychon cnawd a ’gwaed etiveddu teyrnas Duw, ac nyd yw llwgredigeth yn etiveðu anllwgredigeth.

51Nacha vi yn dāgos yw’ch ðirgelwch, Ny hunwn ni oll, eithr newidir ni ol’,

52ym‐moment ac yn‐trawiat y llygat wrth lef yr vtcorn dywethaf: canys yr vtcorn a gan, a’r meirw a gyuodir yn anllygredic, a ninhea ysmutir.

53Cāys dir yw ir peth llygradwy hwn wisco anllygredigeth, ac ir peth marwol hwn wisco āmarwoleth.

54Velly gwedy ir peth llygradwy hwn wisco anl’wgredigeth, ac ir peth marwol hwn wisco āmarwoleth, yno y dervyð yr ymadroð a scrivenwyt, Angeu a lyncwyt er buddugoliaeth.

55Angeu, p’le may dy gonyn? y beddrod, p’le may dy vuddygoliaeth?

56Conyn angeu ydyvv pechat: a’ nerth pechat yvv ’r Ddeddyf.

57An’d y Dduw y ddiolvvch, yr hwn a roddes i ni y vuddygoliaeth trwy ein Arglwydd Iesu Christ.

58Can hyny vy‐caredic vrodyr, byddwch ffyrfion a’ diymmot helaethion yn wastat yn‐gwaith yr Arglwydd, can y chwi wybot, nad yw eich llavur yn over yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help