1A’ Gwedy, daroedd y ni ddiangori, ac ymady ac wynt, ni a ddaetham yn vnion‐gwrs i ynys Coos, ar dyð nesaf i Rodos, ac o ddyno i Patara.
2A’ gwedy i ni gahel llong y elei trosodd i Phoinice, ni aetham iddi, ac a hwyliesam ymaith,
3A’ gwedy ymðangos o ynys Cyprus, ni hei gadasam ar y llaw aswy, ac a hwyliasam tu a Siria, ac a diriasam yn‐Tyrus: o bleit yno y dilwythwyrhwyt y llong.
4A’ gwedy i ni gaffael discipulon, nyni a drigesam yno saith diernot. Yr ei y ddywedesant i Paul trwy ’r Yspryt, nad elei i vynydd i Caerusalem.
5Ac yn ol gorphen yr dyddiae hyny, ni a dynasam, ac aetham ymaith, ac wynthvvy oll a’ei gwragedd a’ei plant an hebryngesant yd y n yd aetham allan o’r dinas: ac estyngesam ar ein gliniae ar y lann ac a weddiasam.
6Ac wedy daroedd y ni ymgydgyfarch, yr aetham ir llong, ac wynteu ymchwelasant adref.
7Ac yn ol i ni gorphen hwyliaw o ywrih Tyrus, y descenasam yn Ptolomais, ac a gyfarchasam‐well ir broder, ac a drigesam vn diernot y gyd ac wynt.
8A’ thranoeth, Paul a’r ei oedd gyd ac ef, a ðaetham i Caisareia: ac aetham y mewn y duy Philip yr Euangelwr, yr hwn ytoedd vn o’r saith Diacon, ac a arosam gyd ac ef.
9Ac iddaw ydd oedd pedeir merchet o wyryfon, yn prophwyto.
10Ac mal ydd oeðem yn aros yno lawer o ddyðiae yd aeth atam nep propwyt o Iudaia, aei enw yn Agabus.
11A gwedy iddo‐ddyvot atam, e cymerth wregis Paul, gan rwymo ei ddwylo a’i draet ehun, ac a ddyvot. Hyn a ddywait yr Yspryt glan, Val hynn y bydd ir Iuðaeon yn‐Caerusalem rwymo y gwr biae yr gwregis hwn, a’i roddy yn‐dwylo y Genetloedd.
12A’ gwedy clywed o hanam hynn yma, ys nyni ac ereill o ðyno a atolygesam iddo nad elei i vyny i Gaersalem.
13Yno ydd atebawdd Paul ac y dyvot: Pa wylo a wnewch gā dori vy‐calon? Can ys parawt wyf nid yn vnic y vot vy rhwymo, namyn hefyt i varw yn‐Caersalem er Enw yr Arglwydd Iesu.
14A’ phryt na ellit troi ei veddwl, y peidiesam, gan ddywedyt. Poet ewyllys yr Arglwydd a vo.
15Ac yn ol y dyddiae hynn y cymersam ein beichiae, ac ydd aetham y vynydd y Gaersalem.
16Ac e ddaeth gyd a ni rei or discipulon o Caisareia, ac a dducesont gyd ac wynt vn Mnason o Cyprus, hen ddiscipul, y gyd a’r hwn y lletuyem.
17A’ gwedy ein dyvot i Gaersalem, in derbyniawdd y broder yn llawen.
18A’r dydd nesaf yd aeth Paul y mywn gyd a ni at Iaco: a’r oll Henafieit oeð wedy yr ymgynul’ yno.
19A’ gwedy iddo ei cofleidiaw, y managawð mewn dosparth bop peth ar y wnaethoeddoedd Dew ym‐plith y cenetloeð drwy y, weinidogeth ef.
20Velly pan glywsant hyny, y rhoddesont ’ogoniant ir Arglwydd, ac y dywetsont wrthaw: Ys gwely, vrawt, pa niver miloedd o’r Iuddaeon ys ydd yn credy, ac y maēt oll yn gwynvydy am Ddeddyf.
21Ac wy a glywsant am danat, dy vot yn dyscu yr oll Iuddaeon, ys ydd ym plith y Cenetloedd, y ymwrthðot a’ Moysen, ac yn dywedyt, na ddlent anwaedy ar ei plant, na byw yn ol y devodae.
22Pa beth gā hyny ’syð yw vvneythyr? Dir iawn yw ymgynull o’r dyrva: can ys wy a glywant dy ddyvot.
23Can hyny gwna hyn yma a ðywedwn wrthyt, Mae genym pedwar‐gwyr a wnaethant eðunet.
24Cymer hwynt, a’ glanha dy hun y gyd ac wynt, a’ chyd gostia a’ hwy, yd y n yd eilliant ei pennae: a’ gwybot a gaiff pawp, am y pethae y glywsant am danat, nad ynt dim, eithyr dy vot titheu hevyt yn rhodio ac yn cadw yr Ddeddyf.
25Can ys tu ac at am y Cenedloedd, ys ydd yn credu, nyni a escrivenesam, ac a varnesam na bo yddwynt gadw dim cyfryw beth, eithyr ymoglyt o hanynt rac y pethe ’ry offrymer ir delwae a’ rac gwaet, ac ywrth y degir, ac ywrth godineb.
26Yno Paul a gymerawdd y gwyr, a’ thranoeth yr ymlanhaodd e y gyd ac wynt, ac ydd aeth y mewn ir Templ, gan espysy cyflawniat dyddiae yr glanhaat, yd y n y d offrymit offrwm dros bob vn o hanaddvvynt.
27A’ gwedy gorphen hayachen y saith diernot, yr Iuddaeon a’r oeddynt o’r Asia (pan welesant ef yn y Templ) a gynhyrfesant yr oll popul, ac a ddodesont ddwylo arnaw.
28Can lefain, Ha‐wyr yr Israel cymporthwch: hwn ywr dyn ys ydd yn dyscy pawp ym‐pop lle yn erbyn y popul, a’r Ddeddyf, a’r lle yma: eb law hyny, e dduc Groec wyr ir Templ, ac a halogawð y lle sanctaidd hwn.
29Can ys gwelesent or blaen yn y dinas gyd ef vn Trophimus o Ephesus, a ’thybiet mae Paul y ducesei ef ir Templ.
30Yno y cyffrowyt yr oll ddinas, ac y rreddodd y popul yn‐cyt: ac a ymavlesont ym‐Paul, ac ei tynnesont allan o’r Templ, ac yn y man y caewyt y drysae.
31Ac val ydd oeddent yn caisio y ladd ef, y managwyt i bencaptaen y giwdawt, bot oll Gaerusalem wedy’ thervyscy.
32Ac yn y van ef gymerawdd vilwyr a’ Chanwriait, ac a redawdd y waeret yd atwynt: a’ phan welsant y pen‐Captaen a’r milwyr, wy beidiesont a bayddy Paul.
33Yna y daeth y pen‐Captaen yn nes ac y daliodd ef, ac a ’orchymynawdd ei rwymo a dwy catwyn, ac a holodd pwy ytoedd ef, a ’pha beth a wnaethoeddoedd.
34A’r ei a lefynt vn peth, ereill beth arall, ym‐plith y popul. Velly pryd na vedrei ef wybot crynodab rac y dervisc, e ’orchymynawdd ei dywys ir castell.
35A’ gwedy y ddyvot ef ir grisi ae, e ddarvu gorvot y ðugy ef gan y milwyr rac ymffust y dyrfa.
36Can ys y dorf popul oeð yn ei ddilit, can lefain, Ymaith ac ef.
37A’ phan ddechreuit arwein Paul ir castell, e ðyvot wrth y pen‐Captaen, A alla vi gahel ymðiddam a thi? Yr hwn a ddyvot, A vedry di groec?
38Anyd tydi yw ’r Egyptian, yr hwn o vlaen y dyddiae hynn a gyffroeist dervysc, ac a arweneist ir diffeithvvch pedeirmil o wyr llofryddiawc.
39Yna y dyvot Paul, Yn ddiau, gwr wy vi o Iuddew, a’ dinesyð o Tarsus, dinas nid anenwoc yn Cilicia, ac atolwc yty, goddef ymy amadrodd wrth y popul.
40Ac wedy daroedd iddaw ganiady, y safawdd Paul ar y grisiae, ac a amnaidiawdd a llaw ar y popul: a’ gwedy gwneythy gostec vawr, y llavarawdd wrthynt yn y tavot Hebreo, gan ðywedyt,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.