1TUac at am y cascl ir Sainctæ, megis yr ordeiniais yn Ecclesi Galatia, velly gwnew‐chwitheu hefyt.
2Pop dydd cyntaf o’r wythnos, dodet pop vn o hanoch heibio wrtho y hun, gan roi y gadw megis y rhoes Duvv yddaw lwyddiant, val na bo ddim or casclu pan ddelwyfi.
3A’ gwedy ’delwyf pa ’rei bynac a gymradwyoch drwy lythyrae, yr ei hyny a ddanvonaf y ddwyn ych caridawt y Caerusalem.
4Ac a’s bydd yn gymesur mynet o hano vi hefyt wy ddawant y gyd a mi.
5Yno y dawaf atoch, gwedy ydd elwyf trwy Macedonia (canys mi af trwy Macedonia)
6ac ef al’ei yr arosaf, ie, neu y gayafaf gyd a chwi, val im hebryngoch y b’le bynac ydd elwyf.
7Can nad oes im bryd ym welet a chwi yr awrhon ar vy hynt, and gobeithaf yr arosaf enhyd gyd a chwi, a’s gady yr Arglwydd.
8A’ mi a arosaf yn Ephesus yd Pentecost.
9Can ys agorwyt i mi ðrws mawr a’ grymus: anyd bot gwrthnebwyr lawer.
10Ac a’s Timotheus a ddaw, edrychwch am y vot ef yn ddiofn y gyd a chwi: can ys efe ’sy yn gweithio gwaith yr Arglwydd, vegis ac ydd vvy vinef.
11Am hyny na ddiystyret nep ef: anyd hebryngwch ef yn‐tangneddyfus, val y delo at y vi: can vy‐bot yn edrych am danaw y gyd a’r brodur.
12Ac am ein brawd Apollos, mi a ddeisyfeis arno yn vawr, ddyvot atoch y gyd a’r brodur: eithyr nad oedd yn y vryd ef yn ollawl ddyvot yr awrhon: anyd e ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
13Gwiliwch: sefwch‐yn‐’lud yn y ffydd: ymwrolwch, ac ymnerthwch.
14Gwneler eich oll petheu yn‐cariat:
15Weithiā, vrodur, atolygaf ywch (chvvi adwaenoch duylu Stephanas, y vod yn vlaenffrwyth Achaia, a’ darvot yddyn ymroi y weini ir Sainctæ)
16vot o hanoch yn vvydd ir cyfryw, ac y bawp ’sy yn cydweithio a ni ac yn llavurio.
17Llawē wyf am ðyvodiat Stephanas, a’ Fortunatus, ac Achaicus: can yddyn hwy gyflawny y deffic o hano‐chwi.
18Can ys diddanesont vy yspryt i a’r vn yddoch: cydnabyddwch gan hyny y cyfryw ’rei.
19Yr Ecclesidd yr Asia ach anerchant. Aquila ac Phriscilla y gyd a’r Eccles ys ydd yn y tuy hwy, a’ch anerchant yn vawr yn yr Arglwydd.
20Yr oll vrodur ach anerchant. Anerchwch bavvp y gylydd a chusan sainctaiddol.
21Vy anerchiat i Paul a’r l’aw veuvi.
22A’d oes neb nyd yw yn caru yr Arglwyð Iesu Christ, bid ef anathema maranatha.
23Rat ein Arglwydd Iesu Christ gyd a chwi.
24Bo vy‐cariat i gyd a chwi oll yn‐Christ Iesu, Amen.
Yr epistol cyntaf at y Corinthieit, yscrivenedic o Philippi, ac anvonedic trwy lavv Stephanas, a’ Fortunatus, ac Achaicus, a’ Thimotheus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.