Dadguddiad Ioan 22 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Afon, y Pren, yr Orsedd, y Goleuni.

1Ac efe a ddanghosodd i mi Afon o Ddwfr y Bywyd, disglaer fel grisial, yn dyfod allan o Orsedd Duw a'r Oen;

2yng nghanol ei heol hi, ac ar y tu yma ac ar y tu draw i'r Afon, yr oedd Pren y Bywyd yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, gan roddi ei ffrwyth bob mis; a dail y pren oedd er iachâd y Cenhedloedd.

3A phob rhyw felldith ni fydd mwyach: a Gorsedd Duw a'r Oen a fydd ynddi hi: a'i weision ef a'i gwasanaethant ef:

4a hwy a welant ei wyneb ef; a'i Enw ef fydd ar eu talcennau hwynt.

5A nos ni fydd mwyach; ac nid oes rhaid iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul; canys yr Arglwydd Dduw a lewyrcha arnynt: a theyrnasant yn oes oesoedd.

Y Diweddglo.

6Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y geiriau hyn sydd ffyddlawn a gwirioneddol: a'r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae yn rhaid iddynt ddygwydd ar frys.

7Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn.

8A myfi Ioan yw yr hwn sydd yn clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan y clywais ac y gwelais, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel a ddanghosodd i mi y pethau hyn.

9A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cydwas ydwyf fi â thi, ac â'th frodyr y prophwydi, ac â'r rhai sydd yn cadw geiriau y Llyfr hwn: addola Dduw.

10A dywed wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn; canys y mae yr amser yn agos.

11Yr hwn sydd yn gwneuthur anghyfiawnder, gwneled anghyfiawnder eto; a'r hwn sydd frwnt, gwneler ef yn frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a'r hwn sydd sanctaidd, sancteiddier ef eto.

Agosrwydd y Dyfodiad.

12Wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyd a mi, i dalu i bob un fel y mae ei waith.

13Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Cyntaf a'r Diweddaf, y Dechreu a'r Diwedd.

14Gwyn eu byd y rhai sydd yn golchi eu gwisgoedd, fel y byddo iddynt hawl ar Bren y Bywyd, ac yr elont i mewn trwy y pyrth i'r Ddinas.

15Oddi allan y mae y cwn, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun‐addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd.

Gwahoddiad Grasol.

16Myfi IESU a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi y pethau hyn i'r eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, y Seren Foreu ddisglaer.

17Ac y mae yr Yspryd a'r Briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd a syched arno, deued; a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered Ddwfr y Bywyd yn rhad.

Rhybudd Dwys.

18Yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn. Os ychwanega neb atynt, Duw a ychwanega ato yntau y pläau sydd yn ysgrifenedig yn y Llyfr hwn;

19ac o thŷn neb ymaith oddiwrth eiriau Llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a dŷn ymaith ei ran ef oddiwrth Bren y Bywyd, ac allan o'r Ddinas Sanctaidd, y rhai a ysgrifennwyd yn y Llyfr hwn.

20Y mae yr hwn sydd yn tystiolaethu y pethau hyn yn dywedyd, Ië, Yr wyf yn dyfod ar frys.

Amen: Tyred, Arglwydd Iesu.

21Gras yr Arglwydd Iesu a fyddo gyda'r Saint. Amen.

Y DIWEDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help