1Myfi hefyd, pan ddaethum attoch, frodyr, ni ddaethum gyda godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb pan yn cyhoeddi i chwi dystiolaeth Duw.
2Canys ni fernais yn dda i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.
3A mi a fum gyda chwi mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr.
4A'm hymadrodd a mater fy mhregethu nid oeddynt yng ngeiriau deniadol doethineb, eithr yn amlygiad yr Yspryd a gallu:
5fel na byddai eich ffydd chwi yn noethineb dynion, eithr yng ngallu Duw.
Yr Efengyl yn ddoethineb.6Yn awr, doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym mysg y rhai sydd wedi cyrhaedd addfedrwydd: eithr doethineb nid eiddo y byd hwn na llywodraethwyr y byd hwn, y rhai sydd yn cael eu diddymmu.
7Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, yr hon sydd wedi bod yn guddiedig, yr hon a rag‐ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd er ein gogoniant ni:
8yr hon nid oes neb o lywodraethwyr y byd hwn wedi dyfod i'w hadnabod: canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y Gogoniant:
9Eithr fel y mae yn ysgrifenedig,
Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust,
Ac na chyfodasant i galon dyn,
Y fath bethau a ddarparodd Duw i'r rhai sydd yn ei garu ef.
Doethineb Duw yn ddadguddiedig gan yr Yspryd.10Eithr i nyni y dadguddiodd Duw hwynt trwy yr Yspryd: Canys y mae yr Yspryd yn chwilio pob peth, ië, ddyfnderoedd Duw.
11Canys pwy ym mhlith dynion a ŵyr bethau y dyn, ond yspryd y dyn yr hwn sydd ynddo? Felly hefyd pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw.
12Eithr nid yspryd y byd a dderbyniasom ni, eithr yr Yspryd yr hwn sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad‐roddwyd i ni gan Dduw:
13y rhai hefyd yr ydym yn eu llefaru, nid mewn geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Yspryd, gan gymharu pethau ysprydol â phethau ysprydol.
Gwerthfawrogiad Doethineb Duw gan y dyn ysprydol yn unig.14Yn awr, y dyn anianol ni dderbyn y pethau sydd o Yspryd Duw: canys ffolineb ydynt iddo ef; ac nis gall eu gwybod, canys mewn modd ysprydol y profir hwynt.
15Ond y mae y dyn ysprydol yn profi pob peth, eithr efe nis dygir i brawf gan neb.
16Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a'i cyfarwydda Ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.