1Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ydyw wedi bod yn ofer;
2eithr wedi dyoddef o'r blaen a'n sarhâu, fel y gwyddoch, yn Philippi, ni a fuom hŷf yn ein Duw i lefaru wrthych efengyl Duw mewn mawr ymdrech.
3Canys ein happêl ni nid ydoedd o gyfeiliornad, nac o aflendid, nac mewn twyll;
4eithr megys yr ydym wedi ein cymmeradwyo gan Dduw i gael ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau.
5Canys ni ddaethom un amser mewn ymadrodd gweinieithus, fel y gwyddoch; nac mewn gorchudd cybydd‐dod, Duw sydd dyst;
6nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, nac oddiwrthych chwi, nac oddiwrth eraill; a ni yn gallu bod o bwys fel Apostolion Crist.
7Eithr ni a fuom fabanod yn eich canol: fel pan mae mammaeth yn maethu ei phlant ei hun;
8felly gan ymserchu ynoch, boddlawn fuom i gyfrannu i chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond hefyd ein heneidiau ein hunain, oblegyd eich bod yn anwyl i ni.
9Canys côf yw gennych, frodyr, ein llafur a'n trafferth; gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a gyhoeddasom i chwi efengyl Duw.
10Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius y buom yn eich golwg chwi y rhai ydych yn credu:
11megys y gwyddoch y modd yr ymddygasom at bob un o honoch, megys tâd at ei blant ei hun,
12gan eich cynghori a'ch calonogi a'ch tynghedu i rodio yn deilwng o Dduw, yr hwn sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant.
Diolch am roesaw.13Ac oblegyd hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi, pan dderbyniasoch y gair a glywsoch, Gair Duw, ei roesawu nid fel gair dynion, eithr, (fel y mae yn wir), yn air Duw, yr hwn sydd yn nerthol‐weithio ynoch chwi, y credinwyr;
14canys chwychwi a ddaethoch i fod yn efelychwyr, frodyr, o eglwysi Duw, y rhai sydd yn Judea yng Nghrist Iesu, canys chwi hefyd a ddyoddefasoch yr un pethau gan eich cyd‐wladwyr eich hunain, megys hwythau hefyd gan yr Iuddewon;
15y rhai hefyd a laddasant yr Arglwydd Iesu a'r Prophwydi, ac a'n herlidiasant ninnau allan, ac nid ydynt yn rhyngu bodd Duw, ac y maent yn wrthwynebus i bob dyn;
16yn gwarafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd fel yr achubid hwy, fel i lanw i fyny fesur eu pechodau yn wastadol: ond y mae y Digofaint wedi eu gorddiwes o'r diwedd.
Yr ymweliad bwriadedig.17A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, oeddem o lawer yn fwy astud i weled eich wyneb, gydag awydd mawr;
18oblegyd ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul, ië unwaith a dwywaith, a Satan a'n lluddiodd ni.
19Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost yn ei Ddyfodiad?
20Canys chwychwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.