1 Corinthiaid 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y godinebwr a'i ddysgyblaeth.

1Adroddir yn ddios fod putteindra yn eich plith, a chyfryw butteindra ar nad yw hyd y nod ym mysg y Cenhedloedd, fod gan un o honoch wraig ei dâd.

2Ac yr ydych wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y cymmerid o'ch canol yr hwn a wnaeth y weithred hon.

3Canys myfi yn wir, yn absennol yn y corph, ond yn bresennol yn yr yspryd, wyf eisoes wedi barnu, fel pe bawn bresennol, yr hwn yn y fath fodd a weithredodd hyn,

4yn enw ein Harglwydd Iesu wedi ymgynnull o honoch ynghyd a'm hyspryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu

5draddodi y cyfryw un i Satan er dinystyr y cnawd, fel yr achubir yr yspryd yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6Nid da eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio yr holl dalp?

7Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch yn dalp newydd, megys yr ydych yn ddilefeinllyd. Canys ein Pasc ni hefyd a aberthwyd, sef Crist;

8mewn canlyniad, cadwn ŵyl, nid â hen lefain malais a drygioni, ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

Cynghorion i gadw rhag cwmni anfoesol.

9Ysgrifennais attoch yn y llythyr na chyd‐ymgymmysgech â phutteinwyr; —

10nid na chyd— gymmysgech o gwbl â phutteinwyr y byd hwn, neu y rhai trachwantus a threisgar, neu eilun‐addolwyr, oblegyd yna byddai rhaid i chwi fyned allan o'r byd;

11ond yn awr, yr wyf yn ysgrifennu attoch i beidio ag ymgymmysgu, os bydd neb a enwir yn frawd yn butteiniwr, neu yn drachwantus, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddwyn, neu yn dreisgar; gyda'r cyfryw un na ddim cymmaint a bwytta.

12Canys beth sydd gyda mi i wneyd a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Symmudwch ymaith yr un drygionus o'ch plith eich hunain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help