1Ond gwybydd hyn, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf,
2canys bydd dynion yn hunangar, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn ansanctaidd,
3heb serch naturiol, yn annghymodlawn, yn enllibaidd, yn annghymmedrol, yn greulawn, heb serch at ddaioni,
4yn fradwyr, yn fyrbwyll, wedi ymchwyddo, yn hoffwyr pleser yn hytrach nag yn hoffwyr Duw,
5a chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi; ac oddiwrth y rhai hyn tro ymaith.
6Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sydd yn ymlusgo i deuluoedd, ac yn dwyn i gaethiwed wrageddos wedi eu llethu gan bechodau, wedi eu harwain gan amrywiol chwantau,
7o hyd yn dysgu, a byth yn methu dyfod i lawn‐wybodaeth o'r gwirionedd.
8Ond y modd y gwrthsafodd Jannes a Jambres Moses, felly hefyd y mae y rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd: dynion a'u meddyliau wedi eu hollol lygru, yn annghymmeradwy o ran ffydd.
9Eithr nid änt rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwy hefyd.
Sefydlogrwydd a hyder diysgog Paul.10Eithr tydi a ddylynaist fy addysg i, fy ymarweddiad, arfaeth, ffydd, hir‐ymaros, cariad, amynedd,
11erlidiau, dyoddefiadau, y fath a ddygwyddasant i mi yn Antioch, yn Iconium, yn Lystra; y fath erlidiau a ddyoddefais: ac allan o honynt oll yr Arglwydd a'm gwaredodd.
12Ië, a phawb sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir.
13Eithr drwg‐ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
14Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist, ac o'r rhai yr wyt yn argyhoeddedig, gan wybod gan bwy y dysgaist hwynt;
15ac i ti er yn faban wybod yr Ysgrythyrau Sanctaidd, y rhai sydd yn alluog i'th wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.
16Pob Ysgrythyr ysprydoledig gan Dduw sydd hefyd fuddiol er addysgu, er argyhoeddi, er adferyd, er hyfforddi mewn cyfiawnder,
17fel y byddo dyn Duw yn gyflawn, wedi ei lawn‐ddarparu i bob gweithred dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.