1A chyrhaeddodd rhai yn y cyfamser hwnw, gan fynegi iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymysgodd Pilat â'u haberthau.
2Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid tu hwnt i'r holl Galileaid, am eu bod wedi dyoddef y pethau hyn?
3Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhêwch, chwi oll a ddyfethir yn yr un modd.
4Neu y deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y Twr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied fod y rhai hyn eu hunain yn ddyledwyr tu hwnt i'r holl ddynion oedd yn trigo yn Jerusalem?
5Na, meddaf i chwi, eithr onid edifarhêwch, chwi a ddyfethir oll yr un modd yn hollol.
Dammeg y ffigysbren ddiffrwyth.6Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blanu yn ei winllan: ac efe a ddaeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd.
7Ac efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, y mae tair blynedd o'r adeg yr wyf yn dyfod gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael: tor ef allan: paham y mae efe hefyd yn diffrwytho am y dyfodol, da: ond os na wna, yn wir, ti a'i tori ef allan.
Rhagrith ynghylch y Sabbath: gwellhâd y wraig grymedig.10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r Synagogau ar y Sabbath.
11Ac wele wraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cyd‐grymu, ac ni allai ymuniawni o gwbl.
12A'r Iesu a'i gwelodd hi, ac a'i galwodd ato, ac a ddywedodd wrthi, Wraig, yr wyt wedi dy ryddhâu oddiwrth dy wendid.
13Ac efe a osododd ei ddwylaw arni, ac yn y man hi a uniawnwyd, ac yr oedd yn gogoneddu Duw.
14A Llywodraethwr.
15Ond yr Arglwydd a atebodd iddo ac a ddywedodd, O ragrithwyr, Onid yw pob un o honoch yn gollwng ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain ymaith i'r dwfr?
16Ond hon, yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan hyny, I ba beth y mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac i ba beth y cyffelybaf hi?
19Tebyg yw i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a fwriodd i'w ardd ei hun; ac efe a dyfodd, ac a ddaeth i fod yn bren, ac ehediaid y Nefoedd a ymlochesasant o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl oll.
Dammeg y drws cyfyng[Mat 7:13, 14, 21–23; 8:11, 12]22Ac efe a ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, a gwneyd ei ffordd i Jerusalem.
23A rhyw un a ddywedodd wrtho, Ai ychydig yw y rhai sydd yn cael eu cadw i fyned i mewn drwy y drws cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni fyddant alluog —
25o'r adeg y cyfodo meistr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll y tu allan a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, ac yntau gan ateb a ddywed, Nid adwaen chwi, o ba le yr ydych.
26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein prif‐heolydd.
27Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.
28Yno y bydd yr wylofain a'r rhingcian danedd, pan welwch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl Broffwydi, yn Nheyrnas Dduw, ond chwithau wedi eich bwrw i'r tu allan.
29A deuant o'r Dwyrain, ac o'r Gorllewin, o'r Gogledd, ac o'r Deheu, ac a eisteddant i lawr i'r wledd yn Nheyrnas Dduw.
30Ac wele, y mae rhai olaf a fyddant flaenaf, a blaenaf a fyddant olaf.
Gwaith Crist, a'i genadwri i Herod Antipas.31Yr awr hono daeth ato ryw Pharisead, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan a cherdda oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn cyflawnu gweithredoedd o iachâd heddyw ac yfory, a'r trydydd dydd yr wyf yn cyrhaedd y diwedd, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd atat, pa mor fynych yr ewyllysiais gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd; ac nid ewyllysiech chwi!
35Wele, y mae eich Tŷ yn cael ei adael i chwi. Ond meddaf i chwi, Ni welwch fi o gwbl, hyd nes y dywedwch, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.