Rhufeiniaid 10 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Prawfion o Fethiant ac Euogrwydd Israel.

1Frodyr, ewyllys da fy nghalon a'm gweddi ar Dduw ar eu rhan yw er eu hiachawdwriaeth;

2canys yr wyf yn dyst iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ol gwybodaeth;

3canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu heiddo

eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

4Canys Crist yw diwedd deddf er cyfiawnder i bob un sydd yn credu.

5Canys y mae Moses yn ysgrifennu mai y dyn a wnel y cyfiawnder sydd o ddeddf a fydd byw trwyddo.

6Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef (hynny yw, i ddwyn Crist i waered);

7neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, i ddwyn Crist i fyny o blith y meirw).

8Na, pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;

9sef, os cyffesi a'th enau yr Iesu yn Arglwydd, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi;

10canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth;

11oblegyd dywed yr Ysgrythyr, Pob un sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

12Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr; canys yr un yw Arglwydd pawb, yn gyfoethog i bawb sydd yn galw arno:

13canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

Yr Efengyl a wrthodwyd gan Israel yn cael ei phregethu i bawb.

14Pa fodd, ynte, y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant? a pha fodd y clywant heb bregethwr?

15a pha fodd y pregethant onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau da!

16Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl; canys y mae Esaia yn dywedyd], Arglwydd, pwy a gredodd i'n cennadwri?

17Felly daw ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Crist.

18Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir,

Eu swn a aeth allan i'r holl ddaear,

A'u geiriau hyd derfynau y byd.

19Eithr meddaf, Ai ni wybu Israel? Moses a ddywed yn gyntaf, Mi a'ch gwnaf yn eiddigus yn erbyn yr hyn nid yw genedl; yn erbyn cenedl anneallus mi a'ch gwnaf yn ddig.

20Eithr y mae Esaia yn ymhyfhâu ac yn dywedyd,

Cafwyd fi gan y rhai na'm ceisient,

A gwnaethum fy hun yn eglur i'r rhai nad ymofynant am danaf.

21Ond wrth Israel y dywed efe,

Ar hyd y dydd yr estynais allan fy nwylaw at bobl anufudd a gwrthwynebus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help