Ephesiaid 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y dirgelwch dadguddiedig.

1Ar gyfrif hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu ar eich rhan chwi y Cenhedloedd,

2os clywsoch yn wir am oruchwyliaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch chwi,

3mai yn ol dadguddiad y gwnaed yn hyspys i mi y dirgelwch (megys yr ysgrifennais o'r blaen yn fyr,

4wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, ganfod fy neall yn nirgelwch Crist),

5yr hwn mewn cenedlaethau eraill ni eglurwyd i feibion dynion, fel yn awr y dadguddiwyd ef i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi yn yr Yspryd,

6fod y Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion ac yn gyd‐aelodau o'r corph, ac yn gyd‐gyfrannogion o'r Addewid yng Nghrist Iesu, trwy yr Efengyl,

7i'r hon y'm gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad ei allu ef;

8i mi, yn llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i'r Cenhedloedd anolrheiniadwy olud Crist;

9a rhoi goleu i bawb ar beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a guddiwyd oddiwrth yr oesau yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth,

10fel yr hyspysid yn awr i'r llywodraethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr‐amryliw ddoethineb Duw,

11yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd,

12yn yr hwn y mae i ni hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ffydd ynddo ef.

13O herwydd paham yr wyf yn deisyf na lwfrhâoch yng nghanol fy mlinderau drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

Ei weddi ar eu rhan.

14O herwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at y Tâd,

15o'r hwn yr enwir pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

16ar roddi o hono i chwi, yn ol golud ei ogoniant, fod yn gadarn trwy allu, trwy ei Yspryd yn y dyn oddimewn,

17ar i Grist drigo trwy ffydd yn eich calonnau, fel, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad,

18y byddoch lwyr‐alluog i amgyffred gyda'r holl saint beth yw y lled, a'r hyd, a'r uchder a'r dyfnder,

19a gwybod cariad Crist yr hwn sydd ymhell uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch llanwer i fyny i gyflawnder Duw.

20Ac i'r hwn sydd alluog i wneuthur yn dra‐rhagorol, tu hwnt i bob peth a geisiwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sydd yn gweithredu ynom,

21iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, i holl genedlaethau oes yr oesoedd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help