1Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn.
2Anrhydedda dy dâd a'th fam (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf gydag addewid),
3fel y byddo yn dda i ti ac y byddi fyw yn hir ar y ddaear.
4A thadau, na ennynwch ddig eich plant, ond dygwch hwynt i fyny yn hyfforddiad a chynghor yr Arglwydd.
5Y gweision, ufuddhêwch i'ch meistriaid arnoch yn ol y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megys i Grist;
6nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon,
7gydag ewyllysgarwch yn gwasanaethu fel i'r Arglwydd ac nid i ddynion;
8gan wybod pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe yn ol oddiwrth yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd yw.
9A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag attynt hwy, gan roddi bygwth heibio, gan wybod fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
Arfogi yn erbyn gelynion ysprydol.10Yn ddiweddaf, ymgryfhêwch yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei nerth.
11Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion y Diafol;
12canys nid yw ein hymorchest ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn byd‐lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn lluoedd ysprydol drygioni yn y nefolion leoedd
.13Am hynny cymmerwch i fyny holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi llawn‐wneuthur pob peth, sefyll.
14Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo dwyfronneg cyfiawnder,
15ac wedi rhwymo dan eich traed sandalau parodrwydd efengyl y tangnefedd;
16yn yr oll cymmerwch i fyny darian y ffydd, â'r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd yr Un Drwg.
17A chymmerwch helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw;
18trwy foddion pob rhyw weddi a deisyfiad, yn gweddio ar bob achlysur yn yr Yspryd, ac yn gwylied gyda golwg ar hyn ym mhob dyfal‐bara a deisyfiad am yr holl saint;
19ac ar fy rhan innau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau mewn hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr Efengyl,
20dros yr hwn yr wyf yn llys‐gennad mewn cadwynau, fel am dano y llefarwn gyda hyfdra, fel y dylwn lefaru.
Diweddglo.21Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, sut y mae arnaf, Tychicus, y brawd anwyl a'r gwas ffyddlawn yn yr Arglwydd,
22a hyspysa yr oll i chwi, yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwypoch ein helynt ac y dyddana efe eich calonnau.
23Tangnefedd i'r brodyr a chariad gyda ffydd oddiwrth Dduw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
24Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.