1A'r prif bwynt yn y pethau a ddywedir yw hyn. Y mae gennym y fath Arch‐offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd‐faingc y Mawredd yn y nefoedd;
2gweinidog y Cysegr a'r gwir Dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.
3Canys pob Arch‐offeiriad a benodir i offrymu rhoddion ac aberthau: o herwydd paham rhaid bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma.
4Yn awr gan hynny pe byddai efe ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad mewn un modd, gan fod y rhai sydd yn offrymu y rhoddion yn ol y Gyfraith,
5yn gyfryw ag sydd yn gwasanaethu darlun a chysgod y pethau nefol, megys y dadguddiwyd i Moses pan oedd ar fedr gosod i fyny y Tabernacl; canys, Gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y Mynydd.
Ysprydolrwydd y Cyfamod Newydd.6Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae hefyd yn Gyfryngwr Cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei ddeddf‐osod ar addewidion gwell.
7Canys pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, yna ni cheisiasid lle i'r ail.
8Canys gan feio arnynt y dywed efe,
Wele ddyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd,
A mi a gwblhâf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Juda;
9Nid yn ol y Cyfamod yr hwn a wnaethum â'u Tadau, Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn hwy o dir yr Aipht, oblegid nid arhosasant hwy yn fy nghyfamod i, A minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd.
10Oblegyd hwn yw y cyfamod a amodaf â thŷ Israel
Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd:
Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu meddwl,
Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu calon;
A byddaf iddynt yn Dduw,
A hwythau a fyddant i minnau yn bobl:
11Ac ni ddysgant bob un ei gyd‐ddinesydd,
A phob un ei frawd, gan ddywedyd,
Adnebydd yr Arglwydd, canys pawb a'm hadnabyddant i,
O fychan i fawr o honynt.
12Oblegyd trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau,
A'u pechodau ni chofiaf mwy.
13Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, y mae efe wedi gwneuthur y cyntaf yn hen; canys y mae yr hyn sydd yn heneiddio ac yn oedrannus yn agos i ddiflaniad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.