1Na fyddwch athrawon lawer fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn.
2Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni oll yn tripio. Od oes neb heb dripio mewn ymadrodd, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno hefyd yr holl gorph.
3Ac os gosodwn ffrwynau y meirch yn eu geneuau, fel y byddont yn ufudd i ni, yr ydym hefyd yn troi eu holl gorph o amgylch.
4Wele hefyd y llongau, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, a droir o amgylch â'r llyw lleiaf, lle y mynno tuedd y llywiwr.
5Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, mor ychydig o dân a ennyn goedwig mor fawr!
6A'r tafod sydd dân; byd o anghyfiawnder wedi ei osod ym mhlith ein haelodau yw y tafod, yr hwn sydd yn llychwino yr holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.
7Canys pob rhywogaeth o wylltfilod ac ehediaid, o ymlusgiaid ac anifeiliaid y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynolryw;
8ond y tafod nis gall neb dynion ei ddofi; drwg diorphwys ydyw, yn llawn gwenwyn marwol!
9Ag ef yr ydym yn bendithio yr Arglwydd a'r Tâd; âg ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, y rhai a wnaed ar lun Duw.
10O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.
11A ydyw ffynnon yn bwrlymu allan o'r un agoriad y melus a'r chwerw?
12A ddichon pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifiaid, neu winwydden, ffigys? Ni ddichon dwfr hallt chwaith roddi dwfr croyw.
Gwir ddoethineb yn gysylltiedig â bywyd da.13Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? danghosed trwy ei ymarweddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd‐dra doethineb.
14Ond od oes gennych eiddigedd chwerw ac ymbleidiaeth yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na fyddwch gelwyddog yn erbyn y gwirionedd.
15Nid yw y ddoethineb hon yn dyfod oddi uchod, ond daearol, anianol, dieflig yw.
16Canys lle y mae eiddigedd ac ymbleidiaeth, yno y mae afreolaeth a phob gweithred iselwael.
17Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, mwynaidd, cymodol, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb amheuaeth, yn ddiragrith.
18A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i'r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.