Actau 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ymddadleu yn Antioch ynghylch Enwaediad: cenadaeth at yr Eglwys yn Jerusalem, 1–5.

1A rhai wedi dyfod i waered o Judea a ddysgasant y brodyr: Onid enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch eich hachub.

2A phan yr oedd ymryson a dadleu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a drefnasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fyny i Jerusalem at yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn.

3A hwy, wedi eu hebrwng gan yr Eglwys a dramwyasant trwy Phœnicia a Samaria, gan adrodd yn fanwl droedigaeth y Cenhedloedd; a hwy a barasant lawenydd mawr i'r holl frodyr.

4Ac wedi cyrhaedd i Jerusalem, hwy a roesawyd gan yr Eglwys a'r Apostolion a'r Henuriaid, a hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt.

5Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oeddent wedi credu, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw Cyfraith Moses.

Y Cyfarfod Eglwysig yn Jerusalem: yr ymdriniaeth a'r penderfyniad, 6–21.

6A'r Apostolion a'r Henuriaid a ymgynullasant ynghyd i weled ynghylch y pwnc hwn;

7ac wedi llawer o ymddadleu, Petr a gyfododd ac a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, yr ydych yn gwybod ddarfod i Dduw er y dyddiau cyntefig yn eich plith ddewis i'r Cenhedloedd glywed Gair yr Efengyl trwy fy ngenau a chredu.

8A Duw, Adnabyddwr calonau, a dystiolaethodd iddynt, gan roddi yr Yspryd Glân, megys ag i ninau;

9ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau trwy ffydd eu calonau hwynt.

10Yn awr gan hyny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i osod iau ar war y Dysgyblion, yr hon nid oedd ein Tadau na ninau yn alluog ei dwyn.

11Ond trwy ras yr Arglwydd Iesu yr ydym ni yn credu y'n hachubir, yr un modd a hwythau hefyd.

12A thawodd y lliaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn adrodd pa fath arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13Ac ar ol iddynt dewi, atebodd Iago a adroddodd y modd ar y cyntaf yr ymwelodd Duw i gymeryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw.

15Ac a hyn y cytuna geiriau y Prophwydi, megys y mae yn ysgrifenedig,

16Ar ol y pethau hyn y dychwelaf,

Ac yr ad‐adeiladaf babell Dafydd, yr hon sydd wedi syrthio;

A'i hadfeilion a ad‐adeiladaf,

Ac a'i gosodaf hi yn syth i fyny:

17Fel y byddo i'r gweddill o ddynion geisio yr Arglwydd,

A'r holl Genhedloedd ar y rhai y gelwir fy enw,

Medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn,

18y rhai ydynt hyspys o'r dechreuad.

19Gan hyny, fy marn i yw: Peidio blino y rhai o'r Cenhedloedd sydd yn troi at Dduw;

20eithr ysgrifenu atynt i ymgadw oddiwrth halogrwydd yr eilunod a godineb, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth waed.

21Canys y mae gan Moses er Cenhedlaethau Cyntefig yn mhob dinas rai a'i pregethant ef, gan gael ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabbath.

Ateb a chyfarwyddyd i'r Eglwys yn Antioch, 22–29.

22Yna y gwelwyd yn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid ynghyda'r holl Eglwys, wedi dewis gwyr o'u plith eu hunain, eu danfon i Antioch gyda Phaul a Barnabas, sef Judas yr hwn a gyfenwir Barsabbas, a Silas, blaenoriaid yn mhlith y brodyr;

23gan ysgrifenu trwy eu llaw hwynt:

Yr Apostolion a'r Henuriaid, brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antioch a Syria a Cilicia, yn anfon anerch:

24Yn gymaint a chlywed o honom i rai a aethant allan oddiwrthym ni eich cythryblu chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau, i'r rhai ni roisom orchymyn;

25ni a welsom yn dda, a dyfod o honom yn unfrydol, wedi dewis gwyr, i'w danfon atoch chwi gyda'n hanwyliaid Barnabas a Paul,

26gwyr sydd wedi rhoddi fyny eu bywydau ar ran enw ein Harglwydd Iesu Grist.

27Yr ydym wedi danfon, gan hyny, Judas a Silas, a hwynt‐hwy trwy leferydd ydynt yn mynegu yr un pethau.

28Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân a chenym ninau, na ddodid arnoch unrhyw faich mwy na'r pethau anghenrheidiol hyn:

29Ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb: os cedwch eich hunain oddiwrth y pethau hyn, da y gwnewch. Byddwch iach.

Derbyniad y Genadwri a'r Cenadon yn Antioch, 30–35.

30Gan hyny yn wir, wedi eu gollwng ymaith, hwy a ddaethant i Antioch; ac wedi cynull y lliaws ynghyd, hwy a drosglwyddasant y llythyr;

31ac wedi ei ddarllen, hwy a lawenychasant am y calondid a gawsant.

32A Judas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy lawer o ymadrodd a galonogasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.

33Ac wedi treulio rhyw amser, hwy a ollyngwyd mewn tangnefedd oddiwrth y brodyr at y rhai a'u danfonasant.

34

35A Paul a Barnabas oeddent yn aros yn Antioch, gan ddysgu a phregethu Gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.

Anghydwelediad rhwng Paul a Barnabas: eu gwahaniad a'u gwaith, 36–41.

36Ac wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn ar unwaith ac ymwelwn a'r brodyr yn mhob dinas yn y rhai y cyhoeddasom Air yr Arglwydd, i weled pa fodd y mae arnynt.

37A Barnabas a fynai gymeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwid Marc.

38Eithr ni thybiai Paul yn iawn gymeryd gyda hwynt hwnw, yr hwn a wrth‐giliodd oddiwrthynt o Pamphylia, ac nid aeth gyda hwynt i'r gwaith.

39A chyfododd cweryl llym, fel yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd; a Barnabas wedi cymeryd Marc gydag ef, a fordwyodd i Cyprus;

40a Paul wedi dewis Silas, a aeth allan, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr.

41Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhâu yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help