Marc 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Am buredigaeth allanol a thufewnol, a thraddodiadau[Mat 15:1–20]

1Ac ymgasgla ato y Phariseaid, a rhai o'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant o Jerusalem;

2ac a welsant fod rhai o'i Ddysgyblion ef yn bwyta bara â dwylaw halogedig, hyny yw, heb eu golchi.

3Canys y Phariseaid a'r holl Iuddewon, oni fydd iddynt olchi eu dwylaw yn egniol, ni fwytânt, gan ddal yn dyn Draddodiad yr Henuriaid.

4A phan ddelont o'r farchnadle, oni fydd iddynt ymdrochi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a dderbyniasant i'w cadw, bedyddiadau cwpanau, ac ystenau, a llestri copr.

5A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a ofynasant iddo, Paham nad yw dy Ddysgyblion di yn rhodio yn ol Traddodiad yr Henuriaid, ond â dwylaw halogedig y maent yn bwyta bara?

6Ond efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaiah am danoch, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig: —

Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu a'r gwefusau,

Ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;

7Eithr yn ofer y maent yn fy addoli,

Gan ddysgu fel cu dysgeidiaeth, orchymynion dynion.

8Gan ollwng ymaith orchymyn Duw, yr ydych yn dal gafael ar Draddodiad dynion.

9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych y gwnewch i ffwrdd â gorchymyn Duw, fel y dyogeloch eich Traddodiad eich hunain.

10Canys Moses a ddywedodd,

Anrhydedda dy dâd a'th fam,

Ac,

Yr hwn a ddifenwo dâd neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth.

11Ond meddwch chwi, Os dywed dyn wrth ei dâd neu ei fam, Corban ydych mwyach yn caniatau iddo wneuthur dim dros dâd neu fam;

13gan ddirymu Gair Duw drwy eich Traddodiad yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.

14Ac efe a alwodd ato y dyrfa drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch:

15nid oes dim o'r tu allan i'r dyn, yr hwn pan yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o'r dyn yw y pethau sydd yn halogi y dyn.

16-17A phan ddaeth efe gartref oddiwrth y dyrfa, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo y ddammeg.

18Ac efe a ddywed wrthynt, Felly a ydych chwithau hefyd yn ddiddeall? Oni chanfyddwch, am bob peth oddiallan a êl i mewn i'r dyn, na all ei halogi ef;

19oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol, ac yn myned allan i'r geudy? Hyn a ddywedodd efe gan buro yr holl fwydydd.

20Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o'r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn.

21Canys oddifewn, allan o galon dynion, y daw allan feddyliau sydd ddrwg, megys puteindra,

22lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg‐lygad, athrod, balchder, ynfydrwydd.

23Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod allan oddifewn, ac yn halogi y dyn.

Iachâd merch y wraig o Syrophenicia[Mat 15:21–28]

24Ac efe a gyfododd oddiyno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.

26A Groeges oedd y wraig, Syro‐pheniciad o genedl; a hi a atolygodd iddo fwrw y cythraul allan o'i merch.

27Ac efe a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni, canys nid da cymmeryd bara y plant, a'i daflu i'r cwn bychain.

28Hithau a atebodd, ac a ddywed wrtho, Gwir, O Arglwydd, y mae hyd y nod y cwn bychain dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant bychain.

29Ac efe a ddywedodd wrthi, O herwydd yr ymadrodd hwn, dos ymaith: y mae y cythraul wedi myned allan o'th ferch.

30Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd y plentyn bychan wedi ei gosod ar y gwely, a'r cythraul wedi myned allan.

Iachâd yr hwn oedd fyddar ac atal llefaru arno[Mat 15:29–31]

31Ac efe a aeth drachefn allan o gyffiniau Tyrus, ac a ddaeth trwy Sidon i Fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decâpolis.

32Ac y maent yn dwyn ato un byddar, a diffygiol yn ei leferydd, ac y maent yn ymbil arno i osod ei law arno ef.

33Ac efe a'i cymmerodd ef ymaith oddiwrth y dyrfa o'r neilldu, ac a roddodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac efe a boerodd, ac a gyffyrddodd â'i dafod ef.

34A chan edrych tua'r Nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywed wrtho, Ephphatha, hyny yw, Ymagor.

35A'i glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd, ac efe a lefarodd yn hyglyw.

36Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb; ond po fwyaf y gorchymynodd efe iddynt, mwyaf i gyd o lawer y cyhoeddasant hwy eu hunain y peth.

37A hwy a darawyd â syndod enfawr, gan ddywedyd, Y mae efe wedi gwneyd pob peth yn dda: y mae efe yn gwneuthur hyd y nod i'r byddariaid glywed, a mudaniaid lefaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help