1Bydded pob enaid yn ddarostyngedig i awdurdodau sydd drostynt; canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw, a'r rhai sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.
2O ganlyniad, yr hwn sydd yn ymrestru yn erbyn yr awdurdod, y mae yn gwrthsefyll ordinhad Duw; a'r rhai a wrthsafant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.
3Canys nid yw y llywodraethwyr yn ddychryn i'r gwaith da ond i'r gwaith drwg. A ewyllysi di beidio ofni yr awdurdod? gwna y da, a thi a gei glod ganddo:
4canys gweinidog Duw yw efe i ti er daioni; ond os gwnei y drwg, ofna, canys ni wisg efe y cleddyf yn ofer; oblegyd gweinidog Duw yw efe, a dialydd er llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.
5Gan hynny, angenrhaid yw ymostwng, nid yn unig o herwydd y llid, ond hefyd o herwydd cydwybod.
6Canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd; canys gwasanaethwyr Duw ydynt, gan dalu sylw dyfal i'r peth hwn.
7Telwch i bawb eu dyledion; teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; treth, i'r hwn y mae treth; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch.
Cariad ac ymarferiad Cristionogol.8Na fyddwch mewn dyled i neb o ddim ond o garu bawb eich gilydd; ond yr hwn sydd yn caru arall sydd wedi cyflawni y ddeddf;
9canys hyn: Na odineba, Na ladd, Na ladratta,, Na thrachwanta; ac os oes orchymyn arall, cynnwysir ef yn gryno yn y gair hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.
10Cariad ni weithreda ddrwg i'w gymmydog; gan hynny cyflawnder deddf yw cariad.
11A hyn: gan wybod yr amser ei bod eisoes yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yr awrhon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.
12Y nos a gerddodd ym mhell, ac y mae y dydd wedi agoshau; am hynny bwriwn ymaith oddiwrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y goleuni.
13Rhodiwn yn weddus megys yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cyd‐orwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen;
14eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch rag‐ddarbod dros y cnawd, gyda golwg ar ei chwantau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.