1Felly cyfrifed dyn nyni megys gweinidogion Crist, a goruchwylwyr dirgeledigaethau Duw.
2A hyn felly, ym mhellach, y mae yn ofynol mewn goruchwylwyr gael un yn ffyddlawn.
3Eithr i mi y mae o'r pwys lleiaf i gael fy ngosod ar brawf gennych chwi neu gan lys dynol; na, nid wyf yn gosod fy hun ar brawf.
4Canys nid wyf yn ymwybodol o ddim yn erbyn fy hun; etto, nid trwy hyn yr wyf wedi fy nghyfiawnhâu; eithr yr hwn sydd yn fy mhrofi i yw yr Arglwydd.
5Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a ddwg i'r goleu bethau dirgel y tywyllwch, ac a wna yn amlwg fwriadau y calonnau; ac yna y bydd i bob un ei glod oddiwrth Dduw.
Y gwahaniaeth rhwng y Corinthiaid hunan‐foddog a'r Apostolion isel‐frydig.6Yn awr y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais trwy ddull ffugyrol attaf fy hun ac Apollos, er eich mwyn chwi, fel ynom ni y dysgoch beidio myned tuhwnt y pethau a ysgrifennwyd, fel na byddo un o honoch yn ymchwyddo ar ran y naill yn erbyn y llall.
7Canys pwy sydd yn peri gwahaniaeth rhyngot ti ac eraill? a pha beth sydd gennyt ar nas derbyniaist? ond, yn wir, os derbyn wnaethost, paham yr wyt yn ymffrostio megys pe buasit heb dderbyn?
8Eisoes yr ydych chwi wedi eich gor‐ddigoni, eisoes yr ymgyfoethogasoch, ar wahân â ni chwi aethoch yn frenhinoedd. Ac o na baech yn wir yn frenhinoedd fel y caem ninnau hefyd fod yn frenhinoedd gyda chwi.
9Canys yr wyf yn tybied fod Duw yn ein harddangos ni yr Apostolion yn gyhoeddus yn olaf, fel rhai wedi eu dedfrydu i farwolaeth: oblegyd nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion ac hefyd i ddynion.
10Yr ydym ni yn ffyliaid Crist, ond yr ydych chwi yn ddoethion yng Nghrist; yr ydym ni yn weiniaid, ond yr ydych chwi yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygedig;
11hyd y nod yr awr hon yr ydym mewn newyn a syched, ac yn fyr o ddillad, ac yn cael ein dyrnodio, ac heb drigle sefydlog gennym;
12ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylaw ein hunain; pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn dyoddef yn amyneddgar;
13pan y'n enllibir, yr ydym yn ymbilio; fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni a sorod pob dim hyd yn awr.
Cynghorion a rhybuddion tadol.14Nid gan eich cywilyddio yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn; eithr eich cynghori yr wyf fel fy mhlant anwyl.
15Canys pe byddai i chwi ddeng mil o warchodwyr yng Nghrist, etto nid oes i chwi nemawr o dadau; canys yng Nghrist Iesu trwy yr efengyl y cenhedlais i chwi.
16Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi, byddwch efelychwyr i mi.
17O herwydd hyn yr anfonais Timotheus attoch, yr hwn yw fy mhlentyn anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, hyd y nod fel ag yr wyf yn dysgu ym mhob man ym mhob eglwys.
18Yn awr, y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i yn dyfod attoch chwi;
19eithr mi a ddeuaf attoch yn fuan, os yr Arglwydd a'i myn; a deuaf i wybod, nid ymadrodd y rhai chwyddedig, ond eu gallu.
20Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.
21Beth a fynnwch chwi, ai dyfod o honof attoch chwi â gwialen, ynte mewn cariad, ac yspryd addfwynder?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.