1A gwelais angel cryf arall yn disgyn o'r nef, wedi ei wisgo â chwmwl, a'r enfys oedd uwch ei ben, a'i wyneb fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân;
2a chanddo yn ei law lyfryn bychan wedi ei agor. Ac efe a osododd ei droed ddehau ar y môr, a'r aswy ar y tir;
3ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew; a phan lefodd, y saith daran a roddasant allan eu llefau eu hunain.
4A phan lefarodd y saith daran, yr oeddwn ar ysgrifennu, a chlywais lais o'r nef yn dywedyd, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
5A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir a gododd ei law ddehau i'r nef,
6ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear, a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, Ni fydd oediad mwyach;
7eithr yn nyddiau llef y seithfed angel pan mae efe ar fedr udganu, y gorphennir hefyd ddirgelwch Duw, fel yr efengylodd efe i'w weision ei hun, y prophwydi.
Bwyta y Llyfryn bychan.8A'r llef yr hon a glywais o'r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymer y Llyfr bychan sydd yn agored yn llaw yr angel sydd yn sefyll ar y môr ac ar y tir.
9Ac aethum ymaith at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y Llyfryn bychan. A dywed wrthyf, Cymer a bwyta ef; ac efe a chwerwa dy fòl di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mêl.
10A chymerais y Llyfryn bychan o law yr angel, a bwytëais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megys mêl yn felus; a phan fwytëais ef, chwerwyd fy mòl.
11Ac y maent yn dywedyd wrthyf, Rhaid i ti brophwydo eto mewn perthynas i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.