Marc 10 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ynghylch ysgar[Mat 19:3–12]

1Ac efe a gyfododd oddi yno, ac y mae yn dyfod i gyffiniau Judea, a thu hwnt i'r Iorddonen; a thrachefn tyrfaoedd a gyd‐gyrchant ato; ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt.

2A Phariseaid a ddaethant ato ac a ofynasant iddo, A ydyw gyfreithlawn i wr roddi ymaith ei wraig?, gan ei demtio ef.

3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi?

4A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifenu ysgrifdyst ysgar, a'i gollwng hi ymaith.

5Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, I gwrdd a'ch calon‐galedwch yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwn:

6Ond o ddechreuad y Greadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth efe hwynt.

7O achos hyn y gâd dyn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;

8a hwy ill dau a fyddant un cnawd; fel nad ydynt mwyach ddau, ond un cnawd.

9Y peth gan hyny a gyd‐ieuodd Duw, na wahaned dyn.

10Ac yn y tŷ drachefn ei Ddysgyblion a ofynasant iddo ynghylch hyn.

11Ac efe a ddywed wrthynt, Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12Ac os hithau a ollyngo ymaith ei gwr, ac a briodo arall, y mae yn godinebu.

Crist yn bendithio plant bychain[Mat 19:13–15; Luc 18:15–17]

13A hwy a ddygasant ato blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt: ond y Dysgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn.

14Ond pan welodd yr Iesu, bu ddigllawn ganddo, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gadêwch y plant bychain ddyfod ataf fi: na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw yw Teyrnas Dduw.

15Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid a efe o gwbl i mewn iddi.

16A chan eu cofleidio a'u bendithiodd gyd â hoffder, gan osod ei ddwylaw arnynt.

Y gwr ieuanc cyfoethog a bywyd tragywyddol[Mat 19:16–22; Luc 18:18–23]

17Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, ac a syrthiodd ar ei liniau o'i flaen, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?

18A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

19Ti a wyddost y gorchymynion, —

Na ladd,

Na odineba,

Na ladrata,

Na cham‐dystiolaetha,

Na cham‐golleda,

Anrhydedda dy dâd a'th fam.

20Ac efe a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn oll mi a gedwais yn ddyfal o'm hieuengctyd.

21A'r Iesu, gan edrych arno yn ddifrifol, a'i carodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti; dos, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i dlodion, a thi a gai drysor yn y Nef: a thyred, canlyn fi.

22A'i wedd a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd ganddo feddianau lawer.

Perygl y goludog[Mat 19:23–26; Luc 18:24–27]

23A'r Iesu a edrychodd o amgylch, ac a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Mor anhawdd yr a y rhai y mae golud ganddynt i Deyrnas Dduw!

24Ond y Dysgyblion a lanwyd â syndod wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywed wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned i mewn i Deyrnas Dduw.

25Y mae yn hawddach i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw.

26A hwy a darawyd â syndod dirfawr, gan ddywedyd wrtho ef, A phwy a all fod yn gadwedig?

27A'r Iesu, gan edrych yn ddifrifol arnynt, a ddywed, Gyd â dynion y mae yn anmhosibl, ond nid gyd â Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw.

Colled ac enill[Mat 19:27–30; Luc 18:28–30]

28Dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni ydym wedi gadael pob peth, a'th ganlyn di.

29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i ti, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dâd,, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn yr Efengyl,

30a'r ni dderbyn càn cymmaint yn awr y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd sydd yn dyfod fywyd tragywyddol.

31Ond llawer sydd gyntaf fyddant ddiweddaf, a'r diweddaf, gyntaf.

Y trydydd rhag‐ddywediad o'i Farwolaeth a'i Adgyfodiad[Mat 20:17–19; Luc 18:31–34]

32Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerusalem; a'r Iesu oedd yn myned o'u blaen hwynt: a bu ryfedd ganddynt; a'r rhai a ganlynasant a ofnasant. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd ato y Deuddeg, efe a ddechreuodd ddywedyd iddynt y pethau oeddynt ar ddygwydd iddo ef:

33Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem; a Mab y Dyn a draddodir i'r Arch‐offeiriaid, ac i'r Ysgrifenyddion; a hwy a'i coll‐farnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant i'r Cenedloedd.

34A hwy a'i gwatwarant ef, ac a boerant arno, ac a'i fflangellant, ac a'i lladdant, ac wedi tridiau, efe a adgyfyd.

Yr hyn yw penogaeth Gristionogol[Mat 20:20–28; Luc 22:24–27]

35Ac y mae yn dyfod ato Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd wrtho, Athraw, ni a fynem i ti wneuthur i ni pa beth bynag a ofynem i ti.

36Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a fynech i mi ei wneuthur i chwi?

37A hwy a ddywedasant wrtho, Dyro i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, ac un ar dy aswy, yn dy Ogoniant.

38A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei geisio. A ellwch chwi yfed y cwpan a yfwyf fi, neu eich bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef?

39A hwy a ddywedant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Chwi a yfwch y cwpan â yfwyf fi, neu, fe'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finau;

40ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid eiddof fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu.

41A phan glybu y Deg, hwy a ddechreuasant deimlo yn ddigllawn tu ag at Iago ac Ioan.

42A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywed wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a gyfrifir eu bod yn llywodraethu ar y Cenedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; ac y mae eu Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt:

43ond nid felly y mae yn eich plith chwi; ond pwy bynag a ewyllysio ddyfod yn fawr yn eich plith, a fydd yn was i chwi;

44a phwy bynag a ewyllysio fod y blaenaf o honoch, efe a fydd yn rwymedig-was i bawb.

45Canys ni ddaeth hyd y nod Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth yn lle, mab Timëus, Bartimëus, cardotyn dall, a eisteddai ar ymyl y ffordd.

47A phan glybu, Iesu o Nazareth ydyw, efe a ddechreuodd waeddi a dywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.

48A llawer a'i ceryddasant ef, fel y tawai: ond efe a waeddodd yn fwy o lawer, O Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.

49A'r Iesu a safodd, ac a ddywedodd, Gelwch ef. Ac y maent yn galw y dall, ac yn dywedyd wrtho, Cymmer galon: cyfod: y mae efe yn dy alw di.

50Ac efe wedi taflu ymaith ei gochl, a neidiodd i fyny, ac a ddaeth at yr Iesu.

51A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fyni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Rabboni, cael fy ngolwg.

52A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy iachâu. Ac yn ebrwydd efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef ar hyd y ffordd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help