1Judas, gwasanaethwr Iesu Grist a brawd Iago, at y rhai a alwyd, rhai anwyl yn Nuw Dâd, ac a gedwir i Iesu Grist:
2Trugaredd i chwi a thangnefedd a chariad a amlhâer.
Anogaeth i amddiffyn y gwirionedd.3Anwyliaid, pan yn meddu pob eiddgarwch i ysgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, angenrhaid oedd i mi ysgrifennu atoch, gan eich annog i ymdrechu yn egniol dros y Ffydd a draddodwyd unwaith am byth i'r Saint.
4Canys rhai dynion a ymlusgasant i mewn yn llechwraidd — y rhai yr ysgrifennwyd i lawr eu henwau ymlaen llaw er ys talm i'r farnedigaeth hon, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu ein hunig Feistr a'n Harglwydd, Iesu Grist.
Esiamplau o gospedigaeth o herwydd anufudd‐dod.5Ac yr wyf yn ewyllysio eich coffâu chwi, a chwi yn gwybod pob peth yn hollol, i'r Arglwydd, wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aipht, ddistrywio ar ol hynny y rhai ni chredasant.
6Ac angelion, y rhai ni chadwasant ei safle ddechreuol, eithr a adawsant eu trigfa ei hun, a gadwodd efe mewn rhwymau tragwyddol, dan dywyllwch, i Farn y Dydd Mawr —
7fel y mae Sodom a Gomorrah, a'r Dinasoedd o'u hamgylch, wedi ymroddi i buteindra mewn cyffelyb fodd i'r rhai hyn, a myned ar ol cnawd dyeithr, wedi eu gosod allan fel esiampl, gan ddyoddef dialedd tân tragwyddol.
8Eto yr un ffunnud y mae y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, yn halogi y cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu urddasolion.
Trahausder y gau‐athrawon.9Eithr Michael yr Archangel, pan yn dadleu â'r Diafol, a ymresymai âg ef ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn cabledd, ond dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
10Eithr y rhai hyn a gablant pa bethau bynnag nis gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn eu deall yn reddfol, fel y creaduriaid direswm, yn y rhai yr ymlygrant.
11Gwae hwynt‐hwy! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac yng nghyfeiliornad Balaam er gwobr y rhuthrasant, ac a'u dyfethwyd yng ngwrth-ddywediad Corah.
12Y rhai hyn sydd frychau yn eich Cariad‐wleddoedd, yn cyd‐wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesgi eu hunain; cymylau diddwfr, yn cael eu cludo ymlaen gan wyntoedd; prennau hydrefol heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;
13gwyllt‐donnau y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i'r rhai y mae duwch y tywyllwch wedi ei gadw yn dragywydd.
Rhag‐ddywediad Enoch.14Ac i'r rhai hyn hefyd y prophwydodd Enoch, y seithfed o Adda, gan ddywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda'i fyrddiynau sanctaidd,
15i wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol o holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, o'r holl bethau celyd, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16Y rhai sydd rwgnachwyr; yn cerdded yn ol eu chwantau (ac y mae eu genau yn llefaru geiriau gor‐chwyddedig), yn mawrygu wynebau er mwyn budd.
Geiriau yr Apostolion a dyledswydd y Darllenwr.17Eithr chwi, anwyliaid, cofiwch y geiriau a rag‐ddywedwyd gan Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist,
18ddywedyd o honynt i chwi: Yn yr amser diweddaf bydd gwatwarwyr yn cerdded yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain.
19Hwy yw y rhai sydd yn achosi ymraniadau, yn gnawdolfrydig, heb fod yr Yspryd ganddynt.
20Eithr chwychwi, anwyliaid, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, gan weddio yn yr Yspryd Glân,
21ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
22A rhai argyhoeddwch pan y maent yn ymddadleu;
23a rhai achubwch, gan eu cipio hwy allan o'r tân; ac wrth rai trugarhêwch, mewn ofn, gan gasâu hyd yn nod y wisg a halogwyd gan y cnawd.
Molawd.24Yn awr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi heb dripio, a'ch gosod ger bron ei Ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,
25i'r Unig Dduw ein Hiachawdwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y mae gogoniant, mawredd, nerth, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yn awr, ac i'r holl oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.