1 Ioan 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cariad rhyfeddol Duw yn sylfaen gobaith.

1Gwelwch y fath gariad a roddodd y Tâd i ni, fel y'n gelwir yn blant Duw: a'r cyfryw ydym. O achos hyn, nid edwyn y byd ni, gan nad adnabu ef.

2Anwyliaid, yn awr plant Duw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: gwyddom, ped amlyger, y byddwn gyffelyb iddo ef, oblegyd ni a'i gwelwn ef fel y mae.

3A phob un sydd ganddo y gobaith hwn ynddo ef sydd yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur.

Rhwymedigaeth ein hurddas fel plant Duw.

4Pob un ar sydd yn gwneuthur pechod sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith; ac anghyfraith yw pechod.

5A chwi a wyddoch iddo ef gael ei amlygu i gymeryd ymaith bechodau, ac ynddo ef nid oes pechod.

6Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; pob un sydd yn pechu, nid yw wedi ei weled ef, nac ychwaith wedi ei adnabod ef.

7Blant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn, fel y mae efe yn gyfiawn.

8Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o Ddiafol y mae; canys y mae y Diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y Diafol.

9Pob un sydd wedi ei genhedlu o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod, canys ei hâd ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all efe bechu, am ei genhedlu ef o Dduw.

10Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant y Diafol: Pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, a'r hwn nad yw yn caru ei frawd.

11Oblegyd hon yw y genadwri a glywsoch o'r dechreuad, garu o honom ein gilydd.

12Nid fel yr oedd Cain o'r Un Drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oherwydd bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn gyfiawn.

Cariad a Chasineb: Bywyd a Marwolaeth.

13Na ryfeddwch, frodyr, os yw y byd yn eich casâu chwi.

14Nyni a wyddom fyned drosodd o honom allan o farwolaeth i fywyd oblegyd ein bod yn caru y brodyr. Yr hwn nid yw yn caru, y mae yn aros mewn marwolaeth.

15Pob un a'r sydd yn casâu ei frawd, llofrudd ydyw, a chwi a wyddoch nad oes gan un llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16Yn hyn yr ydym yn adnabod cariad, am ddodi o hono ef ei einioes drosom ni, a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.

17Eithr pwy bynnag sydd ganddo dda y byd, ac a sylwo ar ei frawd mewn eisieu, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

18Blant bychain, na charwn ar air, nac â'r tafod; eithr mewn gweithred a gwirionedd.

19Yn hyn y gwybyddwn ein bod o'r gwirionedd, ac y darbwyllwn ein calon ger ei fron ef,

20ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni; canys y mae Duw yn fwy na'n calon ac yn gwybod pob peth.

21Anwyliaid, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyfder tu ag at Dduw.

22A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegyd ein bod yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.

23A hwn yw ei orchymyn ef: Gredu o honom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megys y rhoddes efe orchymyn i ni.

24A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau, ac yn hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, trwy yr Yspryd a roddodd efe i ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help