1Am hynny, fy mrodyr anwyl am y rhai yr hiraethaf, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwyliaid.
2Yr wyf yn cynghori Euodia ac yn cynghori Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd.
3Ië, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, cymmorth y gwragedd hyn, yn gyfryw ag a gyd‐ymdrechasant gyda mi yn yr efengyl, ynghyd a Chlement hefyd a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn Llyfr y Bywyd.
Amryw gynghorion.4Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol: drachefn dywedaf, Llawenychwch.
5Bydded eich goddefgarwch yn hyspys i bob dyn — y mae yr Arglwydd yn agos.
6Na phryderwch am ddim, eithr ym mhob peth, trwy weddi ac ymbil gyda diolch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys gerbron Duw;
7a thangnefedd Duw yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a warchod eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd anrhydeddus, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd o rasol‐ymadrodd, od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.
9A'r pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi.
Yr ol‐ysgrifen o ddiolchgarwch.10Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd o'r diwedd i chwi adnewyddu eich dyddordeb ynof fi, am yr hyn y meddyliasoch, ond ni chawsoch gyfle.
11Nid am fy mod yn llefaru o herwydd eisieu, canys mi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag yr wyf, fod yn foddlawn.
12Mi a wn pa beth yw bod yn isel, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ym mhob un peth ac yn yr oll yr wyf wedi fy egwyddori i fod yn llawn ac i fod yn newynog; i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.
13Yr wyf yn gallu pob peth yn yr hwn sydd yn fy nerthu.
14Er hynny chwi a wnaethoch yn dda drwy gyd‐gyfrannogi o'm gorthrymder.
15A gwyddoch chwi eich hunain hefyd, O Philippiaid, yn nechreuad yr efengyl, pan aethum allan o Macedonia, na fu un eglwys gyd‐gyfrannog â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig;
16canys hyd y nod yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, danfonasoch i mi ar gyfer fy angenrhaid.
17Nid am fy mod yn ciesio, y rhodd, eithr yr wyf yn ceisio y ffrwyth sydd yn amlhau i'ch cyfrif chwi.
18Y mae gennyf ddigon o bob peth, a mwy na digon; yr wyf wedi fy llanw, wedi derbyn gan Epaphroditus y rhoddion oddiwrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.
19A'm Duw i a leinw bob anghenrhaid o'ch eiddo, yn ol ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu.
20Ac i'n Duw a'n Tâd y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21Annerchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae y brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.
22Y mae yr holl saint yn eich annerch, yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar.
23Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda eich yspryd chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.