Hebreaid 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Rhagoriaeth Melchisedec ar Abraham.

1Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu âg Abraham yn dychwelyd o ddymchweliad y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef;

2i'r hwn hefyd y rhannodd Abraham ddegwm o'r cwbl: Yr hwn yn gyntaf o'i ddeongli, yw Brenin Cyfiawnder, ac yna hefyd Brenin Salem, yr hyn yw Brenin Heddwch;

3heb dâd, heb fam, heb achyddiaeth, heb fod ganddo na dechreu dyddiau na diwedd einioes, eithr wedi ei gyffelybu i Fab Duw, efe a erys yn offeiriad i fythol barhad.

4Ystyriwch pa mor fawr oedd hwn, i'r hwn y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm allan o'r goreuon o'r ysbail.

5Ac yn wir y rhai sydd o feibion Lefi yn derbyn yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i ddegymu y bobl yn ol y Gyfraith, hynny yw, eu brodyr eu hunain, er eu bod wedi dyfod allan o lwynau Abraham.

6Eithr yr hwn nid oedd ei achyddiaeth o honynt hwy a ddegymodd Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.

7Ac yn ddiddadl hollol y llai a fendithir gan y gwell.

8Ac yma dynion a'r sydd yn marw sydd yn derbyn degymau, ond yno, tystiolaethir iddo ei fod yn fyw.

9Ac, fel y gellir dywedyd, trwy Abraham Lefi hefyd, yr hwn sydd yn derbyn degymau, sydd wedi ei ddegymu;

10oblegyd yr oedd efe eto yn lwynau ei dâd, pan gyfarfu Melchisedec âg ef.

Rhagoriaeth Crist ar urdd Aaron.

11Os oedd, gan hynny, berffeithiad trwy yr offeiriadaeth Lefiticaidd (canys ar ei sail hi y derbyniodd y bobl y Gyfraith), pa raid mwyach oedd i offeiriad gwahanol gyfodi yn ol urdd Melchisedec, ac nid i'w alw yn ol urdd Aaron?

12Canys pan newidir yr offeiriadaeth, o angenrheidrwydd, y mae cyfnewidiad Cyfraith yn bod hefyd.

13Canys efe am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth gwahanol y perthynai, o'r hwn nid oes neb wedi gweini wrth yr allor.

14Canys tra‐amlwg ydyw mai o Juda y mae ein Harglwydd ni wedi cyfodi, am yr hwn lwyth ni lefarodd Moses ddim gyda golwg ar offeiriaid.

15Ac y mae hyn yn eglurach o lawer eto, os oes yn ol cyffelybiaeth Melchisedec offeiriad gwahanol yn cyfodi,

16yr hwn sydd wedi ei wneuthur felly

, nid yn ol Cyfraith gorchymyn cnawdol, ond yn ol gallu bywyd anatodol;

17canys tystiolaethir am dano,

Ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ol urdd Melchisedec.

18Canys yn wir y mae ar un llaw ddiddymiad i orchymyn rhagfynedol o herwydd ei wendid a'i afles

19(oblegyd ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim), ac ar y llaw arall, dygiad i mewn ar hynny obaith gwell, trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.

20A chan belled ag nad ydyw heb lw (canys hwynt‐hwy yn wir ydynt wedi dyfod yn arch‐offeiriaid heb lw,

21ond hwn gyda llw, trwy yr hwn sydd yn dywedyd wrtho,

Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo,

Tydi wyt offeiriad yn dragywydd):

22mor bell a hynny hefyd y daeth Iesu yn Fachnïydd cyfamod gwell.

23A hwynt‐hwy yn wir a ddaethant yn offeiriaid aml eu rhif, o herwydd lluddias iddynt trwy farwolaeth aros ymlaen;

24ond efe gan ei fod yn aros yn dragywydd, y mae ganddo yr offeiriadaeth yn anhoradwy.

25Am hynny hefyd y mae efe yn gallu achub yn gwbl hollol y rhai sydd yn dyfod trwyddo ef at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt.

Crist yn Arch‐offeiriad am byth.

26Canys y fath Arch‐offeiriad a weddai i ninnau, sanctaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddiddoli oddiwrth y pechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd;

27yr hwn ni raid iddo o ddydd i ddydd, fel yr Arch‐offeiriaid, offrymu aberthau, yn gyntaf am ei bechodau ei hun, yna dros bechodau y bobl; canys hyn a wnaeth efe unwaith am byth pan offrymodd ei hun.

28Canys y mae y Gyfraith yn penodi dynion yn Arch‐offeiriaid a chanddynt wendid, ond y mae gair y llw, yr hwn sydd wedi'r Gyfraith, yn penodi y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help