Dadguddiad Ioan 8 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Udgyrn.

1A phan agorodd efe y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef megys am hanner awr.

2A gwelais y saith angel, y rhai sydd yn sefyll ger bron Duw; a rhoddwyd iddynt saith udgorn.

3Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur; a rhoddwyd iddo arogl‐darth lawer, fel y rhoddai ef at weddïau yr holl saint ar yr allor aur ger bron yr Orsedd.

4A mwg yr arogl‐darth gyda gweddiau y saint a esgynnodd o law yr angel i fyny ger bron Duw.

5A chymerodd yr angel y thuser, ac efe a'i llanwodd hi â thân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaear: a bu taranau, a lleisiau, a mellt, a daear‐gryn.

6A'r saith angel y rhai oedd a'r saith udgorn ganddynt, a ymbarotoisant i udganu.

Yr Udgorn Cyntaf.

7A'r Cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thrydedd ran y ddaear a lwyr‐losgwyd, a thrydedd ran y coed a lwyr‐losgwyd, a'r holl laswellt a lwyr‐losgwyd.

Yr Ail Udgorn.

8A'r ail angel a udganodd, ac fel mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr:

9ac aeth trydedd ran y môr yn waed; a bu farw trydedd ran y creaduriaid y rhai sydd yn y môr, sef y rhai a chanddynt fywyd; a thrydedd ran o'r llongau a ddinystriwyd.

Y Trydydd Udgorn.

10A'r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl, a hi a syrthiodd ar drydedd ran yr afonydd ac ar ffynhonnau y dyfroedd;

11ac enw y seren a elwir Wermod, a thrydedd ran y dyfroedd a aeth yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegyd eu myned yn chwerwon.

Y Pedwerydd Udgorn.

12A'r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd trydedd ran yr haul, a thrydedd ran y lleuad, a thrydedd ran y sêr, fel y tywyllid eu trydedd ran hwynt, ac na thywynnai y dydd am ei drydedd ran, a'r nos yr un ffunud.

13A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill udgyrn y tri angel, y rhai sydd eto i udganu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help