Luc 12 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Lefain y Phariseaid[Mat 10:19, 20, 26–33]

1Yn y cyfamser, pan yr ymgasglodd y dyrfa yn ddegau o filoedd ynghyd, hyd oni sathrent eu gilydd, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y Dysgyblion yn gyntaf oll, Gwyliwch arnoch rhag lefain y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.

2Ond nid oes dim wedi ei orchuddio i fyny, a'r nis dad‐orchuddir, a dim dirgel, a'r nis gwybyddir.

3O herwydd paham, pa bethau bynag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleuni: a'r hyn a lefarasoch i'r glust mewn celloedd heb ganddynt ddim yn mhellach i'w wneuthur.

5Ond mi a ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn, wedi y lladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i Gehenna? Ac nid oes un o honynt wedi cael ei anghofio gerbron Duw.

7Ond y mae hyd y nod wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif oll. Nac ofnwch, yr ydych chwi yn rhagorach na llawer o adar y tô i gerbron dynion, Mab y Dyn hefyd a'i cyffesa yntau ger bron Angelion Duw.

9Ond yr hwn a'm gwado i ger bron dynion, a lwyr‐wedir ger bron Angelion Duw.

10A phob un a ddywedo air mewn perthynas i Fab y Dyn, fe a faddeuir iddo: ond i'r hwn a gablo mewn perthynas i'r Yspryd Glân, ni faddeuir.

11A phan y'ch dygant chwi i mewn o flaen y Synagogau, a'r Llywodraethau, a'r Awdurdodau, na fyddwch bryderus am ba fodd neu ba beth i amddiffyn neu yn Rhanwr arnoch chwi?

15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant: canys nid yw bywyd neb yn gynwysedig yn helaethrwydd y meddianau sydd ganddo.

16Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.

17Ac efe a ymresymodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?

18Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casglaf ynghyd fy holl yd a'm da.

19A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw ar gyfer blynyddoedd lawer; gorphwys, bwyta, ŷf, mwynhâ dy hun.

20Ond Duw a ddywedodd wrtho, O'r un anystyriol! y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt: a'r pethau a barotoaist, i bwy y byddant?

21Felly yw yr hwn a drysora iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.

Gwers y gigfrân a'r lili[Mat 6:25–34]

22Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, O herwydd hyn meddaf i chwi, na fyddwch bryderus am y bywyd, beth a fwytâoch, nac am y corff, beth a wisgoch.

23Canys y mae y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r wisg.

24Ystyriwch y cigfrain, nad ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: pa faint mwy yr ydych chwi yn rhagori ar yr ehediaid?

25A phwy o honoch wrth fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu: ond meddaf i chwi, hyd y nod Solomon yn ei holl ogoniant ni amwisgwyd fel un o'r rhai hyn.

28Ac os felly y mae Duw yn dilladu y glaswellt, y rhai sydd heddyw mewn maes, ac yfory yn cael eu taflu i ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O chwi o ychydig ffydd?

29A chwychwi, na cheisiwch beth a fwytâoch, a pha beth a yfoch, ac na fyddwch mewn amheuaeth bryderus.

30Canys y pethau hyn oll y mae cenedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tâd chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn.

31Yn mhellach, ceisiwch ei Deyrnas ef, a'r peth hyn a ychwanegir i chwi.

32Nac ofna, y praidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tâd roddi i chwi y Deyrnas.

Y ddyledswydd o elusengarwch[Mat 6:19–21]

33Gwerthwch eich meddianau hyny, y rhai a gaiff yr Arglwydd pan ddêl yn gwylio rhai hyny.

39A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai meistr y tŷ pa awr y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai yn ddyfal, ac ni adawsai iddo gloddio trwy ei dŷ ef.

40A chwithau,, byddwch barod; canys mewn awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod, Arglwydd, Ai wrthym ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ai hefyd wrth bawb?

42A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yn wir yw y goruchwyliwr ffyddlawn, synwyrol, i roddi mewn pryd eu cyfran o fwyd?

43Gwyn fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd pan ddêl yn gwneuthur felly.

44Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, efe a'i gesyd ef dros ei holl eiddo.

45Ond os dywed y gwas hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod, a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwyta, ac yfed, a meddwi;

46daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd nad yw efe yn dysgwyl, ac mewn awr nad yw efe yn gwybod; ac efe a'i fflangella yn erwin; ac a esyd ei gyfran gyd â'r anffyddloniaid.

47A'r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarotôdd, ac ni wnaeth yn unol â'i ewyllys, a gurir â llawer curiad.

48Eithr yr hwn ni wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu curiadau, a gurir âg ychydig. Ac i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a geisir oddi wrtho: ac i'r hwn yr ymddiriedasant lawer, mwy a ofynant oddi wrtho.

Tori Cysylltiadau bywyd er sancteiddrwydd buchedd[Mat 10:34–36]

49Mi a ddaethum i fwrw tân ar y ddaear: a pha beth a ewyllysiaf? O na fyddai wedi ei gyneu eisioes!

50Y mae genyf Fedydd â'r hwn y'm bedyddir: ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener!

51A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch ar y ddaear? Naddo, meddaf i chwi, ddim arall ond ymraniad yr erbyn dau, a dau yn erbyn tri a ymranant;

53Tâd yn erbyn mab, a mab yn erbyn tâd;

Mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn y fam;

Chwegr yn erbyn ei gwaudd, a gwaudd yn erbyn y chwegr.

Arwyddion yr amserau[Mat 5:25, 26]

54Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmwl yn cyfodi o'r Gorllewin, yn ebrwydd chwi a ddywedwch, Y mae gwlaw trwm yn dyfod: ac felly y mae.

55A phan fo y Deheu‐wynt yn chwythu, chwi a ddywedwch. Poeth‐wynt a fydd: ac y mae.

56Ragrithwyr, chwi a, wyddoch pa fodd i wneuthur prawf o wyneb‐pryd y ddaear a'r wybr: ond y tymhor hwn, pa fodd na wyddoch sut i wneuthur prawf o hono?

57A phaham nad ydych hyd y nod o honoch eich hunain yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?

58Canys tra fyddi yn myned gyd â'th wrthwynebwr o flaen y llywodraethwr, ar y ffordd gwna dy oreu i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy lusgo at y Barnwr, a'r Barnwr a'th draddoda at y Dirwywr, a'r Dirwywr a'th dafla i garchar.

59Yr wyf yn dywedyd i ti, ni ddeui di mewn un modd allan oddi yno, hyd oni thelyt hyd y nod yr hatling olaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help