Actau 27 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Mordaith Paul i Rufain: cyrhaedd Creta, 1–12.

1A phan benderfynwyd i ni hwylio ymaith i'r Ital, traddodasant Paul a rhai carcharorion eraill i Ganwriad o'r enw Julius, o fintai Augustaidd.

2Ac wedi myned i long o Adramyttium, yr hon oedd ar fedr hwylio i leoedd ar lanau Asia, ni a aethom i'r môr, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica.

3A thranoeth ni a ddaethom i Sidon: a Julius a ymddygodd yn ddyngarol tu ag at Paul, ac a ganiataodd iddo i fyned at ei gyfeillion i gael o'u caredigrwydd.

4Ac wedi myned oddiyno, ni a hwyliasom dan Cyprus, o herwydd fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.

5Ac wedi i ni hwylio dros y môr ar lanau Cilicia a Pamphylia, daethom i Myra sydd yn Lycia.

6Ac yno y Canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.

7Ac wedi hwylio yn araf lawer o ddyddiau, a dyfod trwy anhawsder gyferbyn a Cnidus, am na adawai y gwynt i ni, ni a hwyliasom dan Creta gyferbyn a Salmone;

8ac wedi morio heibio iddi gydag anhawsder, daethom i ryw le a elwir Porthladdoedd Prydferth, i'r hwn yr oedd dinas Lasea yn agos.

9Ac wedi treulio llawer o amser, a'r fordaith eisoes yn beryglus, o herwydd fod yr Ympryd eisoes wedi myned heibio, Paul a gynghorodd,

10gan ddywedyd wrthynt, O wyr, yr wyf yn gweled y bydd y fordaith gyda rhyfyg a llawer o golled, nid yn unig o'r llwyth a'r llong, eithr o'n bywydau ni hefyd.

11Eithr y Canwriad a ddarbwyllwyd gan lywydd a pherchen y llong yn hytrach na chan y pethau a lefarwyd gan Paul.

12A chan fod y porthladd yn anghyfleus er gauafu, y mwyrif a roisant gynghor i forio oddiyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phœnix, i auafu yno, porthladd yn Creta sydd yn edrych tua'r gogledd‐ddwyrain a'r deheu‐ddwyrain.

Y Llong‐ddrylliad.

13A phan chwythodd y deheu‐wynt yn fwynaidd, a hwy yn tybied eu bod wedi enill eu hamcan, wedi codi, yr angor, moriasant yn mlaen yn agosach i Creta.

14Ond nid ar ol llawer o amser curodd i lawr oddiwrthi wynt tymhestlog yr hwn a elwir Euracwilo.

15A phan gipiwyd y llong, a hi heb allu i wrth‐wynebu y gwynt, ni a roisom i fyny, ac a yrwyd o'i flaen.

16Ac wedi rhedeg dan ryw ynys fechan a elwir Cauda, gydag anhawsder y buom alluog i sicrhau y bâd;

17ac wedi ei godi i fyny, hwy a ddefnyddiasant gynorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani; ac yn ofni y bwrid hwynt ar y Syrtis, hwy a ostyngasant y ger, ac felly a yrwyd yn mlaen.

18A ni yn cael ein blino yn enbyd gan y dymhestl, tranoeth hwy a ysgafnhasant y llong

;

19a'r trydydd dydd hwy a fwriasant allan â'u dwylaw eu hunain daclau y llong.

20A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am ddyddiau lawer, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnom, o hyny allan pob gobaith o'n cadw a ddygwyd ymaith.

21Ac wedi bod lawer o amser heb ymborth, yna y safodd Paul yn eu canol, ac a ddywedodd, O wyr, Yr oedd yn wir yn anghenrheidiol i chwi ufyddhâu i mi, a pheidio morio o Creta, ac felly osgoi y rhyfyg a'r golled hon.

22Ac yr awrhon yr wyf yn eich anog i fod yn galonog: canys ni fydd dim colled am einioes yn eich plith ond am y llong.

23Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel y Duw yr Hwn a'm pïau, a'r Hwn yr wyf yn ei wasanaethu,

24gan ddywedyd, Nac ofna, Paul: rhaid i ti sefyll ger bron Cesar: ac wele, y mae Duw wedi rhoddi i ti yr holl rai sydd yn hwylio gyda thi.

25Mewn canlyniad, O wyr, ymgalonogwch, canys yr wyf yn credu i Dduw mai felly y bydd yn ol y modd y dywedwyd i mi.

26Ac ar ryw ynys y mae yn rhaid ein bwrw allan.

27A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni yn cael ein gyru yma ac acw yn Adria, tua haner nos yr oedd y morwyr yn lled‐dybied eu bod yn neshâu at ryw wlad;

28ac wedi plymio hwy a'i cawsant yn ugain gwrhyd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bumtheg gwrhyd.

29A chan ofni rhag dygwydd i ni syrthio ar hyd lleoedd geirwon, hwy a fwriasant allan bedair angor o'r pen ol, ac yr oeddent yn dymuno ei myned hi yn ddydd.

30A'r llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i waered i'r môr, mewn rhith fel ar fedr estyn allan angorau o'r pen blaen,

31dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwyr, Oni erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.

32Yna y milwyr a dorasant ymaith raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.

33Ac hyd nes oedd y dydd ar fedr dyfod, yr oedd Paul yn anog pawb gyda'u gilydd i gyfranogi o luniaeth, gan ddywedyd, Hwn yw y pedwerydd diwrnod ar ddeg yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymeryd dim.

34Am hyny yr wyf yn eich anog i gyfranogi o luniaeth, canys hyn sydd er eich dyogelwch: canys blewyn o ben un o honoch ni chollir.

35Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a chymeryd bara, efe a ddiolchodd i Dduw yn eu gwydd hwynt oll, ac wedi ei dori efe a ddechreuodd fwyta.

36A hwy oll wedi dyfod yn galonog, hwy eu hunain hefyd a gymerasant luniaeth.

37Ac yr oeddem yn y llong, yr holl eneidiau, yn ddau cant ac un‐ar‐bumtheg a thri‐ugain.

38Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw allan y gwenith i'r môr.

39A phan aeth hi yn ddydd nid oeddent yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a thraeth iddi, i'r hon y cynghorasant, os gallent, wthio y llong.

40A chan fwrw ymaith yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y môr, gan ollwng ar yr un pryd rwymau y llywiau: A chan godi y flaenhwyl i'r awel, hwy a gyfeiriasant at y traeth.

41Ond wedi syrthio i le deufôr‐gyfarfod, hwy a redasant y llong i dir; a'r pen blaen a darawodd ac a arosodd yn ddiysgog, ond y pen ol a ymddatodai gan ruthr y tonau

.

42A chynllun y milwyr ydoedd lladd y carcharorion rhag i neb o honynt, trwy nofio allan, ddianc.

43Ond y Canwriad, yn dymuno cadw Paul, a'u rhwystrodd yn eu dymuniad; ac a archodd i bawb a fedrai nofio ymfwrw i'r môr, a myned yn gyntaf i'r tir;

44ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar bethau o'r llong. Ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddyogel i'r tir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help