Colossiaid 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Undeb â Christ.

1Am hynny, os cyd‐gyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist ar ddeheulaw Duw yn eistedd.

2Syniwch y pethau sydd uchod, nid y pethau sydd ar y ddaear.

3Canys buoch feirw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.

4Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna yr amlygir chwithau hefyd gydag ef mewn gogoniant.

Yr undeb hwn a sancteiddrwydd.

5Marweiddiwch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, drygchwant, a'r trachwant;

7yn y rhai y rhodiasoch chwithau hefyd gynt, pan oeddych yn byw yn y pethau hyn;

8ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd heibio yr holl bethau hyn, digder, llid, drygioni, enllib, brwnt‐ymadrodd, allan o'ch genau.

9Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyda'i ymarferiadau,

10a gwisgo y dyn newydd, yr hwn sydd yn cael ei adnewyddu i lawn‐wybodaeth, yn ol delw yr hwn a'i creodd ef;

11lle nid oes Groegwr ac Iuddew, Enwaediad a Dienwaediad, Barbariad, Scythiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, Crist sydd.

12Am hynny, gwisgwch am danoch, megys etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, galon tosturi, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir‐ymaros,

13gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd, os oes gan neb gŵyn yn erbyn neb, fel y maddeuodd yr.

15A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corph; a byddwch ddiolchgar.

16Preswylied Gair Crist ynoch yn gyfoethog; ym mhob doethineb yn dysgu ac yn cynghori eich gilydd, mewn salmau, hymnau, ac odlau ysprydol, yn canu trwy ras.

17A pha beth bynnag a wneloch, mewn gair neu mewn gweithred, gwnewch yr oll yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dâd trwyddo ef.

Dyledswyddau perthynasol.

18Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr, megys y gwedda yn yr Arglwydd.

19Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerw yn eu herbyn.

20Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd yn rhyngu bodd yn yr Arglwydd.

21Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

22Y gweision, ufuddhêwch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ol y cnawd, nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon yn ofni yr Arglwydd.

23Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megys i'r Arglwydd ac nid i ddynion;

24gan wybod mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu;

25canys yr hwn sydd yn gwneuthur cam a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help