1Na cherydda henafgwr yn llym, eithr cynghora ef megys tâd; y rhai ieuengach, megys brodyr;
2y gwragedd hynach, megys mamau, a'r rhai ieuengach, megys chwiorydd, gyd phob purdeb.
3Anrhydedda wragedd gweddwon, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd.
4Ond os oes gan unrhyw weddw blant neu ŵyrion, dysgent yn gyntaf arfer duwioldeb at eu teulu eu hunain, a gwneyd atdaliad i'w rhieni: canys hyn sydd gymmeradwy yng ngolwg Duw.
5Yn awr yr hon sydd weddw mewn gwirionedd ac yn amddifad sydd wedi gosod ei gobaith ar Dduw, ac y mae yn parhâu mewn ymbiliau a gweddiau nos a dydd;
6eithr yr hon sydd yn arwain bywyd gloddestgar sydd yn farw tra yn fyw.
7A'r pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd.
8Ac od oes neb heb ddarparu ar gyfer ei bobl ei hun, ac yn enwedig ei dylwyth ei hun, y mae wedi gwadu y ffydd, ac yn waeth na'r di‐ffydd.
9Na chofrester fel gweddw un dan dri‐ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gwr,
10yn cael tystiolaeth dda am ei gweithredoedd da, os dygodd blant i fyny, os bu lettygar, os golchodd hi draed y saint, os cynnorthwyodd y cystuddiol, os dylynodd bob gweithred dda.
Y gweddwon ieuaingc.11Eithr gwrthod weddwon ieuaingc, canys pan änt yn nwyd‐wyllt yn erbyn iau Crist, priodi a fynnant,
12gan dderbyn condemniad, am iddynt osod heibio eu ffydd gyntaf.
13Heblaw, y maent yn dysgu bod yn segur, gan fyned o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, ond hefyd yn wag‐siaradus ac yn ymyrgar, gan lefaru pethau annghymwys.
14Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuengach briodi, dwyn plant, llywodraethu eu teulu, heb roddi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi:
15canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ol Satan.
16Od oes gan wraig grediniol weddwon, cynnorthwyed hwy, ac na osoder baich ar yr eglwys, fel y cynnorthwyo y gweddwon gwirioneddol.
Henuriaid.17Cyfrifer yr Henuriaid sydd yn llywyddu yn dda yn deilwng o barch dyblyg, yn enwedig y rhai sydd yn llafurio yn y Gair a'r athrawiaeth;
18canys dywed yr Ysgrythyr, “Nid wyt i rwymo safn yr ŷch pan yn dyrnu yr ŷd”; ac, “Y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”
19Yn erbyn Henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr ym mhresennoldeb dau neu dri o dystion.
20Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.
21Yr wyf yn dy dynghedu, ym mhresennoldeb Duw, a Christ Iesu,, a'r etholedig angelion, ar gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o bleidgarwch,
22Na ddod ddwylaw yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill; cadw dy hun yn bur.
23Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydig win er mwyn dy gylla a'th fynych wendidau.
24Pechodau rhai dynion sydd amlwg, yn myned o'r blaen i farn; i rai, y maent yn canlyn ar eu hol.
25Yr un modd hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg, a'r rhai sydd wahanol, nis gellir eu cuddio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.