Iago 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Anogaeth i lawenydd, ffydd, doethineb, a gostyngeiddrwydd.

1Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y Deuddeg Llwyth y rhai sydd o'r Gwasgariad. Byddwch lawen,

2Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amrywiol brofedigaethau,

3gan wybod fod y prawf o'ch ffydd yn gweithredu amynedd;

4ond caffed amynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.

5Ac os yw neb o honoch yn ddiffygiol mewn doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i bawb yn ddiamodol ac heb ddannod, a rhoddir iddo.

6Eithr ceisied mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don;

7canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd—

8gŵr dau‐ddyblyg ei feddwl, ansefydlog yn ei holl ffyrdd.

9Eithr ymffrostied y brawd o radd isel yn ei ddyrchafiad,

10a'r goludog, yn ei ymddarostyngiad, canys megys blodeuyn y glaswelltyn yr ä heibio.

11Canys cyfododd yr haul gyda'r gwynt.

Ni ddaw dim ond daioni oddiwrth Dduw.

12Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth, canys wedi dal y prawf, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef.

13Na ddyweded neb pan demtier ef, Oddiwrth Dduw y'm temtir, canys Duw sydd amhosibl ei demtio gan ddrygau, ac nid yw efe ei hun yn temtio neb;

14ond temtir pob un pan dynner ef ymaith ac yr huder ef gan ei Chwant ei hun.

15Yna Chwant wedi beichiogi a esgor ar Bechod, a Phechod, wedi dyfod i'w lawn dŵf, a esgor ar Farwolaeth.

16Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch:

17Pob rhoddiad da a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dâd y Goleuadau, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod a gyfyd o gylchdroad.

18O'i ewyllys ei hun efe a'n cenhedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ni yn rhyw flaen‐ffrwyth o'i greaduriaid.

Yr angenrheidrwydd o hunan‐ymreolaeth, ufudd‐dod, cariad.

19Gwyddoch hyn fy anwyl frodyr; ond bydded pob un yn gyflym i wrandaw, yn araf i lefaru, yn araf i ddigofaint;

20canys digofaint gŵr nid yw yn gweithredu cyfiawnder Duw.

21O herwydd paham gan roddi heibio bob budreddi ac amlder drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

22Eithr byddwch yn wneuthurwyr y Gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan dwyllo eich hunain.

23Canys os yw neb yn wrandawr y Gair ac nid yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn sylwi yn graffus ar ei wynebpryd naturiol mewn drych:

24canys efe a sylwodd yn graffus arno ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn ebrwydd yr anghofiodd pa fath un ydoedd.

25Ond yr hwn sydd yn edrych yn eiddgar i'r Gyfraith berffaith, sef Cyfraith rhyddid, ac yn parhau felly, gan fod nid yn wrandâwr anghofus ond yn wneuthurwr egniol, hwn a fydd dedwydd yn ei waith.

26Os yw neb yn meddwl ei hun ei fod yn grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnnw.

27Crefydd bur a dihalog gerbron Duw a'r Tâd yw hyn: ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help