2 Timotheus 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Galwad i sel a gweithgarwch.

1Yr wyf yn gorchymyn i ti yn ddifrifol gerbron Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd ar fedr barnu y byw a'r meirw, a myn ei Ymddangosiad a'i Deyrnas,

2pregetha y gair; bydd dyfal mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, cynghora, gyda phob hir‐ymaros ac addysg.

3Canys bydd amser pan na ddyoddefont yr athrawiaeth iachus, eithr yn ol eu chwantau eu hunain hwy a bentyrrant athrawon iddynt eu hunain, gan fod eu clyw wedi merwino;

4ac a droant eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac a droant o'r neilltu at chwedlau.

5Ond tydi, bydd yn sobr ym mhob peth, goddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.

Paul ar ddiwedd ei waith ac yn ymyl ei farw.

6Canys yr wyf fi eisoes yn cael fy offrymmu, a thymhor fy ymadawiad i a ddaeth.

7Yr wyf wedi ymdrechu yr ymdrech dda, yr wyf wedi gorphen y rhedegfa, yr wyf wedi cadw y ffydd.

8O hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnnw, y Barnwr cyfiawn: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb sydd wedi caru ei Ymddangosiad ef.

Y Diweddglo.

9Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder,

10canys Demas a'm gadawodd i, wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia; Titus i Dalmatia;

11Luc yn unig sydd gyda mi. Cymmer i fyny Marc ar y ffordd, a dwg ef gyda thi, canys buddiol iawn yw ef i mi er gwasanaeth.

12Tychicus a ddanfonais i Ephesus.

13Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred a hi, a'r llyfrau, ac yn enwedig y memrynnau.

14Alexander y gôf a wnaeth i mi yn gyhoeddus ddrygau lawer: yr Arglwydd a dâl iddo yn ol ei weithredoedd.

15Yr hwn hefyd gwylia dithau rhagddo, canys ef a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.

16Yn fy amddiffyniad cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant; na chyfrifer hyn iddynt.

17Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd, fel trwof fi y byddai i'n cennadwri gael ei chyhoeddi yn llawn, ac y clywai yr holl genhedloedd: a gwaredwyd fi o enau y llew.

18A'r Arglwydd a'm gwared oddiwrth bob gwaith drwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd, Amen.

19Cyfarch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus.

20Erastus a arhosodd yn Corinth, ond Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf.

21Ymdrecha i ddyfod cyn y gauaf. Y mae Eubulus yn dy gyfarch, a Pudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.

22Yr Arglwydd fyddo gyda'th yspryd. Gras fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help