Ioan 12 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Mair a Judas: cariad haelfrydig a chybydd‐dod lladradus[Mat 26:6–13; Marc 14:3–9; (Luc 7:36–50?)]

1Yr Iesu gan hyny, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus,, yr hwn a gyfododd yr Iesu o feirw.

2Hwy a wnaethant gan hyny swper iddo yno: a Martha oedd yn gwasanaethu; ond Lazarus oedd un o'r rhai a eisteddent wrth y bwrdd gyd âg ef.

3Mair gan hyny gymmerodd bwys o enaint o nard pur gwerthfawr, ac a eneinoedd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd o arogl yr enaint.

4Gan hyny y dywed Judas, yr Iscariot,, un o'i Ddysgyblion ef, yr hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny,

5Paham na werthwyd yr enaint hwn am dri chan denarion, a'i roddi i dlodion, efe a arferai ddwyn ymaith yr hyn a fwrid ynddi.

7Dywedodd yr Iesu gan hyny, Goddef iddi, fel y cadwo hi ef erbyn dydd y parotöad i'm claddedigaeth.

8Canys y mae genych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes genych bob amser.

Cynllwyn i ladd Lazarus.

9Gwybu gan hyny y bobl gyffredin o blith yr Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gyfododd efe o feirw.

10Eithr yr Arch‐offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd;

11oblegyd o'i herwydd ef llawer o'r Iuddewon oeddynt yn myned ymaith ac yn credu yn yr Iesu.

Y Farchogaeth Freninol i Jerusalem[Mat 21:1–11; Marc 11:1–11; Luc 19:29–44]

12Tranoeth tyrfa fawr yr hon a ddaethai i'r Wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem,

13a gymmerasant y cangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant yn uchel, gan ddywedyd,

Hosanna!

Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!

Ie, Brenin Israel!.

14A'r Iesu wedi cael ebol asyn a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, —

15Nac ofna, Ferch Sion:

Wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn.

16Y pethau hyn ni wybu ei Ddysgyblion ef ar y cyntaf; eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur y pethau hyn iddo.

17Gan hyny yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gyd âg ef pan alwodd efe Lazarus allan o'r bedd, ac y cyfododd ef o feirw, yn dwyn tystiolaeth.

18O herwydd hyn hefyd yr aeth y dyrfa i gyfarfod âg ef, am glywed o honynt ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn.

19Y Phariseaid gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Yr ydych yn canfod nad ydych yn tycio dim. Wele, fe aeth y byd ymaith ar ei ol ef!

Ymchwiliad y Groegiaid: athrawiaeth y Cadw.

20Ac yr oedd rhai Groegiaid yn mhlith y rhai a arferent fyned i fyny i addoli yn yr Wyl:

21Y rhai hyn gan hyny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilea, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.

22Y mae Philip yn dyfod, ac yn dywedyd i Andreas: y mae Andreas yn dyfod a Philip, ac y maent yn dywedyd i'r Iesu.

23Y mae yr Iesu yn ateb iddynt, gan ddywedyd, Y mae yr Awr wedi dyfod, fel y gogonedder Mab y Dyn.

24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, y mae yn aros ei hun yn unig: eithr os bydd efe marw, y mae yn dwyn ffrwyth lawer.

25Yr hwn sydd yn caru ei fywyd sydd yn ei golli; a'r hwn sydd yn cashâu ei fywyd yn y byd hwn a'i dyogela i fywyd tragywyddol.

26Os gwasanaetha neb myfi, dylyned fi: a lle yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwas i; os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i anrhydedda ef.

27Yn awr y mae fy enaid wedi ei gynhyrfu: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon: eithr er mwyn hyn y daethum i'r Awr hon:

28O Dâd, gogonedda dy enw. Daeth llef gan hyny o'r Nef,

Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.

29Y dyrfa gan hyny, yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd; eraill a ddywedasant, Angel sydd wedi llefaru wrtho.

30Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid er fy mwyn i y mae y llef hon wedi dyfod, ond er eich mwyn chwi.

31Yn awr y mae barnedgaeth y byd hwn: yn awr y bwrir allan Dywysog y byd hwn.

32A minau, os dyrchefir fi o'r ddaear, a at‐dynaf bawb ataf fi hun.

33Ond hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath angeu yr oedd efe ar fedr marw.

34Y dyrfa gan hyny a atebodd iddo, Ni a glywsom allan o'r Gyfraith fod y Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd fod yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn?

35Dywedodd gan hyny yr Iesu wrthynt, Eto ychydig enyd y mae y Goleuni yn eich plith. Rhodiwch yn ol fel y mae y Goleuni genych, fel na oddiweddo tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio yn y Tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.

36Fel oddi wrthynt.

Dallineb barnol: cyflawniad proffwydoliaeth.

37Ac er ei fod wedi gwneuthur cymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, nid oeddynt yn credu ynddo:

38fel y cyflawnid ymadrodd Esaiah y Proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, —

Arglwydd, pwy a gredodd i'n cenadwri?

Ac i bwy y dadguddiwyd Braich yr Arglwydd?.

39O herwydd hyn ni allent gredu, oblegyd dywedyd o Esaiah drachefn, —

40Y mae efe wedi dallu eu llygaid hwynt,

Ac a galedodd eu calon hwynt;

Fel na welent â'u llygaid,

A dirnad â'u calon,

A'u troi, ac i mi eu hiachâu hwynt.

41Y pethau hyn a ddywedodd Esaiah, oblegyd iddo weled ei Ogoniant ef, ac a lefarodd am dano ef.

42Er hyny, llawer hyd y nôd o'r penaethiaid a gredasant ynddo; ond o herwydd y Phariseaid, nid oeddynt yn gwneyd cyffes, rhag y byddent yn esgymunedig o'r Synagog yn hytrach yn wir na gogoniant Duw.

Canlyniadau pell‐gyrhaeddol ffydd ac anghrediniaeth.

44A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr Hwn a'm hanfonodd i.

45A'r hwn sydd yn syllu arnaf fi sydd yn syllu ar yr Hwn a'm hanfonodd i.

46Myfi wyf wedi dyfod yn Oleuni y byd, fel nad aroso neb sydd yn credu ynof fi yn y tywyllwch.

47Ac os clyw neb fy ymadroddion, ac nis ceidw hwynt, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, ond i achub y byd.

48Yr hwn sydd yn fy niystyru i, ac heb dderbyn fy ymadroddion, y mae iddo un sydd yn ei farnu: Y Gair yr hwn a leferais, hwnw a'i barna ef yn y Dydd Diweddaf.

49Canys myfi ni leferais allan o honof fy hun: ond y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i, y mae efe wedi rhoddi gorchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.

50Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: gan hyny y pethau yr wyf yn eu llefaru, fel y mae y Tâd yn dywedyd wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help