Ioan 17 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Gweddi yr Arglwydd: drosto ei hun.

1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; a chan godi ei lygaid i'r Nef, efe a ddywedodd, O Dâd, y mae yr Awr wedi dyfod: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo y Mab dithau:

2megys y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel, yr hyn oll yr ydwyt wedi ei roddi iddo, y rhoddai iddynt Fywyd Tragywyddol.

3A hyn yw y Bywyd Tragywyddol: Fel y deuant i dy adnabod di, yr Unig Wirioneddol Dduw, a'r hwn a ddanfonaist, Iesu Grist.

4Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, gan gwblhâu y gwaith yr wyt wedi ei roddi i mi i'w wneuthur.

5Ac yn awr, O Dâd, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun â'r gogoniant oedd genyf fi cyn bod y byd gyd â thydi.

Ar ran ei Ddysgyblion: ei ddadl.

6Mi a amlygais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; ac y maent wedi cadw dy air di.

7Yn awr y gwyddant mai oddi wrthyt ti y mae pob peth bynag a roddaist i mi:

8canys y geiriau a roddaist i mi yr wyf wedi eu rhoddi iddynt hwy; a hwy eu hunain a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum allan, ac a gredasant mai tydi a'm danfonaist i.

9Yr wyf yn gofyn drostynt hwy: nid wyf yn gofyn dros y byd, ond dros y rhai yr wyt wedi eu rhoddi i mi; canys eiddot ti ydynt.

10A'r holl bethau ydynt eiddof fi sydd eiddot ti, a'r pethau sydd eiddot ti sydd eiddof fi, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt.

11Ac nid wyf mwyach yn y byd, a'r rhai hyn sydd yn y byd, ac yr wyf fi yn dyfod atat ti. O Dâd Sanctaidd, cadw hwynt yn dy enw, yr hwn wyt wedi ei roddi i mi, fel y byddont un, megys ninau.

12Pan yr oeddwn gyd â hwynt, mi a'u cedwais yn dy enw yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; ac mi a'u gwyliais, a neb o honynt ni chollwyd ond Mab y Golledigaeth, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr.

13Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti; a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

14Yr ydwyf wedi rhoddi iddynt hwy dy Air, a'r byd a'u cashâodd hwynt, oblegyd nad ydynt o'r byd, megys nad wyf finau o'r byd.

Gweddi ar ran ei Ddysgyblion: ei chynwysiad.

15Nid wyf yn gofyn ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt allan o law yr Un Drwg.

16O'r byd nid ydynt, megys nad wyf finau o'r byd.

17Cysegra hwynt yn y Gwirionedd: dy Air sydd wirionedd.

18Fel yr anfonaist fi i'r byd, minau hefyd a'u hanfonais hwythau i'r byd.

19Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn cysegru fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu cysegru mewn gwirionedd.

Ei weddi ar ran yr Eglwys.

20Nid wyf yn gofyn dros y rhai hyn yn unig, ond hefyd dros y rhai sydd yn credu ynof fi drwy eu hymadrodd hwy;

21fel y byddont oll yn un: megys yr wyt ti Dâd ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i.

22A'r gogoniant yr wyt wedi ei roddi i mi yr wyf finau wedi ei roddi iddynt hwy, fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un:

23myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un; fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt, fel y ceraist fi.

24Dâd, yr hyn yr ydwyt wedi ei roddi i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â mi, fel yr edrychont ar fy ngogoniant yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; oblegyd ti a'm ceraist i cyn seiliad y byd.

Y Diweddglo.

25O Dâd Cyfiawn, ac eto nid adnabu y byd dydi; ond mi a'th adnabum, a'r rhai hyny a wybu mai tydi a'm hanfonaist i:

26ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf, fel y byddo y cariad â'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minau ynddynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help