1Ond yr oedd un yn glaf, Lazarus o Bethania, o bentref Mair a Martha ei chwaer.
2A Mair oedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd âg enaint persawrus, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lazarus yn glaf.
3Am hyny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genyt ti yn glaf.
4A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo.
5A'r Iesu oedd yn caru Martha, a'i chwaer, a Lazarus.
6Pan glybu efe gan hyny ei fod ef yn glaf, y pryd hwnw yn wir efe a arosodd yn y lle yr oedd ddau ddiwrnod.
7Yna wedi hyny y mae efe yn dywedyd wrth y Dysgyblion, Awn i Judea drachefn.
8Y mae y Dysgyblion yn dywedyd wrtho, Rabbi, yr awrhon yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yn ol yno drachefn?
9Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr yn y dydd? Os rhodia neb yn y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn.
10Ond os rhodia neb yn y nos, efe a dramgwydda, am nad yw y goleuni ynddo ef.
11Y pethau hyn a lefarodd efe: ac wedi hyn y mae efe yn dywedyd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus wedi huno: ond yr wyf fi yn myned i'w ddihuno ef.
12Dywedodd gan hyny y Dysgyblion wrtho, Arglwydd, Os yw ef yn huno, efe a adferir.
13Ond yr oedd yr Iesu wedi llefaru am ei farwolaeth ef: ond hwy a dybiasant ei fod ef yn dywedyd am hûn cwsg.
14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus.
15Ac y mae yn llawen genyf, er eich mwyn chwi, fel y credoch, nad oeddwn i yno: ond awn ato ef.
16Gan hyny Thomas, yr hwn a elwir Didymus, a ddywedodd wrth ei gyd‐ddysgyblion, Awn ninau hefyd, fel y byddom feirw gyd âg ef.
Cyrhaedd Bethania: yr amgylchiadau yno.17Yr Iesu gan hyny wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18Yn awr yr oedd Bethania yn agos i Jerusalem, ynghylch pymtheg ystâd oddi wrthi.
19A llawer o blith yr Iuddewon oeddynt wedi dyfod at Martha a Mair, i'w cysuro am eu brawd.
20Martha gan hyny, cyn gynted ag y clybu, Y mae yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
21Dywedodd Martha gan hyny wrth yr Iesu, Arglwydd, Pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.
22Ac yr awrhon mi a wn, pa bethau bynag a ofynit ti gan Dduw, y dyry Duw i ti.
23Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Adgyfodir dy frawd.
24Y mae Martha yn dywedyd wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr Adgyfodiad yn y Dydd Diweddaf.
25Dywedodd yr Iesu wrthi,
MYFI YW YR ADGYFODIAD A'R BYWYD:
yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, efe a fydd byw.
26A phwy bynag sydd yn fyw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw o gwbl yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn?
27Dywed hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi wedi credu mai ti yw y Crist, Mab Duw, Yr Hwn sydd yn Dyfod i'r Byd.
28Ac wedi iddi ddywedyd hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd ei chwaer Mair, ac a ddywedodd yn ddirgel, Y mae yr Athraw yma, ac y mae yn dy alw di.
29A hithau cyn gynted ag y clybu, a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.
30(Yn awr, nid oedd yr Iesu hyd yn hyn wedi dyfod i'r pentref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfuasai Martha âg ef).
31Yr Iuddewon gan hyny, y rhai oedd gyd a hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, wedi gweled Mair yn codi yn ebrwydd ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd, i alaru yno.
32Gan hyny Mair, pan ddaeth i'r lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni fuasai farw fy mrawd.
Adgyfodi Lazarus.33Yr Iesu gan hyny, pan y gwelodd hi yn galaru, a'r Iuddewon y rhai a ddaethai gyd â hi yn galaru, a gyffrôdd yn aruthr yn yr yspryd, ac a gynhyrfodd ei hun,
34ac a ddywedodd, Pa le yr ydych chwi wedi ei osod ef? Y maent yn dywedyd wrtho, Arglwydd, tyred a gwel.
35Yr Iesu a wylodd.
36Am hyny y dywedodd yr Iuddewon, Wele fel yr oedd yn ei hoffi ef!
37A rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dyn dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
38Iesu gan hyny, gan gyffroi yn aruthr drachefn ynddo ei hun, sydd yn dyfod at y bedd: ac ogof oedd, a maen a ddodasid yn ei herbyn.
39Yr Iesu a ddywed, Codwch ymaith y maen. Martha, — chwaer yr hwn oedd wedi marw, — a ddywed wrtho, Arglwydd y mae efe weithian yn drewi: canys y mae efe yn farw er ys pedwar diwrnod.
40Yr Iesu a ddywed wrthi, Oni ddywedais i ti, pe credit, y cait weled gogoniant Duw?
41Hwy gan hyny a godasant ymaith y maen. A'r Iesu a gododd ei lygaid i fyny, ac a ddywedodd, O Dâd, yr wyf yn diolch i ti am wrando arnaf.
42Ac myfi a wyddwn dy fod yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.
43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a waeddodd â llef uchel, Lazarus, tyred allan.
44A'r hwn oedd farw a ddaeth allan, wedi ei rwymo draed a dwylaw mewn bedd‐rwymau; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Dywed yr Iesu wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned.
Cysgod y dyfodol: Proffwydoliaeth Caiaphas.45Llawer gan hyny o'r Iuddewon, y rhai a ddaethant at Mair, ac a welsant yr hyn a wnaethai efe, a gredasant ynddo.
46Eithr rhai o honynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47Gan hyny yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a gynullasant Gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae y dyn hwn yn gwneuthur arwyddion lawer.
48Os gadâwn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; a'r Rhufeiniaid a ddeuant, ac a gymmerant ymaith ein lle ni a'n cenedl hefyd.
49A rhyw un o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim,
50nac yn cyfrif mai buddiol i chwi farw o un dyn dros y bobl, ac na ddyfether yr holl genedl.
51Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun; eithr ac efe yn Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, efe a broffwydodd fod yr Iesu ar farw dros y genedl:
52ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe i un pobl blant Duw, y rhai sydd wedi eu gwasgaru ar led.
53Gan hyny o'r dydd hwnw allan yr ymgynghorasant fel y lladdent ef.
54Yr Iesu gan hyny ni rodia mwy yn hyf yn mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r Anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac yno yr arosodd gyd â y Dysgyblion.
Neshâd y Pasc; gwylied yr Oen.55A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant i fyny i Jerusalem o'r wlad o flaen y Pasc, i buro eu hunain.
56Gan hyny yr oeddynt yn ceisio yr Iesu, ac yn dywedyd wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi? Ai ni ddaw efe o gwbl i'r Wyl?
57A'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid oeddynt wedi rhoddi gorchymynion, fel os deuai neb i wybod pa le y mae efe, y rhoddai hysbysrwydd, fel y gallent ei ddal ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.