1Ac ar ol darfod o'r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y dysgyblion, a'u cynghori a'u cofleidio i fyned i Macedonia.
2Ac wedi iddo fyned trwy y parthau hyny, a'u cynghori â llawer gair, efe a ddaeth i Groeg.
3Ac wedi iddo dreulio tri mis, ac i gynllwyn gael ei wneyd gan yr Iuddewon yn ei erbyn pan ar fedr morio i Syria, daeth i'r penderfyniad i ddychwelyd trwy Macedonia.
4A chydymdeithodd ag ef, Sopater o Berea, mab
Pyrrhus; ac o'r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe a Thimotheus; ac o Asia, Tychicus a Trophimus.5A'r rhai hyn wedi cyrhaedd yno a arosasant am danom yn Troas.
6A ni a fordwyasom ymaith ar ol dyddiau y Bara Croyw o Philippi, ac a ddaethom atynt i Troas yn mhen pum niwrnod, lle y treuliasom saith niwrnod.
Swper yr Arglwydd yn Troas: Damwain angeuol ac adferiad gwyrthiol.7Ac ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, a ninau wedi ymgynull ynghyd i Dori Bara, ymresymai Paul â hwynt, ar fedr myned ymaith dranoeth, ac a barhâodd ei ymadrodd hyd haner nos.
8Ac yr oedd llawer o oleuadau yn yr oruwch‐ystafell, lle yr oeddem wedi ymgynull ynghyd.
9A rhyw wr ieuangc o'r enw Eutychus oedd yn eistedd yn y ffenestr, yn cael ei lethu gan drwm‐gwsg; ac fel yr oedd Paul yn ymresymu yn helaethach, efe, wedi ei lethu gan y cwsg, a syrthiodd o'r drydedd loft, ac a godwyd i fyny yn farw.
10A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio a ddywedodd, Na therfysgwch, canys y mae ei fywyd ynddo.
11Ac wedi iddo fyned i fyny, a thori y Bara, a bwyta, ac ymddyddan am hir amser, hyd doriad dydd, felly yr ymadawodd.
12A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
Ar droed i Assos: dros y môr i Miletus.13A nyni wedi cyrhaedd hyd at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr yno cymeryd Paul i mewn; canys felly yr oedd efe wedi trefnu pan ar fedr myned ei hun ar draed.
14A phan gyfarfu efe a ni yn Assos, ni a'i cymerasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.
15Ac wedi mordwyo oddiyno, dranoeth ni a ddaethom gyferbyn a Chios; ac ar y dydd arall ni a wthiasom yn groes i Samos; a'r dydd canlynol ni a ddaethom i Miletus:
16canys yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia; canys brysiai, os oedd bosibl iddo, i fod yn Jerusalem Ddydd y Pentecost.
Paul a Henuriaid Ephesus yn Miletus, 17–38.17Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd ato Henuriaid yr eglwys.
18A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch o'r dydd cyntaf y gosodais droed yn Asia, pa fodd y bum gyda chwi yr holl amser;
19gan wasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau a ddygwyddasant i mi yn nghynllwynion yr Iuddewon:
20y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegu i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ;
21gan dystiolaethu i Iuddewon a Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.
22Ac yn awr, wele myfi, yn rhwym yn yr yspryd, yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddant i mi ynddi:
23oddieithr fod yr Yspryd Glân o ddinas i ddinas yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
24Eithr nid wyf yn gwneuthur unrhyw gyfrif o'm heinioes fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y gorphenwyf fy ngyrfa a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw.
25Ac yn awr, wele, mi a wn na welwch chwi oll fy wyneb i mwyach, yn mysg y rhai y tramwyais, gan bregethu y Deyrnas.
26Gan hyny yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll;
27canys nid ymateliais rhag mynegu holl gynghor Duw i chwi.
28Edrychwch atoch eich hunain ac at yr holl braidd, yn mhlith y rhai y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Arolygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a brynodd Efe trwy ei briod waed.
29Mi a wn y daw i mewn i'ch mysg ar ol fy ymadawiad fleiddiaid blinion, y rhai nad arbedant y praidd.
30Ac o'ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynu ymaith y dysgyblion ar eu hol eu hunain.
31Am hyny gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais gynghori pob un gyda dagrau.
32Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i Air ei ras, yr Hwn sydd yn alluog i adeiladu ac i roddi yr Etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
33Arian neu aur neu wisg neb ni chwenychais.
34Chwychwi a wyddoch i'r dwylaw hyn wasanaethu i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi.
35Rhoddais i chwi esiampl yn mhob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, iddo ei Hun ddywedyd, Gwynfydedig yw Rhoddi yn hytrach na Derbyn.
36Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a myned ar ei liniau, efe a weddïodd gyda hwynt holl.
37Ac wylo yn dost a wnaeth pawb, ac a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant drachefn a thrachefn,
38gan ymofidio yn benaf am y gair a ddywedasai, na chaent dremio ar ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.