1Yna gan hyny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd.
2A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg uchaf o borphor am dano:
3a hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iuddewon. A hwy a roisant iddo gernodiau.
‘Wele y Dyn’[Mat 27:22; Marc 15:12, 13; Luc 23:20, 21]4A Philat aeth y tu allan drachefn, ac a ddywed wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef y tu allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael sail i gyhuddiad ynddo ef.
5Yr Iesu gan hyny a ddaeth y tu allan, yn gwisgo y goron ddrain a'r wisg borphor; a dywed Pilat wrthynt, Wele y Dyn!
6Pan gan hyny y gwelodd yr Arch‐offeiriaid a'r Is‐swyddogion ef, hwy a lefasant allan, gan ddywedyd, Croeshoelia, Croeshoelia. Dywed Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch; canys nid wyf fi yn cael sail cyhuddiad ynddo ef.
7Yr Iuddewon a atebasant iddo, Y mae genym ni Gyfraith, ac yn ol y Gyfraith, efe a ddylai farw, am iddo wneuthur ei hun yn Fab Duw.
Awdurdod Pilat, ac o ba le y daeth.8Pan glybu Pilat gan hyny yr ymadrodd hwn, efe a ofnodd yn fwy,
9ac efe a aeth i mewn drachefn i'r Pretorium, a dywed wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roddodd yr Iesu ateb iddo.
10Dywed Pilat gan hyny wrtho, Oni leferi di wrthyf fi? Ai ni wyddost fod genyf awdurdod i'th ryddhâu di, a bod genyf awdurdod i'th groeshoelio?
11Iesu a atebodd iddo, Ni byddai i ti unrhyw awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: o herwydd hyn y mae ar yr hwn sydd yn fy nhraddodi i ti bechod mwy.
Diwedd y Prawf: y Barnwr euog yn traddodi y Diniwed.12Ar hyn, yr oedd Pilat yn ceisio ei ryddhâu ef, ond yr Iuddewon a lefasant allan, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid ydwyt gyfaill i'r Cesar: pob un a'r sydd yn gwneuthur ei hun yn frenin sydd yn dywedyd yn erbyn y Cesar.
13Pilat gan hyny, pan glywodd y geiriau hyn, a ddygodd yr Iesu y tu allan, ac a eisteddodd ar orsedd‐fainc mewn lle a elwir Palmant, ond yn Hebraeg, Gabbatha.
14Ac yr oedd yn ddydd Parotöad y Pasc, ac ynghylch y chweched awr: a dywed wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin!
15Hwythau gan hyny a lefasant, Ymaith âg ef, ymaith âg ef, croeshoelia ef. Pilat a ddywed wrthynt, A groeshoeliaf eich Brenin chwi? Yr Arch‐offeiriaid a atebasant, Nid oes genym Frenin ond Cesar.
16Yna y traddododd efe ef iddynt hwy fel y croeshoelient ef.
Y Croeshoeliad ar ol y Croesholiad[Mat 27:33–37; Marc 15:22–26; Luc 23:34–38]Gan hyny hwy a gymmerasant yr Iesu.
17A chan ddwyn y groes iddo ei hun, efe a aeth allan i'r lle a elwir Lle Penglog, yr hwn a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
18lle y croeshoeliasant ef, a chyd âg ef ddau eraill, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.
19A Philat hefyd a ysgrifenodd deitl, ac a'i gosododd ar y groes. Ac yr oedd yn ysgrifenedig,
IESU O NAZARETH, BRENIN YR IUDDEWON.
20Y teitl hwn gan hyny a ddarllenodd llawer o'r Iuddewon; canys agos i'r Ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Lladin, a Groeg.
21Dywedodd gan hyny Arch‐offeiriaid yr Iuddewon wrth Pilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Efe a ddywedodd, Brenin yr Iuddewon ydwyf fi.
22Pilat a atebodd,
Yr hyn wyf wedi ysgrifenu wyf wedi ysgrifenu.
Y Pedwar Milwr hunan‐geisiol a'r bedair Gwraig ffyddlon: Yr Iachawdwr tyner a gofalus[Mat 27:35; Marc 15:24; Luc 23:24]23Y milwyr gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant ei wisgoedd uchaf, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran: hefyd yr is‐wisg. Yn awr, ei is‐wisg oedd ddiwniad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf drwyddi oll.
24Dywedasant gan hyny wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond bwriwn goel‐brenau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Ysgrythyr,
Rhanasant fy nillad yn eu mysg eu hunain,
Ac ar fy ngwisg y bwriasant goel‐bren.
Y pethau hyn gan hyny a wnaeth y milwyr.
25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen.
26Iesu gan hyny yn gweled ei Fam, a'r Dysgybl, yr hwn oedd efe yn ei garu, yn sefyll yn ymyl, a ddywed wrth ei Fam, O wraig, wele dy Fab!
27Yna y dywed efe wrth y Dysgybl, Wele dy Fam! Ac o'r Awr hono y cymmerodd y Dysgybl hi i'w gartref ei hun.
Y Diwedd[Mat 27:46–50; Marc 15:34–37; Luc 23:46]28Wedi hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywed, Y mae syched arnaf.
29Yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: gan hyny hwy a osodasant ysbwng llawn o finegr ar isop, ac a'i dygasant at ei enau ef.
30Pan dderbyniodd yr Iesu gan hyny y finegr, dywedodd, Gorphenwyd: ac efe a blygodd ei ben, ac a roddodd i fyny yr yspryd.
Gwaed a dwfr: cyflawniad pellach o'r Ysgrythyr.31Yr Iuddewon gan hyny, gan ei bod y Parotoad, fel nad arosai y cyrff ar y groes ar y Sabbath (canys Diwrnod Mawr oedd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat fel y gellid tori eu coesau hwynt, a'u cymmeryd hwynt ymaith.
32Daeth y milwyr gan hyny, ac a dorasant goesau y cyntaf, a'r llall a groeshoeliasid gyd âg ef:
33eithr wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisioes, ni thorasant ei goesau ef;
34ond un o'r milwyr â gwaywffon a wanodd ei ystlys, ac yn ebrwydd y daeth allan waed a dwfr.
35A'r hwn sydd wedi gweled sydd wedi tystiolaethu, a gwirioneddol yw ei dystiolaeth ef: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd pethau gwir fel y credoch chwithau hefyd.
36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, —
Ni friwir.
37A thrachefn ysgrythyr wahanol sydd yn dywedyd,
Hwy a edrychant tu ag at yr hwn a drywanasant.
Ei gladdu: y Dysgyblion dirgel a'r Bedd Newydd[Mat 27:57–61; Marc 15:42–47; Luc 23:50–56]38Ac ar ol y pethau hyn, Joseph o Arimathea, yr hwn oedd Ddysgybl yr Iesu, eithr yn guddiedig o herwydd ofn yr Iuddewon, a ofynodd i Pilat fel y cymmerai ymaith gorff yr Iesu: a Philat a ganiatâodd. Efe a ddaeth gan hyny, ac a gymmerodd ef gorff ef
ymaith.39A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai ar y cyntaf ato yn y nos, gan ddwyn rhol o fyrr ac aloes tua chàn pwys.
40Felly y cymmerasant gorff yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef mewn llieiniau gyd â y peraroglau, fel y mae arfer yr Iuddewon i gladdu.
41Yn awr yn y man lle y croeshoeliasid ef yr oedd gardd; ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb erioed.
42Yno gan hyny, o herwydd Parotöad yr Iuddewon, canys yr oedd y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.