Matthew 13 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Dammeg yr un had a'r amryw fath o dir.[Marc 4:1–9; Luc 8:4–8]

1Y dydd hwnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ, ac a eisteddodd wrth lan y môr;

2a thorfeydd lawer a ymgynnullasant ato ef, fel yr aeth efe i gwch, ac yr eisteddodd; a'r holl dyrfa oedd yn sefyll ar y traeth.

3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mewn dammegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau;

4ac fel yr oedd efe yn hau, peth hadau a syrthiasant ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant ac a'u difasant;

5ac ereill a syrthiasant ar y creigleoedd, lle ni chawsant fawr daear; ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear.

6Ond wedi i'r haul godi deifiwyd hwynt, ac am nad oedd iddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7A rhai ereill a syrthiasant ar y drain; a'r drain a dyfasant, ac a'u tagasant.

8Ac ereill a syrthiasant ar y tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ei ganfed, peth ei dri ugeinfed, a pheth ei ddegfed ar hugain.

9Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.

Y Rheswm am lefaru mewn dammegion.[Marc 4:10–12; Luc 8:9, 10]

10A daeth y Dysgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt mewn dammegion?

11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae wedi ei roddi i wybod dirgelion Teyrnas Nefoedd, ond iddynt hwy nid yw wedi ei roddi.

12Oblegyd pwy bynag sydd ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaethrwydd; eithr pwy bynag nid oes ganddo — ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith oddiarno.

13Am hyny, yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy mewn dammegion, canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14Ac iddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Esaiah, yr hon sydd yn dywedyd,

“Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch ddim;

Ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;

15Canys brashawyd calon y bobl hyn,

Ac â'u clustiau y clywant yn drwm,

Ac a gauasant eu llygaid,

Rhag canfod o gwbl â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau,

A deall â'r galon,

A throi, ac i mi eu hiachau hwynt.”

16Eithr dedwydd eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled, a'ch clustiau, am eu bod yn clywed.

17Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, i lawer o broffwydi a rhai cyfiawn chwennychu gweled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

Deongliad y ddammeg.[Marc 4:13–20; Luc 8:11–15]

18Gwrandewch chwithau, gan hyny, ddammeg yr hauwr.

19Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae yr Un Drwg yn dyfod ac yn cipio yr hyn sydd wedi ei hau yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, efe yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn y fan gyda llawenydd yn ei dderbyn;

21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am dymhor y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid o herwydd y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22A'r hwn a hauwyd yn mhlith y drain, efe yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae pryder y byd a thwyll cyfoeth yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23Ond yr hwn a hauwyd ar y tir da, hwn yw efe sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall; yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

Dammeg y gwenith a'r efrau.

24Dammeg arall a osodododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes;

25ond tra yr oedd dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd drachefn efrau yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26Ac wedi i'r eginyn dyfu a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27A gweision gwr y ty a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a hauaist di yn dy faes? O ba le gan hyny y daeth efrau?

28Yntau a ddywedodd wrthynt, Dyn sydd elyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedant wrth, A fyni di gan hyny i ni fyned ymaith a'u casglu hwynt?

29Ond efe a ddywed, nid felly, rhag dygwydd i chwi wrth gasglu yr efrau, dynu o'r gwraidd y gwenith gyda hwynt.

30Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn nhymhor y cynauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er eu llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

Dammeg y mwstard.[Marc 4:30–32; Luc 12:18, 19]

31Dammeg arall a osododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes.

32Yr hwn yn wir sydd lai nâ'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, y mae yn fwy nâ'r llysiau, ac yn dyfod yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn ymlochesu yn ei gangau ef.

Dammeg y lefain.[Luc 13:20, 21]

33Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.

34Hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn dammegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd ddim wrthynt;

35fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd drwy y proffwyd, gan ddywedyd,

Agoraf fy ngenau mewn dammegion,

Mynegaf bethau cuddiedig er seiliad y byd.

36Yna y gadawodd efe y torfeydd ac a aeth i'r ty; a'i Ddysgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn;

38a'r maes yw y byd; a'r had da, hwynthwy yw meibion y Deyrnas; a'r efrau yw meibion yr Un Drwg;

39a'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt yw y Diafol; a'r cynauaf yw diwedd y byd, a'r medelwyr ydynt Angelion.

40Megys gan hyny y cesglir yr efrau, ac eu llosgir â thân; felly y bydd yn niwedd y byd.

41Mab y Dyn a ddenfyn allan ei Angelion, a hwy a gasglant allan o'i Deyrnas ef yr holl bethau a achosant dramgwydd, â'r rhai a wnant anwiredd,

42ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.

43Yna y rhai cyfiawn a lewyrchant allan fel yr haul yn Nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed.

Y trysor cuddiedig.

44Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, efe a'i cuddiodd; ac o lawenydd am dano, y mae yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnw.

Yr un perl gwerthfawr.

45Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i farchnatäwr yn ceisio perlau teg;

46ac wedi cael un perl gwerthfawr, efe a aeth ymaith, ac a werthodd yr oll a feddai ac a'i prynodd ef.

Y dynrwyd.[Marc 4:33, 34]

47Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i dynrwyd a fwriwyd i'r môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth,

48yr hon wedi ei llenwi a ddygasant i fyny ar y traeth, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da i lestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.

49Felly y bydd yn Niwedd y Byd; yr Angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.

Yr efengyl yn hen a newydd.

51A ddeallasoch y pethau hyn oll? Hwythau a ddywedant wrtho, Do.

52Ac efe a ddywedodd wrthynt, Am hyny pob ysgrifenydd yr hwn a wnaed yn ddysgybl i Deyrnas Nefoedd, sydd gyffelyb i ddyn sydd i feistr ty, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.

Y Proffwyd yn ei wlad ei hun.[Marc 6:1–6; Luc 4:16–30]

53A bu, wedi i'r Iesu orphen y dammegion hyn, efe a symmudodd oddiyno.

54Ac wedi iddo ddyfod i'w wlad ei hun, yr oedd efe yn eu dysgu hwynt yn eu synagog, yn gymmaint ag iddynt synu a dywedyd, O ba le y daeth i'r dyn hwn y doethineb hwn a'r galluoedd nerthol?

55Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joseph, a Simon, a Judas, ei frodyr ef?

56A'i chwiorydd ef, onid ydynt hwy oll gyda ni? O ba le gan hyny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57A hwy a rwystrwyd ynddo ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ac yn ei dy ei hun.

58Ac ni wnaeth efe lawer o weithredoedd nerthol yno, oblegyd eu hannghrediniaeth hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help